Gwaith Gwilym Hiraethog/R ap Gwilym Ddu

Oddi ar Wicidestun
Ar ymweliad i Gymru Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Morgan Howell


R. AP GWILYM DDU.

O LYNLLEIFIAD lawn llafur,
Awen bach, i Eifion bur,
Dianc yn ddistaw dawel,
O dre y mŵg i dir mel;
A chai yno iach anadl,
Wych o hyd yn lle tawch hadl.
O hagr swn a chlegr y Sais,
Crochlef y Gwyddel crychlais,
A'r Ysgotyn, tordyn tew,
Crintach, ystyfnig, croentew,
Ymorol—cai ymwared,
Yn chwai, chwai—hai, hai! ehed!
A bydd, o digwydd y daw
Un dyn wrth it' fynd ynaw,
Neu ferch deg, a'th gyfarch di,
Na ateb, archaf iti,
I yrru ymlaen heb eiriach,
Hyd borth y Mynachdy Bach.
Cura 'r ddor, cai agoriad,
Yno i ti bydd caniatad.
Yna, wedyn, heb oedi,
I fewn dos—ymofyn di,
Ai byw hen esgob awen,
'Rhwn â'i wallt yn goron wen
Uwch ei ael yn gylch welir,
Cysgodlen i'w awen îr.
Mae fal doeth dderwydd, coeth, call,
Eres ŵr o oes arall :
Peraidd iawn yn nawn einioes,
Yw ei gân, fel y' mrig oes;
Parchus iawn y' mhrydnawn einioes,
Ei wedd ef yn niwedd oes.

Llais ei gerdd, felusgerdd
lon, Ymlid ofid o Eifion;
Cana fel hedydd ceinwych,
Uwch ben yn y wybren wych,
Neu geiliog bronfraith gwiwlon,
O'r dail fry ar dal y fron,
Ei awen, hon yn ei henaint,
Iraidd yw heb arwydd haint;
Eos yw—pan dery sain
Beroriaeth byw arwyrain,
Arwydd i'r adar ereill
Dewi, a'n llesg dawn y lleill.
Am un waith, minnau euthum
Drwy Ardd[1] y bardd, ar dro bum:
Gardd awen, a'i gwyrdd wiail,
Ni bu un ardd hardd o'i hail.
Eirian law yr awen lwys
Fu'n brodiaw 'r fwyn baradwys.
Lluosog ceir llysiau cain,
A blodau wyneb lydain;
Rhosynau aml—liwiau 'n lwys,
Urddolant yr ardd wiwlwys:
Coedlwyni caead lawnion,
Irion, heirdd, a geir yn hon;
Ac adar lu, mwynwar mân,
Ar gangen yn per gyngan;
Ac o'r tewfrig lle trigant,
Ein swyno ni â'u sain wnant.
Difyr yw gweled Dwyfach,
Esgud wedd, a'i physgod iach,
Yn chwarae rhwng ei cherrig,
Hynaws ddull, heb un naws ddig.

Yr afon lon ddolenna
Drwy'r Ardd, gan ymdroi yr a;
A'r Ddwyfawr, loewrydd afon,
A iraidd lif drwy 'r ardd lon;
Ar hyd mân raean hi red,
Yn fwyna' dim wrth fyned—
Y sia hon â naws heini,
"Y môr y môr mawr i mi!"
Ar lan ddifyr lonydd,
Y Bardd Du yn syllu sydd,
Efo'i fwyn "lawforwyn fach,"
Awenydd, fu ei mwynach?
Hyfryd hynod yw rhodio
Gyda 'r bardd drwy ei
Ardd o; Ac eistedd ar lawr gwastad,
Neu ar fryn, heb un oer frad;
Ac esgyll coed yn gysgod
Uwch ben—onid iach yw bod
Yno yn gorffwys ennyd,
O boen a thrafferth y byd?
Trin y dail, troi â'n dwylaw
Flodau tlysion, llon â'r llaw;
Sawru y llysiau irion,
Hel llu o'r briallu llon.
Addefir bod Gardd Eifion
Heb ei hail, mae wyneb hon
Dan d'wniad gwen heulwen ha',
Un wedd ag Eden Adda.
Mwy yw helaeth doraeth da
Gardd Eifion na gardd Efa;
A cheir melusach aeron
Ar Bren Bywyd hyfryd hon,
Nag oedd ar un honno gynt,
A rhinwedd geir o honynt:

Eli i ofid y cleifion,
Esmwythder i brudd—der bron;
Eli iachâ elwch hen
Niweidiau trymion Eden,
Ddeuai arnom ryw ddiwrnod,
Nod o farn ofnadwy i fod:
"Drwy goeliaw y drwg elyn,
Marwolaeth a ddaeth i ddyn."

Ba'nd rhyfedd yn niwedd oes,
Oedd i'r hen brif—fardd eirioes,
Yn Eifionydd droi'n fynach!
"Och di byth, Fonachdy bach!"
Yno hwyliodd cyn elawr,
Ys ei fynd o'r Betws Fawr.

Myned sy raid i minnau,
Canu 'n iach bellach i bau
Gwerdd Eifion, a'i gardd hefyd,
A'i hardd hen brif-fardd—mae 'n bryd
A'i gu Efa, deg hefyd,
Enau ffraeth, dirion ei phryd:
Hoen ddiddan i'w hen ddyddiau,
A hedd fo 'u diwedd eu dau:
A phan del gorffeniad oes,
Dirwyniad edau'r einioes,
Eiddunaf i'r ddau anwyl,
Anniwedd oes, newydd ŵyl.

Nodiadau[golygu]

  1. "Gardd Eifion," gwaith barddonol R. ab Gwilym Ddu. Cyfeirir at y cywydd sydd ynddi,—"Myfyrdod y bardd ar lan Dwyfach."