Neidio i'r cynnwys

Gwaith Gwilym Marles/Dan Gwmwl

Oddi ar Wicidestun
Llyfrau Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ant o nerth i nerth


Bedd
Gwilym Marles.
CAPEL LLWYN RHYD OWEN (Y NEWYDD)

"I'r distaw fedd ni chyrraedd sen y ffol,
A rhaib erlidwyr droir am byth yn ol.'


DAN GWMWL.

AR lechwedd meillionog uwchlaw un o'r afonydd bychain a lifant i'r Teifi, safai tyddyndy clyd a glandeg yr olwg, o'r enw Penlan. Yma, ar ol ymuno o honynt mewn glan ystâd priodas, yr aethai Rhys Davies a Sarah Jenkins i drigiannu. Yr oeddynt eill dau yn ieuainc, heb weled ond ychydig o flynyddoedd dros yr ugain. Cawsent y fath addysg bwrpasol a sylweddol ag a dderbynir gan lawer o feibion a merched Ceredigion, yn enwedig yn y rhandir a ymestyna rhwng Teifi a'r môr, yng nghanol—barth y sir. Medrent yr iaith Seisneg yn lled dda; derbynient bapur Seisneg bob wythnos, ynghyd a dau gyhoeddiad misol, un Cymreig ac un Seisneg. Yr oeddynt yn weddol eu hamgylchiadau, yn gymaint â bod i Sarah waddol bychan, a bod tad Rhys yn ffermwr cefnog, a Rhys ei hun yn ddyn ieuanc o ddyfais lew, synwyr cryf, ac o arferion ymröus a chynnil. Cadwai Sarah ei thy yn lân—mor loew a'r swllt, ys dywedai ei mam-yng-nghyfraith. Nid ar ddydd Sadwrn yn unig y meddyliai hi am lanhau ei thy. Cai y llwch yn y gegin ac yn y parlwr hefyd ei symud yn llawer amlach nag unwaith bob wythnos. Mynnai hi awyr ffres yn feunyddiol i bob ystafell, yn neillduol i'r ystafelloedd cysgu. Ni hoeliai y ffenestri i lawr yn dynn, fel y gwna rhai, dan yr esgus o ofn lladron. Credai hi mai y lleidr gwaethaf ym mhob teulu yw afiechyd. Mawr brisiai y bendithion hynny a alwai hen weinidog dysgedig a pharchus yn y sir (yr hwn, ysywaeth, fel y rhan fwyaf o'i gyd-lafurwyr ag oeddynt gyfoedion iddo, sydd er ys blynyddoedd rai wedi tewi yn yr angau) yn rhoddion deheulaw y Goruchaf y pethau mwyaf angenrheidiol i ddyn, tra hefyd y rhataf, sef awyr, dwfr, a goleuni; ac fel yr arferai yr hen wr ychwanegu gyda phwyslais nodedig, yr iechydwriaeth. Curai y ddwy galon ieuanc ynghyd. Yr oedd teimladau cynnes a dedwydd blynyddoedd blaenorol yn para heb oeri yn eu mynwesau. Buasai ddiddanus iawn eu carwriaeth—diwair, diniwed, a phur. Ni fuont wyllt a difwrw, fel rhai, yn eu piodas. Cawsent gydsyniad unfrydol eu rhieni o'r ddwy ochr. Ar ddydd eu priodas ni phroffwydid iddynt ond cysur a hawddfyd gan bawb. Adnabyddid y ddau trwy yr ardal fel o dymer garedig a thangnefeddus, o arferion diwyd, ac o ysbryd crefyddol. Nid ar gyfoeth, nac ar lendid, nac ar fwyniant cnawdol y gorffwysent eu gobaith am gysur yn y dyfodol. Ystyrient fod cyfnewidiad i'r fath elfenau hapusrwydd â'r rhai hyn, a gochelasant adeiladu ar sail mor dywodlyd. Y fath fisoedd, y fath flynyddoedd dedwydd a digwmwl oeddynt rai cyntaf eu bywyd priodasol! Caredigrwydd oedd deddf y teulu. Nid oedd drafferth yn y byd iddynt ddyfod o hyd i weision a morwynion. Hoffai pawb aros yn y lle, gan y