Gwaith Gwilym Hiraethog/Caniadau Ieuenctid

Oddi ar Wicidestun
Gwennol gyntaf y tymor Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Brwydr Trafalgar


CANIADAU IEUENCTID.

MAE nifer o'r Caniadau yn gynhyrchion शु blynyddoedd boreuol fy mywyd; a theimlwn megys pe yn ad—fyw y tymor hwnnw o'm hoes wrth eu hadolygu a'u trefnu i'r argraffwasg. Cofiwn gyda bryd hiraethlawn am yr hen lanerchau ar y meusydd, ar lan Afon Aled, ac ar Fynydd Hiraethog, lle y cyfansoddwn y naill ddernyn a'r llall; ac am yr hyfrydwch bachgenaidd a brofwn pan ddigwyddai i mi gael ambell i linell wrth fy modd; y rhai a dybiwn i, druan, y prydiau hynny, yn gyfryw ag y buasai Milton ei hun yn falch o honynt. Y mae y llinellau hynny megis wedi cysegru y cyfryw fannau i'w cofio gennyf gyda hoffder; nid yn wir ar gyfrif unrhyw ragoroldeb a ymddengys i mi yn awr yn y llinellau eu hunain, ond yn unig ar gyfrif yr adgof am y boddhad a'r hyfrydwch a deimlwn ar yr achlysuron crybwylledig. Hoffai Solomon awelon a golygfeydd Senir, a Hermon, ac Amana; a'r bardd Groegaidd ddyfroedd ei Helicon, ac awyr ei Barnasus: a dadganai y naill a'r llall eu serch at y mynydd a'r afon lle y buasent yn myfyrio ac yn cyfansoddi ar eu glannau ac ar hyd eu llechweddau. Pa ham, gan hynny, y gwarafunir i'r bardd Cymreig draethu ei hoffder at yr afonig honno, a'r mynydd hwnnw, yng nghymdeithas y rhai y treuliasai oriau difyrraf a melusaf ei fywyd? Iddo ef,—

"Ni raid awen gymhenog
O drum Parnasus gwlad Roeg

Ni cheisia, nid a i dud
Glod o elltydd gwlad alltud:—
Ofer y daith, afraid oedd.
Mwyneiddiach ein mynyddoedd;—
Lle mae awen ddiweniaith,
Gelfydd ym mhob mynydd maith."

Y mae Afon Aled, a Mynydd Hiraethog, i mi, yr hyn ydoedd Cedron a Hermon i'r bardd Hebreig, a Helicon a Parnasus i'r bardd Groegaidd. Y mae yn wir iddynt hwy allu gwisgo enwau eu hoffus fannau âg enwogrwydd ac urddas clasurol, a dyddordeb cyffredinol mwy nag a allodd holl ymdrechion awenyddol Gruffydd Hiraethog a Thudur Aled gynt, a G. Hiraethog ac I. G. Aled yn awr, roddi erioed na byth ar eu mynydd a'u hafon hwy; ond er hynny, ni roddai beirdd Aled a Hiraethog y goreu i feirdd Palestina a Groeg yn eu hymserch at y mannau y buont yn cyweirio tannau telyn eu hawenyddiaeth gyntaf erioed ynddynt.

Yr hyn a ddenai fy sylw a'm serch boreuol, yn bennaf, ydoedd hanesyddiaeth a seryddiaeth; ond prin iawn oedd fy manteision i borthi y tueddfryd hwn. Cyfyngid fi yn hollol, braidd, at hanesyddiaeth y Beibl; "Drych y Ddaiar a'r Ffurfafen;""Daiaryddiaeth " R. Roberts o Gaergybi; "Geiriadur Ysgrythyrol" Charles; ac "Amseryddiaeth Ysgrythyrol" Llwyd o'r Bala. Mawr oedd fy awydd am eangiad moddion gwybodaeth yn y canghennau hynny yn neillduol; ac ystyriwn y rhai oedd ganddynt gyflawnder o'r trysorau hynny o wybodaeth yn eu cyrraedd y dynion hapusaf dan haul; a thybiwn, pe buasent yn fy meddiant i, y buaswn yn gwbl ddedwydd. Ond y mae i bob sefyllfa ei manteision yn gystal a'i hanfanteision. Bu fy anfanteision boreuol hynny yn fanteisiol i minnau mewn un peth—cyfyngodd gylch fy narllenyddiaeth yn bennaf oll at yr Ysgrythyrau Sanctaidd; yr hyn a'm dygodd i'r fath gydnabyddiaeth â hwy, na chyrhaeddaswn mo honi ond odid, pe buasai gennyf wrth law ddigonedd o lyfrau eraill cydnabyddiaeth a ystyriaf heddyw y pennaf a'r gwerthfawrocaf peth a feddwyf.

