Neidio i'r cynnwys

Gwaith Gwilym Hiraethog/Awdl Heddwch rhan III

Oddi ar Wicidestun
Awdl Heddwch rhan II Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cyfres y Fil


III.

Adfywia, cyfod f'awen,
Dwyre 'nawr hyd awyr nen;
Ymeneinia 'm mun anwyl,
Yna rho'th delyn ar hwyl.
Gwlych dy ddestlus wefus wan
Yn hen wlyboedd gwin Liban:




CURO'R CLEDDYFAU'N SYCHAU.

"Fe'i cura nes a yn swch,
gywrain ei gwasanaethgarwch."



Yf o ddwfr arafaidd iach.
Siloa, nid oes loewach:
Yfa, anghofia ofid
Rhyfeloedd, lluoedd, a'u llid;
Gwybydd 'r a'r gaea' heibiaw,
Haf tawel, gan ddychwel ddaw.
Ha ha! daw, daw o'r diwedd,
Anwyl haf efengyl hedd.

Hoff ydoedd gan broffwydi'—yn eu dydd,
O fryn Duw drwy'r llenni,
Weld gwawrddydd ei hafddydd hi,
O'r dwyrain draw ar dorri.

Y dydd a ganfu Dafydd yn dyfod,
Yn derfyn camwedd, i drefnu cymod;
I Dduw o'i ras ail greu 'r ddaear isod,
A'i heddychu gyda'r nefoedd uchod;
I gu adfer y byd oll i gyfod,
Ac i'w rwymo dan gyfeillgar amod:
I dynnu beichiau duon ei bechod
Oddi arno, a dryllio ieuau ei drallod:
Awen Dafydd yn fwyn iawn ei delod,
Yn gu o'i holl ingder gai ollyngdod;
Ei lon a difyr delyn a'i dafod,
A hwylus seinient yn felus hynod;
Gan arddatgan glân glod—y dydd bo i waith,
Rhyfeloedd hirfaith, ymrafael ddarfod.
Ei gân ef i Selef sydd,
Na welir un o'i heilydd:
Cân yw hon ar y pwnc hed¹,
Iesu hael yw ei sylwedd;
Teyrnasiad tirion Iesu,
yma gawn yn y salm gu,
'N dwyn cysur pur i bob pau,

A mwyn hedd o'r mynyddau;
Rhyfedd gyfiawnder hefyd.
O'r bryniau, hwythau, o hyd;
A gwlith o fendith yn fan
A ollwng y nen allan.
Dynion pob gwlad a dinas,
Ar lwydd fel y ddaear las;
Tyfant, blodeuant hefyd,
Ffrwythant, amlhant o hyd.
Ei radau, fwyn Waredydd,
O for i for, yn fawr fydd.

Gweryd y truan gwirion—o'i rwymau,
Tyrr ymaith y creulon:
Tery Iesu y trawsion,
A rhydd fraw trwy eu gwrdd fron.

Llywodraeth teyrniaid llawdrom,
Pob iau bleth a'r dreth fawr drom.
Ddiddyma, ddilea 'n lân,
Na ellir o hyn allan,
I asiaw nag ail osod
Un o rhai'n o dan y rhod.
Ei enw 'n fawr iawn a fydd,
Rhed ei glod 'r hyd y gwledydd;
Ei glod fydd yn dreigladwy
Oesau fyrdd, ac erys fwy:
Ys erys tra fo seren,
A haul yn wir ar ael nen :
Yna hedd fydd mewn mwynhâd
Tra y dyrch llewyrch llenad,
Ar y bydl, a thra y b'o
Hon ar hyd nen yn rhodio.
Canai Esaia gynnes ei awen,
Oroian heddwch, a'i riniau addien:

O gyff lese, wele y wialen,
Un iraidd delaid yn werdd ei deilen:
O wreiddyn Dafydd y llywydd llawen,
A ddaw i wir arwedd hedd i'r ddaearen:
A gwelai yma y nefol golomen,
Arno 'n 'hedeg a'i thirion wen aden;
Yn dragywydd bydd yn ben-a phob pau,
A ddaw yn flodau heirddion fel Eden.
Cu anadla ar y cenhedloedd,
A hwy a wnan' yfed anian y nefoedd;
'R anwir lewyga, trenga trwy ingoedd,
Yn sawyr anadl iachus ei rinoedd :
Tirion esyd ei farn rhwng teyrnasoedd,
Tery falais, distawa ryfeloedd:
A holl gleddyfau, tariannau trinoedd,
A yrrant, torrant yn eirf trin tiroedd:
A deiliaid pob ardaloedd-gant heddwch,
A llonyddwch drwy 'u holl aneddoedd.


