Gwaith Gwilym Hiraethog/Brwydr Trafalgar

Oddi ar Wicidestun
Caniadau Ieuenctid Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Iesu a wylodd


TRAFALGAR

Mawr tar wrth Trafalgar fu.
A rhyw filain ryfelu.



BRWYDR TRAFALGAR.

HO anadl, bêr awenydd,
Yn cwybr rhed, myn lwybr rhydd,
I wir adrodd gwrhydri
Campwrion ein Nelson ni:
Hen arwr Prydain eirioes,
Ni bu 'r un mewn neb rhyw oes
O'i wrolach, ar alwad
I dorri lawr fradwyr 'i wlad.
Hwn oedd dwrn, nawdd y deyrnas,
Dychryn gelyn cyndyn cas.
Pan oedd anferth ryferthwy
Rhyfelgar, na fu far fwy;
Ewrob yn syn ddirgrynnu,
Bob gronyn mewn dychryn du;
A braw yn ysgwyd ei brig,
Arswyd y blaidd o Gorsig:
Hwn fel erchyll ellyll, a
Ga'i haniad yn Gehena,
Dda'i allan â gwedd hyllig,
Yn llawn o dân o'r llyn dig. [1]
Mynnai 'r byd i gyd o'i gwrr
I'w grafangau, gryf wingwr:
A'i dân astras dinistriai,
Ewrob faith yn oddaith wnai.
Braw yn enaid brenhinoedd,
Fu 'i enw ef, a'i ofn oedd
Yn gwelwi 'r cryfa'i galon,
A du fraw a doai 'i fron.

Ond Nelson eon a wnaeth
Ar ei elyn wrolaeth;

Ei wŷr enwog arweiniai
Heb ofn, ac i'w wyneb ai:
Ffrwynai efe ei ffroen falch,
A'i daer ysfa drahausfalch,
Ei alon blinion a blwng,
Dafiai i'r eigion duflwng:
Rhoes dranc ar rwysg y Ffranciaid,
Llonyddodd, blinodd y blaid;
O flaen ei nerth, yn gerth gynt,
Eu llongau ymollyngynt.
Bu acw yn Aboukir,
Ymladd, a lladd, a gwall hir;
Magnelau am oriau maith,
A bytheirient boeth araith:
 Anadl angeu dwy lynges,
Dyrchai yn niwldorchau nes
Pruddhau wyneb hardd anian,
Ennyn y dig donnau 'n dân!
Ein cawr ni, curo a wnaeth
Ei alon direolaeth ;
Llaw angeu ar eu llynges,
Estynnai, rhoddai yn rhes,
Eu llongau yn ddarnau i ddig
Daneddawl y donn addig.
Bwriodd i'r ddofnwleb oror,
Eu dynion mawrion i'r môr;
C'weiriai 'u gwely, llety llaith,
Yn y dylif dwfn dulaith.
Erys ar go'r oesau 'r gair
A roddai yn arwyddair:—
"Prydain wyl ddisgwyl yn ddwys
Y gwelir ei meib gwiwlwys,
Yn gwneyd oll, oll a allont,
Lle bynnag, bynnag y bont."

A hynny a wnaeth ei hunan.
Yn mhob modd, ac yn mhob man.
Tra bu 'r gwr yn milwrio,
Gorchfygodd, trechodd bob tro.
Ei hanes, arwr hynod,
A'i haeddawl ryglyddawl glod,
Byth, byth, ni all awen bêr
Yma henwi mo'u hanner.

Y gorwych gampau gwrol,
Yn awr a adawn yn ol,
I adrodd hynt ei helynt a
Ei alon y tro ola'—
Tro a gofir, trig hefyd
Gof am dano tra bo byd.
Arhwyliai i'r fawr helynt,
Flin ei gwedd, o flaen y gwynt:
Angorau'r llongau 'n llengoedd,
Godai y blaid gyda bloedd;
Dyrchafent, lledent yn llon,
Yr hwyliau i'r awelon;
A'r llynges eres yrrai
Dros y Werydd, rhydd yr ai:
A'r môr mawr a'i laswawr li'
Tonnog yn berwi tani:
Gwnai lwybrau trwy ei frau frig,
Ei rodiaw a'i aredig,
Anafai wyneb Neifion,
Chwalai 'r dŵr, a chiliai'r donn:
Trwy wybr Ner, y banerau,
Yn tryliwiawg, wibiawg wau—
Ysgydwent, a'u cysgodion
Ar rydd adenydd y donn,
Roddai wawr, eurwawr orwych,
Ar ddyfrlli y weilgi 'n wych.

