1. SYNIADAU ATHRONYDD GERMANAIDD
GALWODD Duw o'i nos freuddwydion
Farwol ddyn i drothwy'r ne'—
"Dring i fyny, gwel ogoniant
Mawr fy mhalas," eb efe.
Archai i'r gweision gylch ei orsedd—
"Tynnwch gnawdol wisg y dyn,
A rhowch anadl yn ei ffroenau
O'r fath a feddwch chwi eich hun.
"Golchwch ei olygon eto,
Er eu puro a'u nerthu 'n fwy,
Yn y ffynnon lle 'r arfera
Engyl olchi u llygaid hwy;
Ond ei galon ddynol dyner,
Fedr grynnu dan ei fron,
Wylo, ac ymdoddi 'n ddagrau—
Na newidiwch ddim ar hon."
Hynny wnaed; a'r dyn a safai
'N barod i'r anfeidrol daith;
Angel cadarn yn arweinydd
Iddo trwy'r eangder maith:
Oddiar fur ganllawiau 'r nefoedd,
Can cyflymach golau 'r wawr,
'Hedai 'r ddau fel am y cyntaf,
I'r diderfyn wagle mawr.
Weithiau treiddiant trwy ororau
Meithion o dywyllwch mawr,
Lle na thywynasai goleu
Haul na seren hyd yn awr:
Anial diroedd o farwolaeth,
Na threiddiasai "Bydded" Duw
|
Eto 'rioed i'w bru, i roddi
Ffurf na delw bod, na byw.
Wedyn deuent i gyffiniau
Lle 'r oedd gallu Duw ar waith,
Yn cenedlu creadigaeth
Newydd, i'w ogoniant maith;
Heuliau newydd eni 'n fflamio,
A phlanedau fwy na mwy
Yn ymsaethu i fodolaeth
Megys i'w cyfarfod hwy.
Ar y dde a'r aswy iddynt,
Heb na diwedd fyth na rhi,
Cydser yn osgorddion disglair,
Lefent arnynt, "Wele ni!"
Pyrth tragwyddol yn ymagor,
O bob maint, a ffurf, a llun,
Pyrth a meini 'r adeiladaeth
Yn blanedau a ser bob un!
Arianrodau cyferbyniol,
A ymffurfient yn fwâu,
A'u rhychwantau anfesurol
Am y nefoedd yn ymgau;
Dirif dyrau a cholofnau
O anfeidrol nerth a maint,
A'u copâu 'n ymddyrchafu
Cu'wch a nefoedd wen y saint.
Oddi mewn oedd megys grisiau
I esgyn i'r uchelder draw;
Neu i ddisgyn i'r dyfnderau
Anfesurol oedd is law!
Dyfnder lyncid yn yr uchder,
Uchder yn y dyfnder maith,
|
Fel nas gellid fyth adnabod
Dyfnder nac uchelder chwaith.
Fel y saethent ar eu gyrfa
Ymaith drwy 'r eangder gwyrdd,
Dyna ddolef yn eu cyfarch,
Adsain uchel bydoedd fyrdd—
Fod cysawdau dirifedi,
Ffurfafenau fwy na mwy,
Eto, eto, yn eu haros,
Ar ymddangos iddynt hwy!
Yna 'r dyn ochneidiai, safai,
Crynnai, wylai gyda hyn;
Suddai 'i galon orlethedig,
Ac ymdoddai ynddo 'n llyn;
'Angel! nid af gam ymhellach,"
Eb efe, "ni allaf fyw—
Annioddefol ydyw 'r olwg
Ar ogoniant mawredd Duw!"
Ysbryd dyn ni all ymgynnal
Dan fath anfeidroledd mawr;
Angel! Angel! gad im' farw,
Cladd fi yn fan hon yn awr!
Tyn y llenni tros fy llygaid,
Digon! Digon! Digon yw'
Nid oes diwedd, nid oes derfyn
Byth ar greadigaeth Duw!"
Ac oddi wrth y ser cylchynol,
Fyrdd myrddiynau, adsain glir
A ddychwelai, gan arddadgan,
"Y mae 'r dyn yn dweyd y gwir!
Nid oes diwedd, nid oes derfyn
Ar y creadigol waith,
|
Anfeidroldeb heb ei chwilio
Fydd i dragwyddoldeb maith."