Y llew anwar ddaw 'n llonydd,
Gwair a bawr, a gwâr y bydd;
Tan yr iau cyd-dynnu â'r ych,
Wna o'i fodd, yn ufuddwych:
Bachgen bychan egwan a
Ar ei fwng, a chrafanga;
A llyfa y llew ufydd
Ei law fach, heddychol fydd.
Yr arth a'r fuwch heb guwchiaw,
Orweddant drwyn wrth drwyn draw
Ar y ddol, a phawr y ddwy
Irwellt, heb angen aerwy;
Llydnod y ddwy hwy a ant
Hyd y bryncyn, cydbranciant:
Y blaidd dig yn ddiddig ddaw
Yn dra hygar i drigaw,

Efo'r oen, heb chwerw fryd,
Rhyfedd y chwery hefyd.
A'r llewpard brych ei wrychyn
Ar y maes, a chwery â'r myn:
Ar dwll yr asb, er ei dig,
A'i hen anian wenwynig,
Bachgen llon y fron heb frad
A chwery heb och irad:
A chwery un bach arall,
Yn ddifraw ger llaw y llall,
Efo'i law'n ddiofal iawn,
Ar wâl y wiber greulawn;
Hon o'i ffau estyn ei phen,
Ni fratha'r wiber frithwen
Y bach, ei groesawn bydd,
Ar ei lin yn bur lonydd.

Daw adgas drigias dreigiau,-dir anial
Dan driniaeth, dwg ffrwythau :
Wele hwn ar ol ei hau,
Dry wedyn yn dir ydau.

Todda'r mynyddau, bryniau wybrennol
Wneir yn wastad-dir, frodir hyfrydol:
I'w pwynt e lenwir pantau olynol,
Hefyd unionir yr hollfyd anianol:
Y byd wregysir, dygir yn gymdogol,
Heb ball hefyd, genhedloedd pellafol:
Ac wele dygir goleu diwygiol
Trwy rym arfeddyd celfyddyd fuddiol;
E gerdd yr agerdd rwygol-trwy bob man,
Daw'n ddiau allan fyd newydd hollol.
Hen ddreigiau mwy ni ddrygant,
Tueddu 'n wir at hedd wnant:
E dawdd nerth annedwydd nod,
Hyll falais y gwyllfilod.

Mewn llwydd ar fynydd dedwydd y Duwdod,
Hynaws eu helfen gwnant eu preswylfod;
Ni ddaw du ragfarn mwy i'w hedd drigfod,
Na llaw camwedd i fallu eu cymod:
Enw glân yr Ion a'i glod-ddyrchefir,
A'i fawl a seinir yn felus hynod.
Gwawr deg y waredigaeth,
Yn nwyrain nef torri wnaeth:
Y'nghyflawnder amser Ion,
Ei ddidwyll addewidion,
Cyflawnwyd, gwiriwyd heb goll,
Eu dygid i ben digoll.
Yn ol y broffwydoliaeth,
Mab Duw'n ddyn y'mhob dawn ddaeth;
I'n dwyn ni a Duw yn ol,
I gu heddwch tragwyddol.

I ddwyn yn un ddynion anwar,—difa
Pob dyfais ryfelgar;
Newid tuedd plant daear—
Hedd i fyd trwy ladd ei fâr.

Oen Duw, pan y ganed ef,
Llawenodd yr holl wiwnef.