Ond yn awr, rhaid mynd yn nes,
I hynod adrodd hanes
Diwedd helynt yr hynt hon,
A'i thradewr faith weithredion.
Ar y donn am lawer dydd,
Mordwyai mewn mawr dywydd;
Ac i olwg y gelyn,
Hi a ddaeth, a pharodd hyn
Lawenydd i galonnau,
Ni fu i wŷr hon lwfrha;
E daniai y Prydeinwyr,
I waith y gad, eitha gwŷr.
Mawr fâr wrth Trafalgar fu,
A rhyw filain ryfelu;
Anfad ryfelgad ar fôr,
Rwyg anfad ar eigionfor.
'Spain a Ffrainc yn ddwygainc ddig,
Yno oeddynt yn addig
Ddwy 'mhen un yn gytun gerth,
I'n dyrnu â'u cadarn-nerth.
Nelson wron wnai araith
Wrth ei wŷr, i'w nerthu i waith
Yr ofidus drafodaeth—
Eu hannog yn enwog wnaeth:—

"Brydeinwyr, arwyr eiroes,
Goreu o rym fagai 'r oes;
Meib gwrawl y'mhob goror,
Penaethiaid, meistriaid y môr—
Mae adeg deg wedi dod,
I'ch dewrder a'ch awdurdod
I gael ei ddangos ar goedd,
A'i weled yng nghwymp miloedd
O'ch gelynion creulon, cras,
Wrth eu trechu, eirth trachas;

Er i ddwy genedl or ddig,
I ymroddi mor addig
Fel hyn yn ein herbyn ni,
Trechwn, curwn y cawri.
Bydd trechu 'r ddwy yn fwy o fawl,
Erys i'wch glod anfarwawl:
Enw'n Ewrob y'mhob man,
Ennillwch o hyn allan;
Hanes a ddyd oesau ddaw,
Am ein camp yma'n cwympaw
Nerth yr hen unben enbyd,
Sy'n dychrynu, 'n baeddu 'r byd.
Dowch i'r gad â'ch ergydion,
Effeithiol, cyfeiriol f'on';
Lluniwch foliau 'r gynnau i gyd,
Oergwymp angeu y'mhob ergyd;
Anelwch âg iawn olwg,
At eich galon, drawsion drwg:
Ar fyrder, dyfnder y donn,
Hen ogof y dwfn eigion,
Fyddo iddynt fedd heddyw,
Un na foed ar ol yn fyw.
Diameu afraid imi,
Wŷr enwog, eich annog chwi;
Pa raid dyweyd? parod ydych
Yn awr i'r gwaith, arwyr gwych.
Coeliaf mai dewr pob calon
Y sydd yn y llynges hon;
'Rwy'n darllen yn eich gwên gu,
Y gwroniaid digrynu,
Mai sawdwyr grymus ydych,
Llwyr ddiofn, ac eofn ych."
Gan wres eres ei araith,
Y gwŷr a daniwyd i'w gwaith;

Yna twrf yr arfau tân,
Echrysawl ddechreuasan'
Yn dra uchel fagnelu,
Drwy oror y dyfnfor du:
Swn enbyd tanllyd bob tu,
Tybiwn, yn gwrthatebu
Eu gilydd, mewn dig alaeth,
Gan ruo mewn cyffro caeth.
Pylor yn lluchio peli
Tros wyneb maith, llaith y lli':
Mellt gwreichionllyd, enbyd oedd
Yn dewfrith hyd y dyfroedd,
Nes bai'r môr oror eirian,
A thonnau 'r dyfnderau 'n dân.
Creuloni wnai 'r weilgi wyllt,
A ffrio yn gyffrowyllt;
Dinistr ar ddinistr a ddaeth,
Ddu afradwyllt ddifrodaeth;
Dynion mewn ing rhwng dannedd
Marwolaeth yn gaeth eu gwedd:
Angeu hyf, a'i gleddyf glas,
A luniai 'r mawr alanas.
Gwaed, with erchyll bistylliaw,
Droi'r eigion yn drochion draw—
Och, afar! Ow! Och hefyd!
Glasfor yn gochfor i gyd!
A chur, anian ddychrynnid,
Yr oedd ar ei hwyneb wrid;
A Thrafalgar yn waraidd
A siglid, grynnid i'r gwraidd.
Swn anfad yr hellgad hon,
Rwygai y dwfnfawr eigion:.
Fe orwylltiai 'i ddeifr heilltion,
Cythruddodd, digiodd y donn:

