AETH Babilon fawr yn drigfa cythreuliaid,
O uchder gogoniant y syrthiodd i lawr;
Bwystfilod yr anial, llwynogod a bleiddiaid,
A drigant o fewn ei phalasau yn awr.
Bu unwaith yn eiste'n arglwyddes teyrnasoedd,
A gwaraidd ymgrymai y byd ger ei bron;
Hi fynnai warogaeth a pharch y cenedloedd,
Eu gosod dan ardreth a theyrnged wnai hon.
Pan godai o'i gorsedd, y byd a arswydai,
Y ddaear a grynnai pan deimlai ei thraed;
A nodai bob amser y llwybr a gerddai,
Drwy 'i liwio âg afon lifeiriol o waed.
'Roedd ganddi frenhinoedd yn rhwym mewn caethiwed,
A rhai wedi tynnu eu llygaid i ffwrdd;
Hi wawdiai 'u trueni, a chwarddai eu gweled
Yn disgwyl am friwsion fel cwn dan ei bwrdd.
Yn uchder ei llwydd, hi a dd'wedai,—"Mi fyddaf
Yn ddinas goronog y ddaear i gyd;
Sefydlaf fy ngorsedd rhwng ser y Goruchaf,
Yn ol fy ewyllys y llywiaf y byd."
Jehofah a glybu hyll adlais ei balchder,
A chwarddai mewn dirmyg—"Na, na !" eb efe,
"Er iti roi'th orsedd rhwng ser yr uchelder,
Ystlysau y ffos cyn hir fydd dy le.
"Ag anadl fy ngenau y'th hyrddir oddiyna,
I lawr i ddyfnderau y pwll a thydi;
A holl ardderchogrwydd dy falchder a beidia,
Ym mynwent gwaradwydd y cleddir dy fri."