Llu y nefolion llawenaf wylient,
Yn niferoedd i Beth'lem cyfeirient,
Y bore 'i genid; a hwy a bêr ganent,
I'w Hosanna'r wybrennau a seinient:"
Banerau heddwch uwch ben a roddent;
Yn chwa yr awel fwyn y chwareuent:
Cerubiaid Eden wen a ymunent,
Yn yr alaw gyda'u brodyr eilient;
Eu llidiog gleddyf tanllyd a gladdent,
Oll yn y wain am byth, a llon wenent;

Oddi ar helyg y nefoedd yr hwylient
Eu hen delynau a'u tannau dylanwent:
Wyneb eu Duw adwaenent—a'i arddel,
Yn ei wael breseb, i'w ganmol brysient.
Uwch Beth'lem eu hanthem hwy,
Ga fod yn fyth gofiadwy:—


"Gogoniant i Naf, trwy'r goruchafion,
Ceidwad a anwyd er codi dynion :
E gaed y Dyddiwr, Heddychwr ddichon.
Roddi 'i law anwyl ar Dduw a'i elynion:
O wele! i ddaearolion—hedd a rhad,
O dyna gariad Duw dan ei goron."
Cyhoeddai T'wysog heddwch,
I dlodion llymion y llwch,
Ewyllys Duw er lles dyn,
A'i waredu, wir adyn;
A dwyn y byd hwn o'i boen,
I gyrraedd hedd a gorhoen.
Un dydd ar y mynydd mad,
Agorai'r dwyfol gariad:
E ddifynnai 'r ddeddf union,
A glân hedd o galon hon
A ffrydiodd, deilliodd allan,
Heb gynnwrf, heb dwrf, heb dân;
Na chur taranau a chorwynt,
Seiniau geid ar Sinai gynt;
Pan roid hon, ddeddf gyfionaf,
Yno i ni o enau Naf.
Rhoi i lawr y rheol euraid.
Buri ni, ar Tabor wnaed;
Dyled pob un i dalu,
Yn ffyddlon o galon gu;
I'w gilydd beunydd heb ball,
Y goreu i hwn ac arall:


Y naill un i wneyd i'r llall—y pethau
Olygai 'n oreu i gael gan arall.
Yn ei daith berffaith drwy'r byd,
Ei ddifeius hardd fywyd,
Fu 'n ol y rheol bur hon,
O'i ddaioni i ddynion.


Yn ei ing pan y trengodd,—am hedd a
Maddeuant y llefodd;
Dig y ne', efe o'i fodd,
Yn ei weddi anhuddodd.

Ac ef wed'yn pan cyfododd,—yn fyw
O'i fedd, ail gyhoeddodd
Hedd i fyd yn rhydd o'i fodd,—heb wrtheb,
A'i anwyl wyneb yn hael a wenodd.


A chyn iddo esgyn i
Lawenydd gwlad goleuni,
Ordeiniodd wyr, doniodd o
Ei weision heb betruso,
Yn genhadau i hau hedd,
I fynwes byd cyfannedd ;
Ac fel hyn y teg Flaenawr,
Ai adrefi nef yn awr;
I eiriol tros farwol fyd,
Hyd foreu y ca'i adferyd,
O'i dra anial drueni,
I uchel fraint heddychol fri.
Wedi mawrion dymhorau
O ddu gur rhyfeloedd gau;
I'r maes aeth gwir rymus wyr,
Yn finiog ysgrifenwyr,
Ar ryfel, i'w arafu,
A'i wrthod ef a'i warth du.


Hoff enw, Wicliff uniawn;
Erasmus, ddestlus ei ddawn.
Yn eu dydd, hynod oeddynt,
Sai eu gwaith o'r oesau gynt;
Dau enw a gydunir,
Ar lechres hanes yn hir.


Cawri enwog fu'r Crynwyr,—hwy oeddynt
I heddwch yn bleidwyr;
Ni roent chwaith, ddiweniaith wyr,
Air o fawl i ryfelwyr.


Daliai 'r Morafiaid eilwaith,
Fel un rhag rhyfel a'i waith;
A dwyn y byd trymllyd trwch,
Dan nodded aden heddwch.
E dery pleidiau ereill
Yn awr eu llaw 'n help i'r lleill;
Ac i fyny 'n gyfunwedd
E fyn y rhai'n faner hedd.
Iesu cu, Tywysog hedd,
Diarswyd gwyd i'w orsedd;
Ei farch gwyn a ferchyg ef,
A heddwch o bob haddef
A daena, rhed dawn ei ras,
Herddir y byd a'i urddas;
Ac o'i olwg y cilia
Yr un coch, ac i dranc a.