"Ai am nad oes derfyn iddi,
Y'th ddychrynnir, druan ddyn?"
Eb yr angel—neb ni 'tebodd,
Fel cai ateb iddo 'i hun.
Yna'i freichiau gogoneddus
A ddyrchafai i nef y nef,
Gwaeddai allan," Nid oes derfyn
Ar ei greadigaeth Ef!"
|
2. SYNIADAU O'R YSGRYTHYRAU.
"Ti, yn y dechreuad, Arglwydd, a seiliaist y ddaear."
Ti yn y dechreuad, Arglwydd,
Greaist ddaear lawr a'r nen;
Taenaist dros eu 'sgwyddau 'n brydferth,
Awyr las yn ddisglair len:
Rhyfedd iawn a gogoneddus
Yw'th weithredoedd bob yr un,
Ond gogoniant mwy ofnadwy
Sy'n dy hanfod di dy hun.
|
"Ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth."
Gair dy nerth yw'r golofn gadarn,
Dan y greadigaeth fawr;
Arno, megys ar obennydd,
Anian ddoda'i phen i lawr:
Bydoedd dreiglent dros yr erchwyn
I ddiddymdra, wrth ymdroi
Yn eu gwely, oni byddai
D' air i'w cadw rhag osgoi.
|
"Gwnaethost iddynt barhau byth yn dragywydd."
Dy saerniaeth a gysylltai
'R nef fel pabell gled ddilyth,
Fel na all dylanwad oesau
Syflyd un o'i hoelion byth:
Gorchest ddwyfol ydoedd hoelio
Bydoedd ddirifedi ynghyd—
Gorchest fwy oedd rhoi dy hunan
Yn hoeliedig tros y byd!
|
"A phwy a gauodd y mor â dorau?"
Y rhuadwy for cynddeiriog,
Drinit megys baban gwan,
Pan o groth y tryblith rhedai,
Gan ddyrchafu 'i donnau i'r lan;
Ar dy lin gorweddai 'n dawel,
Rhoit y cwmwl iddo 'n bais,
A'r tew niwl yn rhwymyn tyner
Am ei wasg, heb unrhyw drais.
|
"A'r tywod mân yn gadwyn iddo."
Gweuit dywod mân yn gadwyn
Am ei lwynau rhwth yn glyd;
Dodi'r lleuad fel llawforwyn
Ufudd iawn i siglo'i gryd:
D'wedit "Ust!" yn nghlust y dymestl,
Hi ddistawai—hunai ef
Ar ei gefn, a'i wyneb gwastad,
Esmwyth, llydan, tua'r nef.
|
"Efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei ddorau."
Weithiau gyrri 'r gwynt i'w ddeffro,
A deffroad ebrwydd bair—
Egyr ei amrantau mawrion,
Gan ymstwyrian wrth dy air;
|
Chwydda 'i donnau fel mynyddau,
Rhua megys taran fawr,
Hyrddia 'i freichiau preiff, ac egyr
Anferth safni lyncu 'r llawr.
|
"Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd."
Pan edrychwyf ar dy nefoedd
Uchel anherfynol draw,
A'r aneirif ffurfafenau
Grogaist yn ei bru uwchlaw:—
Heuliau fyrdd myrddiynau 'n fflamio,
Ac yn tywallt gwres y dydd
Ar filiynau maith o fydoedd,
Yn daenedig ynddynt sydd.
|
"Beth yw dyn i ti ei gofio?"
Beth yw dyn i ti i'w gofio?
Beth yw dyn? Jehofah mawr,
Pan feddylit ti am dano,
Bryfyn isel ar y llawr?
Beth yw 'r ddaear? dim ond llwchyn—
Llai na dim yw dyn a'i fri;
Eto, rywfodd, dyn a daear
Demtiai i lawr dy sylw di!
|
"Ac yn llawenychu yn nghyfaneddle ei ddaear ef."
Pan y gelwid yn y.boreu
Restr enwau ser y nen,
Deuent oll dan ganu a dawnsio,
Heibio i'r orseddfainc wen:
Yn ei thro, ymhlith y lluaws,
Ymddanghosai 'n daear ni—
Cododd gwrid i wyneb cariad
Dwyfol, pan y gwelodd hi!
|