Gwaith Gwilym Hiraethog/Gwennol gyntaf y tymor

Oddi ar Wicidestun
Adgofion Mebyd ac Ieuenctid Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Caniadau Ieuenctid


GWENNOL GYNTAF Y TYMOR.

WENNOL fwyn, ti ddaethost eto,
I'n dwyn ar go' fod haf ar wawrio,
Wedi bod yn hir ymdeithio,
Croeso, croeso iti;
Nid oes unrhyw berchen aden
Fwy cariadus na'r wenfolen,
Pawb o'th weled sydd yn llawen:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Ha! mi wela'th fod yn chwilio
Am dy nyth o dan ein bondo,
Y mae hwnnw wedi syrthio,
Wennol, coelia di ;
Nid myfi yn wir a'i tynnodd,
Gwynt a gwlaw a gaea' a'i curodd,
Yntau o ddarn i ddarn a gwympodd:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Wennol dirion, paid a digio,
Gelli wneyd un newydd etɔ;
A phe gallwn, gwnawn dy helpio—
Aros gyda ni:
Casglaf glai, cei dithau 'i weithio,
A chymeraf ofal trosto,
Rhag i'r 'deryn to ddod iddo:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

P'le gadewaist, wennol heini',
Dy gymdeithion, dorf aneiri',"
Oedd y llynedd yn ein llonni
Yma gyda thi?

A fu'r oll o honynt feirw,
A'th adael di'n amddifad weddw?
Byddai hynny 'n chwedl arw:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Wennol bach, pa ham diengi
Draw oddiwrthyf? paid ag ofni;
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu 'r wyf fod gennyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych ymhlith dynion:
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Llawer blinder chwerw brofais,
Er y tro o'r blaen y'th welais,
Wennol fwyn, a llawer gwynais—
P'odd ymd'rewaist ti?
A fyddwch chwi, wenoliaid, weithiau
Yn cyfarfod â blinderau,
Nes troi'ch twi, twi, twi, 'n gwynfannau?
Ebe'r wennol—Twi, twi, twi.

Mi ddymunais, wennol lawen,
Ganwaith feddu ar dy aden,
I allu hedeg yn y wybren
Uwch y byd a'i gri:
Ymryddhau oddiwrth helbulon
Bywyd dynol, a'i ofalon,
Ac fel tithau, 'n iach fy nghalon,
Canu uwch eu pen—Twi, twi.

Mae'th ddyfodiad, addfwyn wennol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymor yn olynol,
Yr ymweli a ni.

Wyt yn adwaen dy dymhorau,
Ac yn cadw dy amserau—
"Cym'rwch rybudd, gwnewch fel finnau,"
Ydyw'r llais ymhob twi, twi!

Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw 'th wisg yn lân a chryno,
A thithau 'n trin y clai a'i ddwbio,
Wrth wneyd dy waith.
Hollwn innau ddysgu honno—
Trin y byd, a myned trwyddo,
Heb halogi 'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno 'm calon chwaith.



Nodiadau[golygu]