Yn ol siriol arwyddion 'r amserau,
Ni a allwn ddeall nad pell yn ddiau
Ydyw y dydd y derfydd ei dyrfau,
A sychir creulon olion ei ddialau :
Mae y doeth ddewisol gymdeithasau
Yn ffrwyno 'i aflan ffroen a'i weflau:
At genedloedd y bobloedd mae Beiblau
Acw 'n 'hedeg, a hwythau 'r cenhadau:


Ellyllon giliant, ffoant i'w flauau,
A chywilyddir twyll a chelwyddau.
Cymdeithas Heddwch! gwyliwch ei golau,
O chwi herodron a gerwch wrhydrau,
I ffwrdd, O! rhedwch, o ffordd ei rhodau,
Brysiwch! neu, wyrwch dan ei banerau:
Addysg ei chynhadleddau—'mhen gronyn,
A dry yn derfyn ar driniad arfau.
Dyna'i gwroníaid â dawngar riniau,
Yn traethu nerthol ethol ddarlithiau;
Elihu Burrit â'i hylaw beiriau,
Saetha wreichion o'i ei ion a'i enau;
Gwreichion oleuant, lanwant galonnau,
A gwir wres teimlad o gariad gorau ;
Efo'r antur mae Cobden fawr yntau,
Gyda ei enwog foesol gadwynau;
Daw Bright a Burnet, barota 'u barnau,
A Harri Rhisiart, 'n arwyr i'w rhesau:
Ac o'r Cyfandir adwaenir doniau
Yn seinio wed'yn yr un syniadau:
Wele o hyd amlhau—mae heb luddiant,
Y llu ymunant dan ei llumanau.
Daw rhianod â rhinwedd
Eu dawn hoff, i daenu hedd;
Mwy ni fydd menyw a fawl,
Neu a gâr filwr gwrawl;
Y wisg goch a yn gas gan
Enaid holl ferched anian.
A'r Arddangosiad, ymweliad miloedd,
Eleni noddid i'n tawel aneddoedd,
Sy'n sail i'r hyder y daw amseroedd
Diwedd ar filain dywydd rhyfeloedd;
Sain y gynhadliad swynai genedloedd,
O bob parthau, llwythau'r holl ieithoedd,

Yn fywiog lawn dyrfaoedd,—a ddaethant,
Heb wrthluddiant i'n mawrion borthladdoedd.

Un brad yn dodwy 'n eu bryd nid ydoedd,
Neu yn eu dwylaw eirf trin dialoedd;
Yma hynawsion caent bawb â'u mynwesoedd
I'w croesawi a'u gweini â gwinoedd;
Y' mhalas hyfryd y celfyddydoedd,
Yn heirdd a llawen y cwrddai y lluoedd:
Yno heb lid y bobl oedd yn gymysg,
A hwy gaent addysg yn ei gynteddoedd.

Wedi gweled a byw gyda'u gilydd
Dro yn awyr y Palas Gwydr newydd,
Hwy oll a unid er eu llawenydd,
Yn llawn a didwyll gyfeillion dedwydd,
Heibio rhodient at un o'i barwydydd,
I syllu 'n llawen ar len arlunydd,
A roi wych eilun yn gynhrychiolydd,
Ardeb da wyneb hedd a dywenydd;
Yfed ei ysbryd ufydd—eu gwelid,
Hwy yno lenwid o'i anian lonydd.

Dysgai y byd dasg heb wg,
Yn y palas gwymp olwg;
Ffoledd rhyfel a welai,
A'i ddu nwyd ffieiddio wnai;
Gwir olwg gai ar waeledd,
Gwarth hwn a rhagoriaeth hedd.

Y Wasg hithau wisg weithion—ei nerth,
A gwna wyrthiau mawrion;
Hi ryda'r egr gyflegron,
A rhydd daw ar eu gwrdd dôn.

Rhodder i hon ei rhyddid,
Hi a ladd ryfel a'i lid;

Y fagnel a'i chryf egni,
O'i sedd hell ddíswydda hi.
Daw'r awen o'i dirywiad,
Cana 'i mel acennau mad;
Heddwch a chariad haeddawl,
O hyd mwy fydd nod ei mawl.
Neshaed yr holl deyrnas hon,
Ie, Ewrob, yr awrhon;
I gael trem a gweled drych,
Ewybr wawr, bore eurwych,
A ddwed ei bod yn dyddhau
Ar fyd y cynhyrfiadau:
Heddyw mae Araalydd Mon,
Yn arwedd ein llenorion;
I'n hyglod Eisteddfod hon
Y daw'r diarswyd wron;

Etyb i'w glod heb ei gledd,-mwyn heb lid,
Myn bleidio tangnefedd;
A daw y' nglod angel hedd-i noddi
A choroni heddwch a rhinwedd.

