Gwaith Gwilym Hiraethog/Iesu a wylodd

Oddi ar Wicidestun
Brwydr Trafalgar Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Enaid Blinderus yn ymofyn gorffwysfa


IESU A WYLODD.

"Pan welodd Efe y ddinas, Efe a wylodd drosti."

EF a wylodd pwy a wylodd?
Wylodd Iesu mawr ei hun:
Wylodd myrdd o'i flaen; ond heddyw,
Wyla Duw yn natur dyn.

Ef a wylodd! pam yr wylodd?
Nid o'i achos ef ei hun;
Ond fe wylodd o dosturi
Uwch ben cyflwr euog ddyn.

Ef a wylodd pan oedd tyrfa
Fawr yn cyd—ddyrchafu 'i llef,
Hyd y nefoedd, i'w foliannu,
Gwenai pawb, ond wylai ef.

Ef a wylodd pan y gwelai
Salem fawr ar fynd yn sarn,
A dialedd ar ei dryllio,
"A churfeydd y chwerwaf farn."

Ef a wylodd rhyfedd gariad,
At elynion drwg eu rhyw;
Yn ei ddagrau, cawn esboniad,
Ar deimladau calon Duw.

Ef a wylodd! do, bechadur,—
Gwel ei ddagrau, clyw ei gri;
Wylodd drosot o dosturi,
Bellach, ai ni wyli di?

Nodiadau[golygu]