Gwaith Gwilym Marles/Llyfrau

Oddi ar Wicidestun
Annerch Cyfaill Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Dan Gwmwl


LLYFRAU.

DYWEDIR ddarfod i Xerxes brenin Persia, pan wedi gwneyd prawf o bob pleser adnabyddus iddo, a laru arnynt oll, ofyn yn bryderus, "Pwy a ddyfeisia i mi bleser newydd?" Ein hateb ni iddo a fuasai "Darllen;" pleser na wyddai y teyrn, yn debyg, ond ychydig am dano, a phleser amgenach ddigon na llusgo byddinoedd amrosgo o slafiaid milwraidd ar ei ol o wlad i wlad i oresgyn a difrodi, lladd a llosgi.

Erbyn heddyw y mae llyfrau wedi dyfod i raddau helaeth yn rhan anhebgorol o ddodrefn ein tai yn y wlad hon. Teimlir hyn gan ein gweithwyr deallus ac ymofyngar yn gymaint â chan neb pwy bynnag. Barna llawer o'n ieuenctyd, trwy drugaredd, pan anturiant i'r sefyllfa briod— asol, ei bod hi yn hytrach o fwy pwys i gael ychydig o seldau llawn o lyfrau yn eu tai wrth ddechreu eu byd, na rhesi o seldau wedi eu gwisgo yn daclus à llestri o amryw liwiau, na ddefnyddir efallai deirgwaith mewn oes. Gwelir llawer o'n pobl ieuainc yn rhwymo eu cyhoeddiadau misol yn gyfrolau hylaw, ac yn pwrcasu geiriadur, esponiad, cyfrol neu ddwy o farddoniaeth, gramadeg Cymraeg, gramadeg cerddorol, cyfrol neu ddwy ar hanesiaeth, a chyfrolau ereill yn ol yr archwaeth neillduol. Weithiau hefyd yn gymysgedig â gweithiau Cymreig cawn lyfrau da a buddiol yn yr iaith Seisneg, megys, Evenings at Home, Prydyddwaith Cowper, rhai cyfrolau o Watts neu Channing, Uncle Tom's Cabin, Smiles ar Self-Help—llyfr, gyda llaw, ag sydd grynodeb o'r ffeithiau. mwyaf addysgiadol ac anogaethol i ieuenctyd. Mae hyn oll fel y dylai fod, ac yn ddechreuad cyfnod llawn o addewid yn ein gwlad.