A llaw'r gŵr fu 'n llywio'r gad
Yn nydd ei ogoneddiad,
Obrwya fab yr awen,
Y bardd a fernir yn ben;
A difyr ddyd i fardd hedd
Wyrdd lawryf urddol irwedd.

Fe ddygir i'r gof ddigon-o orchwyl,
Erchir ei forthwylion,
Er rhwydd ddarparu'r awr hon,
Eirf ar waith maith amaethon.

Cludir cadarfau cledion-i'w efail.
Afrifed bentyrion;

Profant eu haeddiant yn hon,
Dan driniaeth dyn du'r einion.


Chwythu'i dân, dan chwibanu
Ei fyw dôn, wna y gof du;
Un llaw fegina, a'r llall
Faluria'r glo fel arall:
Wedi trefnu taclu'r tân,
Ar bwynt allor ei bentan,
Yn hyf mewn hen gleddyf glas,
Luniai lawer galanas,
Gafaela y gof eilwaith,
Chwery ág ef cyn dechren 'r gwaith
Rhed ei fawd ar hyd ei fin,
Dewrfodd i brofi'r durfin;
Ffugia 'r gŵr yn filwr fod,
Neu yn hen gadben hynod:
Areithia, bygythia'n gas
I'w elynion alanas;
Yna try, tery e'n y tân,
A chwyth yn gryfach weithian;
A gwreichion fflamgochion gant
Drwy dorchau mwg draw dyrchant;
E dynn allan o dân dig
Ei ffwrn, dan ffrio 'n ffyrnig,
Yr hen gledd mawr iawn ei glod,
Yn y maes mewn ymosod;
A dwg ef yr adeg hon
Yn wynias ar ei einion:
Ac mewn hwyl â'r morthwyl mawr,
Esgud, å nerth grymusgawr,
Fe'i cura nes a yn swch,
Gywrain ei gwas'naethgarwch,
I aru'r ddaear iraidd,
A thy' o hon wenith a haidd!


Hen dduw rhyfel a ddiarddelir,
Hwnnw, ddu eilun, mwy ni addolir:
Temlau 'i ogoniant gau a geuir,
Allorau 'i fawredd i'r llawr a fwrir;
A gwaed had dynol i geudod enwir
Ei drachwant yn borthiant ni aberthir:
Ei enw a'i nwydau a'i anian wedir,

Mawl a chân swynawl Moloch ni seinir.
Heddwch! wi, heddwch cyn hir-o'r diwedd
A gwir rinwedd drwy'r byd a goronir.
Ei faner esyd ar fannau Rwssia,
Heb ofni golwg cilwg Nicola ;
Ei ddeiliaid caethion yn rhyddion rhodda,
A nerth y daerwyllt hen arth a dorra:
Ei rasau barant wên ar Siberia;
A rhoi cysur wna i Circassia:
Daw hwn a Pholand, diau ni flaelia,
1 wiwrydd elfen o'i hir hir ddalfa:
Ei wir addysg wareiddia-'r Cossaciaid,
Ie, a'r Sgythiaid a eres goetha.

Nwyd ormesol ddinistriol hen Awstria,
A'i llid hyddeifiol tanllyd a ddofa;
Rhed ei fendithion dillynion llawna,
Yn lli i'w mynwes, lleinw Allmaenia,
Ei hoen a gyrraedd i hen Hungaria,
Bro y gwroniaid a ewybr gorona :
Medi o'i ffrwyth a ga tylwyth Italia,
A'i fwyn lewych Rhufain a oleua:
Gweryd gaethion iselion Sisilia,
Fu'n hir dan waedlyd iau enbyd Bomba:
Cu esponir i Ffrainc a Hispaenia,
Ei anwyl addysg, a hi yno lwydda:


Trwy Dwrci lydan 'i anian a una
Y boblogaeth—iddo pawb a blyga:
Ei wersi drwy Athen, a'i ras a draetha,
A hen wlad Awen a ail flodeua :
Prydain o dan ei adain a neidia,
Diogel o olwg pob drwg hi driga:
Iwerddon druenus wallus a wella,
A hon o dan ei goron flagura:
Ei nawdd a goledd fynyddau Gwalia,
A'i hawen gynnes hi iddo gana!
Heddwch! wi heddwch! ha, ha!—mwyn helynt
A hon yw'r hypynt seinia Ewropa!