ffynnai'r fath gydgordiad rhwng y meistr a'r feistres. Nid slafiaid y mynnent i'w gwasanaeth—ddynion fod, ond ymddygent atynt yn hynaws ac ystyriol. Nid paganiaid ychwaith y mynnent iddynt fod. Cai eu gwasanaethddynion gennad serchog i fyned i'r cwrdd a'r ysgol ar yn ail; pleser mawr oedd ganddynt eu gweled yn darllen, ac anogid hwy i hyn pa bryd bynnag yr oedd cyfleusdra yn rhoi. Treiglodd rhyw bum mlynedd fel hyn heibio yn dra dedwydd. Ganed iddynt ferch fechan, yr hon a enwyd ar enw mam y fam yn Margaret. Ym mhen tua dwy flynedd ar ol hyn rhoddwyd i'w gofal fywyd ieuanc arall, mab bychan, yr hwn a alwyd yn John. Cadwai Sarah ei phlant bychain yn lân a thaclus, a dysgai iddynt o'r dechreu wersi syml o ufudd-dod ac o ymddygiad prydferth. Deallai yn dda y fath ddolen gref o serch a chydymdeimlad rhyngddi hi a'i phriod oedd y plant. Arferai ei merch fechan i fyned allan i roesawu ei thad pan ddychwelai o aredig yn y gwanwyn, neu o fedi yn adeg cynhaeaf. Deuai yntau a hi i mewn i'r tŷ, yn ei freichiau, a rhoddai hi i eisedd yn nesaf ato wrth y bwrdd, a charai edrych yn ei gwyneb hardd ag oedd yn ddarlun o dymer dda a serch bywiog ei mam, yn gystal ag o'r eiddo ef ei hun. Ni fynnai yr un fechan adael côl ei thad o'r pryd y dychwelai yn yr hwyr hyd yr amser iddi i gael ei rhoi yn ei gwely bach. Fel y dywedir, y mae yn arferol os oedd yn anwylach gan y rieni am un o'r plant nag am y llall, y ferch oedd hoffder y tad, y mab oedd hoffder y fam. Ond pwy all fod yn sicr o hyn? Gwenai rhagluniaeth arnynt ym mhob modd. Troent swm penodol o arian heibio bob blwyddyn mewn ffordd o ragbarotoad tuagat addysgu eu plant. Nid oedd hapusach teulu trwy yr holl gymydogaeth. Felly y credai y tylwyth-yn-nghyfraith o'r ddwy ochr; a dyna hefyd oedd cred yr ardal yn gyffredin. Braidd nad oedd rhai yn eiddigeddu wrthynt, ac yn barod i dystio na fyddent yn hir heb i ryw adfyd neu gilydd i'w goddiweddyd. Gan fod y bywyd dynol yn agored i gyfnewidiadau ar bob pryd, nid oedd raid i broffwydi doethion iawn i wneyd y fath ddarogan a hyn. Pa fodd bynnag, yn y pumed gaeaf o'u bywyd priodasol cododd cwmwl du, yng nghysgod yr hwn y gorfu iddynt ymdroi yn alarus am beth amser. Aethai y fam à John bach yn ei llaw i alw un prydnawn mewn ffermdy cyfagos, lle yr oedd dau o'r plant yn sâl, ond o ba glefyd nis gwyddai hi ar y pryd. Nos drannoeth, ar ddychweliad y tad i'r tŷ, sylwodd nad oedd ei fab bychan mor siaradus a chwareugar ag arferol. Treuliwyd y nos honno ganddo yn lled anesmwyth. Yn y bore, dododd ei law fechan ar ei wddf, fel pe yn achwyn poen yno; deuai rhyw iasau o gryndod drosto ar amserau; yr oedd cur yn y pen; nid oedd eisieu bwyd y bore hwnnw, er fod cri parhaus am rywbeth i yfed. Ym mhen tua dau ddiwrnod sylwodd y fam ar ysmotiau cochion ar y ddwyfron a'r breichiau. Nid oedd bellach le i amheu achos y selni; a phan alwodd y meddyg yn y prydnawn, rhoddodd gyfarwyddiadau ar gyfer y dwymyn goch.