Yr oeddwn tuag ugain oed pan dueddid fy meddwl gyntaf i sylwi ar farddoniaeth cyn hynny, ni theimlaswn nemawr i ddim dyddordeb yn y gelfyddyd. Caniadau Williams o Bant y Celyn, yn wir, a roddent i mi fawr hyfrydwch er yn blentyn: ond prin yr edrychwn ar farddoniaeth yn y mesurau caethion. Yr un a fu yn offerynol i dueddu fy meddwl yn y ffordd hon ydoedd R. ab Dafydd (Robert Davies), o'r Gilfach Lwyd, Llansannan, yr hwn oedd i mi yn gymydog agos; â chanddo drysorfa led gyfoethog o lyfrau Cymreig, henafiaeth a barddoniaeth a'r hwn oedd (ac sydd eto) yn dra hyddysg yng ngramadeg yr iaith, a rheolau ei barddoniaeth. Cyrchwn at fy nghyfaill R. Davies bob cyfleusdra a gawn i ddarllen ei lyfrau, ac i dderbyn ei addysgiadau. Ewyllysiai ef wneuthur bardd o honof; ond cafodd waith caled i'm dysgyblu cyn y gallai hyd yn oed gynhyrchu unrhyw awydd ynnof at y gelfyddyd; a gwaith caletach na hynny drachefn i'm haddysgu i ddeall rheolau ac adnabod beiau gwaharddedig cerdd dafod; bum yn hir "fel llo heb ei gynhefino â'r iau." Athraw lymfanwl oedd R. Davies; nid oedd trugaredd na maddeuant i'w cael ganddo am wall gramadegol neu gynghaneddol; dwrdiodd fi yn erwindost lawer tro am wallau felly. Byddwn yn arswydo wrth fyned â chyfansoddiad i'w ddangos iddo; ond yr oedd fy nghynnydd graddol yn peri iddo fawr foddhad; a chredaf yn ddilys bod llwyddiant fy anturiaeth gystadleuol gyntaf yn Aberhonddu wedi peri cymaint o lawenydd i feddwl fy athraw ag a barodd i mi fy hun. Ystyriaf nad teg fuasai i mi esgeuluso y cyfleusdra hwn i dalu y gydnabyddiaeth ddyledus hon i'm cynathraw, a'm hen gyfaill cywirgalon.

Y "Cywydd ar Frwydr Trafalgar, a marwolaeth y pen llyngesydd Nelson," un o destynau yr Eisteddfod freiniol yn Aberhonddu, yn 1826, ydoedd Reuben—cyntafanedig fy awen. Erioed o'r blaen ni chynhygiaswn ar gyfansoddi cywydd, na dim arall o bwys. Cyfansoddid hwnnw yn hollol ar anogaeth R. Davies. Cyfansoddais ef ar y meusydd gyda'm gorchwylion, a rhedwn a dernyn ar ol dernyn yn yr hwyr at fy athraw i'w ddiwygio. Nid oedd gennyf fi y disgwyliad lleiaf y buasai iddo ennill y gamp, ond yr oedd ef yn lled obeithiol; a dirfawr oedd fy syndod pan ddaeth y newydd o Aberhonddu mai yr eiddo fi oedd y buddugol. Derbyniais y wobr—ariandlws, gwerth dau gini, ac wyth gini yn arian—trwy ddwylaw y Dr. W. O. Pughe, yr hwn a safasai i'm cynrychioli yn yr eisteddfod, ac yr oedd yn trigo y pryd hwnnw gyda'i fab, y diweddar Aneurin Owen, Ysw., yn Tan y Gyrt, gerllaw Nantglyn. Wedi ei ddychweliad adref o Aberhonddu, anfonodd y Doctor wahoddjad i mi fyned i Tan y Gyrt, i dderbyn y wobr.

Yr oedd Bardd Nantglyn a rhai cyfeillion eraill wedi eu gwahodd yno i'm cyfarfod. Dyna y tro cyntaf i mi weled y doethawr, a bod yng nghyfeillach Bardd Nantglyn. Bu y Doctor yn hynod garedig i mi bob amser wedi hyn, pan ddigwyddwn alw heibio iddo; a'i fab, Aneurin Owen, a Bardd Nantglyn, yr un modd; yr hyn a roddai lawer o gyfnerthiad i'm meddwl yr amser hwnnw, ac a bâr fod eu coffadwriaethau yn dyner ar fy nghof a'm teimlad hyd y pryd hwn. Ychydig cyn hynny y daethwn i gydnabyddiaeth bersonel gyntaf â Chaledfryn. Yr oedd ef wedi dechreu blodeuo a rhagori fel bardd rai blynyddoedd o'm blaen i. Rhoddai Caledfryn i mi bob addysg, hyfforddiant, a chefnogaeth, pan ddigwyddai i ni gyd-gyfarfod; yr hyn ni ddigwyddai yn fynych iawn, o herwydd ein bod wyth milldir o ffordd oddi wrth ein gilydd yn byw.

Fy anturiaeth gystadleuol nesaf ydoedd yn mhen dwy flynedd wedi y gyntaf, yn Eisteddfod freiniol Dinbych, yn 1828. Cyfansoddais ar dri o destynau, sef Cywydd "Ar ymdrech Buddug yn erbyn y Rhufeiniaid," Cywydd "Ar Orllifiad y Môr dros Gantref y Gwaelod," ac "Awdl farwnad i Goronwy Owain."

Hysbys i lawer o'm darllenwyr ddarfod i'r "Cywydd ar Frwydr Trafalgar" gael ei gyhoeddi gydag ychydig ganeuon eraill, yn fuan ar ol yr eisteddfod yn Aberhonddu; ac i' r Cywydd ar "Gantref y Gwaelod " ymddangos yn y "Gwyneddigion," gyda chyfansoddiadau buddugol eraill yr eisteddfod yn Ninbych. Teg ydyw i mi grybwyll ddarfod i mi gymeryd fy rhyddid i newid cryn lawer ar y ddau ragor oeddynt yn eu cyflwr cyntaf, fel y gwel y rhai a feddant y fantais i'w cymharu fel y maent yn y llyfr hwn a'r argraffiadau cyntaf o honynt.

Un o ysbryd rhyfelgar iawn yw y cyntaf; nid oeddwn yn barnu y buasai yn deg i mi gyfnewid dim ar ei ysbryd a'i dôn, gan y buasai hynny yn dinistrio ei unrhywiaeth. Yr oll a wnaed oedd tynnu ymaith linellau gweinion o ran meddwl a chynghanedd, a dodi rhai a olygwn yn gryfach yn eu lle, gan adael ystyr ac ysbryd y cyfansoddiad yr un a'r unrhyw.

Nodiadau[golygu]