DYMA'R fan mae'r tafod hwnnw Gynt ro'i Gymru oll ar dân,
Wedi 'i gloi yn fudan heddyw, Yn isel—fro 'r tywod mân;
Ar y wefus fu'n diferu Geiriau fel y diliau mel,
Mae hyawdledd wedi fferru, Clai sydd arni, mae dan sel!
Cwyno wna dy frodyr gweiniaid, Williams, heddyw am danat ti,
Megys eiddil blant amddifaid Am eu tad yn drwm eu cri;
Mae dy enw yn argraffedig Ar galonnau myrdd a mwy,
Mae dy goffa'n fendigedig Ac yn anwyl ganddynt hwy.
Son am danat mae'r eglwysi, Bob cyfarfod d'ont yn nghyd;
'R hen bregethau fu 'n eu toddi Gynt sydd eto yn eu bryd;
Merched Sion, pan adgofiant D'enw a'th gynghorion call,
Ceisiant adrodd, buan methant, Wyla hon, ac wyla 'r llall.
Pe b'ai tywallt dagrau 'n tycio Er cael eilwaith weld dy wedd,
Ni chait aros, gallaf dystio, Hanner munud yn dy fedd:
Deuai 'r holl eglwysi i wylo, A gollyngent yn y fan,
Ffrwd ddigonol i dy nofio O waelodion bedd i'r lan!
Williams anwyl! llecha dithau Mewn distawrwydd llawn a hedd;
Boed fy neigryn gloew innau Byth heb sychu ar dy wedd;
Haul a gwynt! mi a'ch tynghedaf, Peidiwch byth a'i gyffwrdd ef,
Caffed aros haf a gaeaf, Nes rhydd udgorn barn ei lef.
Darfu 'r llafur a'r gofalu, Teithio trwy y gwlaw a'r gwynt,
Fel bu wrth bregethu a chasglu At addoldai Cymru gynt;
Darfu 'r llafur, darfu 'r cystudd, Darfu 'r peswch, darfu'r boen,
Darfu marw—ond ni dderfydd Ei lawenydd gyda'r Oen.
Ca'dd yr orsedd, ca'dd y goron, Ca'dd y delyn yn ei law;
Ac y mae wrth fodd ei galon Gyda 'r dyrfa 'r ochr draw:
Caiff ei gorff o'r Wern i fyny, Foreu'r adgyfodiad mawr,
Wedi ei wisgo ar ddelw Iesu, Yn disgleirio 'n fwy na'r wawr.