Ei fwynder esyd gyfandir Asia
Yn wir baradwys, ei dir a brioda;
O'i holl ardaloedd yn llwyr y deola
Bob achosion o greulon gweryla,
A thir Emanuel ail ymwela,
A hwnnw elwir yn ardal Beula:
Ei anian durturaidd leinw Dartaria;
Arabia Ddedwydd yn ddedwydd ddoca
China, 'r wlad nefol, a wir nefola,
Dan ei winwydden daw hon i anedda;
Ac mwy ni chlywir ar randir India,
Swn ymrafaelion, son am ryfela;
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha —yr awr hot
A lleisiau ceinion holl Asia cana.

Ysbryd Affrig addig a ddyhudda,
Hen lawruddion hon a lareiddia:
Llwynwyr duon, elynion creulona,
Oedd megys llewod neu deigrod egra,
Anian nwydwyllt y rhain a newidia,
Mor fwyn ddíniwaid a'r. defaid dofa.

Ei ddawn a'i rad i bob gwlad gluda,
Ar ei hynysoedd hefyd teyrnasa;
Heddwch I wi, heddwch ! ha, ha!—fydd hyd nen
Yn effro acen dwg hen Affrica.

Dan ei gysgod, Amerig a driga,
Yn war ei hanían, diofal yr huna;
Trosti ei faner dyner a daena,
Ei aden addfwyn ry i Indiaid noddfa:
Y drefn gaethwasaidd ffiaidd a ffoa,
O bresenoldeb ei wyneb yna;
A'r caethwas truan a lawen gana,
A'i holl ingoedd dros gof ollynga.
Ei loew afon drwy'r cyfandir lifa,
Ei ras dyrr eilwaith dros dir Awstralia:
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—o'r hen fyd,
A'r newydd hefyd o hyd eheda!

Ei fwyn lywodraeth ef a helaetha
Dros yr holl foroedd, a'u lluoedd llywia;
Uwch y dyfnder, ei faner anfona,
A chysgod hon yn y donn dywynna:
E dderfydd dynion geirwon Algeria,
A'u hofer duedd i herw fordwya;
A'r tasnach gaeth, a aeth o dan eitha
Gwarth i'w hadwaen, pawb a'i gwrthoda;
Uwch yr eigion mwyach ni chroga,
I boen rhyw filoedd, baner rhyfela:
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—yn un floedd
O'r tir a'r moroedd hyd nefoedd notia.
Heddwch! wi, heddwch! ha, ha!—eto'n ol,
I lon fyd swynol y nef adseinia!


Iesu mawr deyrnasa mwy,
Waredydd clodforadwy;
Nofia 'r byd mewn hyfryd hedd,
Yn afon ei dangnefedd;
Duw a dyn, yn rhwymyn rhad,
Ei ragorol fawr gariad
Wneir yn un drwy rin a nerth
Diball ei waedlyd aberth:
Wele, daw angel a dyn
I heddwch yn y Duwddyn !
Hen Iddewon yn ddiau,
Cenhedloedd, pobloedd pob pau,
Ufuddion iddo fyddant,
Oll yn ei hedd, llawenhânt;
E dodda 'u hysbryd addig,
Ei waed Ef a ladd eu dig:
Nef a daear a'i carant;
Iddo o hyd, ufuddhant.
Ar Ei orsedd eistedda,
A bri hon hyd byth barha;
Rhyfel maith, a'i waith yn wir,
A'i ing hefyd, anghofir;
Ni fydd drwy 'r byd ynfyd ŵr,
Mwy i'w weled y'ngwisg milwr.
Yna hedd fydd mewn mwynhad,
Tra y dyrch llewyrch lleuad
Ar y byd, a thra y b'o
Hon ar hyd nen yn rhodio.

Nodiadau

[golygu]