I lawer, mae yn debyg, ymddengys gwaith plentyn yn cael ei gymeryd yn y clefyd cyffredin hwn ond ychydig o beth. Dylid cofio, pa fodd bynnag, mai dyma'r afiechyd cyntaf a ymwelasai a'r teulu; a phrofiad chwerw yw ymweliad cyntaf unrhyw afiechyd â theulu ieuanc. Hwn oedd y cwmwl cyntaf a ddarfu ledu ei dywyllwch drosto. Newidiodd agwedd bob peth trwy y ty. Prudd-der a distawrwydd a deyrnasent yno. Yn lle yr acenion clir a chroew yn y rhai yr arferai y gwr a'r wraig ymddiddan â'u gilydd, nid oedd yn awr ond siarad isel cwynfanus, neu sisial pruddaidd. Rhoddai y feistres ei heirchion mewn ton drist, fel un a chalon wedi hanner torri. Yn lle y dull gwrol ac awdurdodol ym mha un yr arferai gwr y tŷ roddi eu dogn benodol o waith i'w weision, yr oedd ei lais yn awr yn egwan a chrynedig. Yn ystod y prydiau bwyd, arferasai pob un fod am y blaenaf gyda rhyw newydd diniwed, neu 'stori lawen, neu air digrif; canys nid y rheol yn y teulu hwn fuasai ceisio dirgymhell rhyw undonrwydd Phariseaidd ac wyneb-bruddaidd ar neb o gylch y tŷ; ond yn awr cydymdeimlent oll â'r ddau oeddynt drwm eu calon, a gwelent eisieu yr un bychan ffraeth wrth y bwrdd. Braidd y gallesid gwybod adeg boreu-bryd, na chiniaw, na swper, oni buasai yr ychydig drwst a gedwid wrth eistedd a chodi, a swn hoelion mawrion yr esgidiau trymion fel y disgynnent ar balmant y gegin a cherrig y drws wrth ddyfod i mewn a myned allan. Symudai y fam yn wylaidd a chrynedig trwy y tŷ, yn angel trugaredd, yn chwilio am rywbeth a dybiai a allai fod er esmwythâd i'w hanwyl un. Yna eisteddai wrth ochr ei wely bychan, gan blygu uwch ei ben, a cheisio ennill gair, neu wên, neu edrychiad a fuasai iddi hi yn fwy o werth na'r byd y pryd hwnnw: ond i ddim diben. Yr oedd ei bachgen ym man gwaethaf y clefyd; y dwymyn. yn yr amgylchiad hwn yn drymach na chyffredin; yn wir yr oedd y bywyd yn y glorian. Ceisiai y tad ddilyn ei waith allan, ond mynych mynych y dychwelai i'r tŷ, a phryder yn argraffedig ar ei wedd, i roi tro i mewn i'r ystafell, ac i edrych yng ngwyneb ei un bychan na wnai yn awr un sylw o hono. Treuliai lawer awr gyfan yn y tŷ, yn eistedd wrth y ffenestr, gan ddarllen weithiau y Beibl, ac weithiau ei hymnau dewisol. Cafwyd y dail wedi eu plygu ar lawer rhan o'r Beibl a ddygai gysur iddo yn ei drallod, megys ar y mannau canlynol.

"Ni'th roddaf di i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith."

"Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch."

Pwy bynag a ddêl, nis bwriaf ef allan ddim." "Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddiddenir."

Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi. N thralloder eich calon, ac nac ofned."

"Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant; a'th orchymynion di oedd fy nigrifwch."

"Cyfyd goleuni i'r cyfiawn yn y tywyllwch." "Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon."

Ar y dydd Sabbath pan oedd ei phlentyn wannaf, a phan oedd y distawrwydd trwy y tŷ, tywyllwch yr ystafell, am y cedwid y gorchudd dros y ffenestr, ynghyd â phrudd-der dwfn ei phriod, wedi bron hollol orchfygu ei chalon; mor fynych ag y caniatai ei dagrau a'r mân ddyledswyddau o serch y galwai ei un bychan am danynt iddi wneyd, darllenai y fam rai o'r hymnau hynny ag y mae cystudd, fel y gwnai gwialen Moses gynt dynnu dwfr o'r graig, bob amser yn peri i ryw ystyr newydd a llawnach nag o'r blaen i lifo allan o honynt. Yn eu plith yr oedd y rhai hyn :—

Trwy droiai'r byd, ei wên a'i ŵg,
Bid da, bid drwg y tybier,
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpas—gylch glân,
Yn wiwlan er na weler."