Twrf aflawen bob ennyd,
Hwylbrenni 'n hollti o hyd:
Llongau 'n gorwag ymagor,
Yn ddrylliog i ferwawg fôr.
Mwg a niwl o'r magneloedd, Y
n wylldrych trwy'r entyrch oedd
Pan f'ai'r pelau 'n gwau o gylch,
Hwy rwygent y môr ogylch,
O'u holau yn gwysau i gyd,
Ail i âr ar ol eryd!
Rhag twrf, a rhwyg y terfysg,
O'r hell bau, ffoai 'r holl bysg:
Ni fu o'r blaen ferw blwng,
Na helynt mor anheilwng,
Na'r fath gyflafan ar fôr,
I'w chanfod ar drochionfor.
Wedi i'r mŵg, oedd d'wllwg du,
O'u goror ymwasgaru,
Gwelid llyngesau'r gâlon
Yn ciliaw, â braw i'w bron;
Dan boenus, bocnus benyd,
A'u llongau yn agenau i gyd;
A'u milwyr wedi 'u malu
Mewn digter i'r dyfnder du.

Och mae ini gyni ac aeth,
Galar, a buddugoliaeth.
Ing ysol! ein llyngesydd,
O fraw son, yn farw sydd!
Pan oedd llwyddiant tyciant teg
Anrhydedd, iddo 'n rhedeg,
A hael fraint buddugol fri
Ar ei enwog goroni,
Dyna gwmwl dwl yn dod,
A du ofwy yn dyfod—

Aeth yn nos faith arosol,
Ciliai 'r wawr yn awr yn ol.
A'r gân yn gwynfan dig aeth,
A miloedd mewn trwm alaeth;
Ac i'r llynges hanes hon
Drydanai drwy y dynion;
Toai tristwch tew trosti,
Dyryswyd a hurtiwyd hi.
Haf ei chlod a fachludodd,
Yn ofid trist aeaf trodd;
Yna ai tewi 'n anhawdd
Drwy hyn, a wylo 'n dra hawdd.
Yn ol i Brydain eilwaith,
Yr hwyliai, deuai ar daith;
Gwylwyr y lan a'i gwelynt
Draw yn dod o'i hynod hynt,
Yna, fe roent i ennyn,
Bylor i gyhoeddi hyn,
A Phrydain hoff a redodd
I gyfarch drwy barch o'i bodd,
Ei meibion hoewon, gwnai hi
Am eu helynt ymholi.
Ethryb eu gweld yn athrist,
Gan boen drom, gwynebau 'n drist,
Hi a ddelwai 'n eiddilaidd,
A'i bron yn frawychus braidd.
 
"Ah! fy meibion gwychion, gwâr,
Gwelaf eich bod mewn galar—
Mynegwch, na chelwch chwi,
Ba ryw achos bair ichwi
Heddyw i fod mor bruddion?
Ba helynt fu i'r hynt fawr hon ?"
Hwythau yn eu dagrau, do,
Wnaen' ateb i hon eto:—

"Bu golidiawg ferwawg fâr,
Rhyfelgad ger Trafalgar,
Rhyngom a'r Ffrancod drengaidd,
Na bu erioed ei bath, braidd.
 Rhoisom ddial i'w calon,
A gwae tost, yn y gad hon;
Ond ennill fu ddrud ini—
Costio wnaeth ein concwest ni
Einioes ein llywydd anwyl,
Hyn a wnaeth ddifwyno 'n hwyl."

Hithau droes mewn aethau draw,
Do, yn welwaidd, dan wylaw;
Oer gwynodd mewn mawr gyni,—
"Ow! Ow! fy mab arab i,
Megais ddewrion feibion fil,
Hynod oeddynt, nid eiddil,
Ac arwyr yn rhagori,
Nid tebyg, tebyg i ti,
Rhoist ddau aelod, hyglod ŵr
Gynt o'm plaid, euraid arwr,
Rho'i d'eirioes einioes union
A wnait ti yn yr hynt hon.
Am dy faith iawnwaith ini,
A allaf, talaf i ti:
Cei orwedd, y cu wron,
Yn St. Pawl, a hawl yn hon,
Cofadail it cyfodaf,
Yn hon, a'i heneinio wnaf:
Dy enw ar dal fy nghalon
Pery o hyd, pur yw hon,
Bydd Nelson mewn gwiwlon gof,
Tra anian yn troi ynnof."


Nodiadau[golygu]

  1. Y Chwyldroad yn Ffrainc.