Er y pryd, yn 1473, y gosododd William Caxton i fyny yr argraffwasg gyntaf yn Lloegr, yn Nghysegr Westminster Abbey, rhyfedd y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle mewn llenyddiaeth ac mewn gwareiddiad yn gyffredinol. Hyd yn hyn nid oedd wrth reswm ond llyfrau ysgrifenedig; a hawdd deall mai gorchwyl arat a chostus iawn oedd copïo cyfrolau meithion. Yr oedd gan y mynachod, y rhai oeddynt y prif ysgrifenwyr yn yr hen amser, gryn lawer o hamdden ar eu dwylaw; eto cyfyngedig iawn oedd nifer y llyfrau a danysgrifid, ac i'r mynachdai y perthynent, ac nid i'r werin. Nid oedd ond y dosparth clerigol yn ymyrryd â llenyddiaeth; i'r werin yr oedd ei chynyrchion gwerthfawr yn ffrwyth gwaharddedig. Os o ddigwyddiad y medrai rhai o'r bobl ddarllen, ac y dymunent wneyd hynny, yr oedd pris y copiau ysgrifenedig yn rhy uchel iddynt eu pwrcasu heb yr aberth fwyaf. Buasai raid i weithiwr dreulio cyflog gyflawn dwy flynedd er gallu prynu un copi o Destament Seisneg Wycliffe, a'i holl gyflog am bymtheg mlynedd cyn gallu dyfod i feddiant of Feibl cyfan. A thrachefn, wedi i'r gelfyddyd o argraffu gael ei dyfeisio, nid oedd o gymaint gwerth tuag at radloni cyfryngau gwybodaeth, nes y deuwyd o hyd i ddefnydd rhad i argraffu arno. Dygwyd y gelfyddyd o wneyd papyr o garpiau o'r Dwyrain gan y Croes-gadwyr yn amser Edward I., ond aeth rhyw gan mlynedd a chwarter heibio er amser Caxton cyn i'r felin bapyr gyntaf gael ei gosod i fyny mewn lle o'r enw Dartford, yn Kent. Erbyn hyn y mae'r llawweithfeydd papyr gyda'r rhai pwysicaf yn y wlad. Cynullir yn ofalus holl garpiau'r wlad ynghyd—nid oes wisg bwbach yn rhy wael—a gwneir o honynt ddefnyddiau ysgrifenu ac argraffu, y rhai ydynt ddiarhebol am eu rhadlondeb. A rhwng pob peth, ni fu llyfrau yn ein gwlad erioed mor gyrhaeddadwy ag ydynt yn awr, fel ag y mae pawb, mor bell ag y mae a fynno'r pris, yn ddiesgus, os yr esgeulusant ddarllen. Yng Nghymru nid yw llyfrau mor rhad ag mewn gwledydd eraill, neu mor rhad ag ydynt yn Lloegr, am nad yw y cylchrediad ond bychan mewn cymhariaeth; ond hyd yn oed yma gyda ni nid oes le i achwyn, ac y mae gennym bob amser le i nesu hwnt i helpu ein hunain o lenyddiaeth doreithiog ein cymydogion y Saeson.

