Gwaith Gwilym Hiraethog/Enaid Blinderus yn ymofyn gorffwysfa

Oddi ar Wicidestun
Iesu a wylodd Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ym Mostyn a Dinbych


ENAID BLINDERUS YN YMOFYN GORFFWYSFA.

BUM yn chwilio'r greadigaeth,
Am orffwysfa i'm henaid gwan;
Ond ni ches ond siomedigaeth,
Ym mhob gwrthddrych, ym mhob man;
Cefais fil o addewidion
Gan y cnawd, a chan y byd;
Wrth eu profi, ce's mai gweigion,
A thwyllodrus oe'nt i gyd.

Holi ymhlith y dorf angylaidd,
Gofyn a oedd yno un,
Gydymdeimlai yn garuaidd,
A phechadur gwael ei lun;
"Nac oes yma," atebai Gabriel,
Nac oes, un o honom ni,
Gydymdeimla âg adyn isel,
Brwnt ac euog fel tydi."

Suddai 'm henaid mewn anobaith,
Gwaeddais mewn wylofus gri,—
"Ciliodd pob ymwared ymaith,
Darfu am danaf o'm rhan i ;"
Cyfraith Sina yn gwgu arnaf,
Minnau 'n crynnu ger ei bron,
Tra f'w'i 'n berchen anadl, cofiaf
Am y wasgfa galed hon.

Dyfrllyd olwg tua'r nefoedd
Droais, ar yr orsedd wen,
Gwelwn mewn cyfryngol wisgoedd,
'R Oen fu farw ar y pren:
Dacw fe," eb' f' enaid gwirion,
Medraf ddarllen yn ei wedd,

Fod maddeuant yn ei galon
I bechadur brwnt, a hedd."

Yna nesais at ei orsedd,
Ac ymdreiglais wrth ei draed,
A dadleuais am drugaredd,
Yn haeddiannau mawr ei waed;
Meddwn," Mi dywallta'm calon
Mi agora'm hysbryd briw,
A dadguddiaf fy archollion.
Pam yr ofnaf? Iesu yw!"

Ac wrth imi agor iddo
Fynwes euog, ffiaidd iawn;
Fe agorai i'm cofleidio,
Fynwes oedd o ras yn llawn;
Tynnodd ef fy meichiau trymion,
A gwaredodd fi yn rhad,
Ac â'i wên faddeuol dirion,
Rhodd i'm henaid esmwythâd.

Bellach, caiff yr oll a feddwyf,
Gorff a chalon, teilwng yw;
Ar y ddaear tra anadlwyf,
Er ei glod, dymunwn fyw;
Pan y delw'i blith y dyrfa,
Sydd o flaen yr orsedd fainc,
Fy nigrifwch byth fydd canu—
Canu'r brynedigol gainc.

Nodiadau[golygu]