"Er na weler," meddai, gan ail fyned dros y geiriau.

"Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig,
Fe sych a'i law y llif sy'n gwau
Dros ruddiau'r weddw unig."

Darllenodd lawer gwaith drosodd y Salm odiaeth honno yn "Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch ":—

"Pwy, lle chwiliaf eitha'r bydoedd,
A gaf imi'n gysur byw?
Pwy sydd gennyf, drwy'r holl nefoedd,
Pwy'n amgeledd ond fy Nuw?
Caf ei gariad pur am danaf,
Ym mhob amser, ym mhob lle;
Ar y ddaear ni 'wyllysiaf
Imi'n gyfaill ond y fe."

Ar ol bod yn darllen fel hyn eill dau am dro hir yng ngoleuni gwannaidd un o brydnawnau cymylog y rhan olaf o fis Rhagfyr, ag oedd yn ddarlun cywir o'u teimladau trallodus hwy, aethant eill dau at wely y claf, edrychasant arno, ac yna cyn troi ymaith digwyddodd i'w llygaid gyfarfod, gan lefaru mwy nag a allasai y tafod lefaru, a gorfu iddynt fyned o'r neilldu i roddi rhydd ollyngdod i'w teimladau llwythog.

Hwn fuasai y dydd trymaf eto. Ond pan ryddo hi dywyllaf, mae y wawr ar dorri. Pan alwodd y meddyg drannoeth dywedodd fod y gwaethaf drosodd; a bod gobaith cryf bellach am adferiad graddol John. Eto, ofni a wnai y tad a'r fam, nes gweled arwyddion mwy eglur. Yn awr dechreuodd yr ysmotiau cochion gilio, ac yn fuan digroenodd y wyneb a'r dwylaw a gwadnau y traed. Dechreuai John sylwi yn awr, er nad oedd eto wedi gwenu na llefaru unwaith. Pan ddechreuodd siarad, O'r fath lawenydd! Cerddodd pob anadl trwy y tŷ yn rhwyddach. Dychwelodd yr hen fywyd gynt mewn rhan. Adfywiodd calonau y tad a'r fam fel pe buasai mynydd mawr wedi ei symud ymaith. Yn fuan daeth y dioddefydd bychan yn alluogi adael ei wely am gôl ei fam, a dechreuodd eistedd yn ei ystol fechan wrth y tân. Daeth awydd siarad arno megis cynt; a gofynai wrth edrych allan trwy y ffenestr ar yr eira, o ba le y daethai yr holl halen, ac i ba ddiben yr oedd wedi ei osod yno. Y nos Calan dilynol, pan oedd John wedi bron ei lwyr adferyd, eisteddai y tad a'r fam, eu merch a'u mab bychan ar yr aelwyd yn y parlwr; y fam yn gwnio, a'r tad yn darllen. Rhoddodd y ddau eu gwaith heibio yn ddisymwth o dan ddylanwad teimladau dwysion, ac aethant yn ol dros flynyddoedd eu bywyd priodasol, yn enwedig y flwyddyn olaf; a chan gymeryd John yn ei breichiau a'i wasgu at ei chalon, dywedai y fam: O fy nhrysor anwyl! O fy mab yr hwn a fu farw, ac a aeth yn fyw drachefn!"

"Ie," meddai y tad, a llais crynedig gan deimlad, bu yng nglyn cysgod angau, ond holodd y Bugail Da ef yn ol i ni. Bendigedig fyddo Ei enw!"

Y nos Calan honno ciliodd ymaith ymyl olaf y cwmwl cyntaf hwn ar deulu Penlan, a gadawodd hwynt yn llawn diolchgarwch calon, ac yn barotach ar gyfer cwrdd â thrallodion dyfodol.

Nodiadau

[golygu]