Ni a fostiwn weithiau ym mhurdeb y wasg Gymreig, gan feddwl wrth hynny bod ein llenyddiaeth yn rhydd oddiwrth gyhoeddiadau anffyddaidd, anghysegredig, ac anllad, y fath ymddangosant mewn cryn gyflawnder, yn enwedig ar brydiau, yn yr iaith Seisneg. Hyn sydd wir ffaith, a da iawn gennym o'r herwydd. Ond, fel ffeithiau pleserau eraill, y mae modd gwneyd gormod o honi, ac i ni gymeryd gormod o glod i ni ein hunain fel cenedl oddiwrthi. Pe yn byw o dan yr un amgylchiadau, ac yn agored i'r un profedigaethau a'r Saeson, nid ydym yn gweled un rheswm dros gredu y buasai ein llenyddiaeth ni yn hyn yn wahanol oddiwrth yr eiddynt hwy. Y ffordd y gwneir gennym yn gyffredin yw priodoli i grefyddolder ein cymeriad cenedlaethol, neu i ddwysder a duwioldeb ein hathrawon eglwysig, neu efallai weithiau i ryw ragluniaeth neillduol a ddiogela ein cenedl ni fel "ychydig o enwau" breintiedig, i fod yn esiampl i'r byd o symledd buchedd ac o iachusder athrawiaeth, priodoli i un neu'r oll o'r pethau hyn y ffaith o'r gwahaniaeth hwn yn ein llenyddiaeth ni i eiddo y Saeson a'r Ffrancod a chenedloedd eraill. Ond nad beth am yr ystyriaethau uchod, dilys yw gennym fod ein sefyllfa fynyddig a'n iaith yn ddau brif rwystr o'n tu ni i lenyddiaeth o'r fath. Hyd ddyfodiad y rheilffyrdd yr oedd ein gwlad yn bellenig ac estronol; ac yn awr y mae ein hen iaith fendigedig, mor bell ag nad yw gwybodaeth o'r iaith Seisneg ar ein tu ni yn effeithio cyfnewidiad—canys nid oes raid ofni y rhed y Saeson i ddysgu ein iaith ni—yn fwy o ragfur i ddylifiad heresiau tramor nag a fuasai yr Alps neu yr Himalaya. Oblegid nid ymddengys fod unrhyw swyngyfaredd cenedlaethol yn diogelu y Cymry mwy na chenedloedd eraill rhag heresiau pan y gesyd amgylchiadau hwynt yn agored iddynt. Mae enw Morgan neu Pelagius, o'r bumed ganrif, yr hwn a wrthwyneb— wyd mor egniol gan Augustine a Jerome, yn adnabyddus i bawb. Mynn rhai fod yr hâd drwg hwnnw a hauodd ef heb farw allan o Gymru oddiar hynny hyd yn awr, a bod y nyth bresennol o hereticiaid yn Undodiaid, Ariaid, neu pa enw bynnag a ddygant, yn gywion a ddeorwyd yn y bumed ganrif ganddo ef a'i gyd—lafur wr Coelestius. Nad beth am hynny, dilys yw y dichon i Gymry yn gystal a Saeson droi yn hereticiaid o dan y dylanwadau priodol. Gŵyr pawb mai Cymro o'r Drefnewydd, yn sir Drefaldwyn, oedd y diweddar Robert Owen, un o'r enwocaf a flagurodd erioed yn rhengau y Secularists. Mae yn ffaith hefyd fod yr Undodiaid yn Lloegr wedi, ac yn parhau i gael rhan luosog o'u gweinidogion o Gymru. Ni chrybwyllwn hyn ond yn unig i ddangos fod y gwaed Cymreig, o ran dim a wyddom ni i'r gwrthwyneb, mor agored ag unrhyw waed arall i'r haint o heresi. Ac i nodi un engraifft dra nodedig arall; nid yw yn debyg i'r Mormoniaid fod yn fwy llwyddianus mewn un wlad nag y buont rhwng mynyddoedd Cymru, ymhith cenedl a ymffrostia gymaint yn ei gwybodaeth o'r Ysgrythyrau. Y casgliad a dynnwn yw, mai i'w sefyllfa ddaiaryddol, ac i wahaniaeth iaith, y mae ein gwlad yn ddyledus am ba burdeb bynnag a hawlir i'n llenyddiaeth ni y tu hwnt i eiddo gwledydd eraill. Yr ydym yn llawenhau fod ein iaith mor rhydd o gyfansoddiadau brwnt a thrythyll, a chrach-feddygol ac anffyddol, ac yn dwys hyderu mai felly y parha hyd yr amser, yr hwn sydd yn cyflym nesu, pan y bydd i ledaeniad y Saesneg ei gorfodi i gilio o'r maes. Eto ni fynnem fod gormod yn cael ei wneyd o'r purdeb honedig hwn. Mae ol bysedd duon y diafol ar lawer dalen yn ein llenyddiaeth ninnau hefyd. Gallasai ef o'r goreu dorri ei enw wrth lawer pamphletyn ac ambell gyfrol a ymddangosodd o'r wasg Gymreig. Ni fu cynifer o ddadleuon enwad-gul, ynfyd-boeth, crach-dduwinyddol yn cael eu cario ymlaen efallai mewn un man nag yn ein cyhoeddiadau misol ni yng Nghymru. Mawr y dirdynu a'r llapreio a wneid ar y Beibl yn yr ymgyrchoedd hyn. Saethai y naill blaid eu bwlets papur, ar lun adnodau, yn ddiarbed at y llall o'u cyflegrau bychain. Mae yn debyg na fu crochan y sêl enwadol yn berwi yn ffyrnicach mewn un wlad nag yn y wlad hon ar rai prydiau, fel y tystia luaws o gynyrchion y wasg. Nid o natur bur iawn yw y rhai hyn. Nid arwydd o unrhyw burdeb llenyddol yw y ffregodau, y gor— ganmoliaethau a'r weniaith wrthwyneblyd a ddarllenir gennym mor fynych. A beth am y pregethau annhymig, y traethodau cymysglyd a di-bwynt, y llatheni o bryddestau, o awdlau, ac o gywyddau crai anfarddonol, a'r ugeiniau o hymnau hanner-pan a frithant ein llenyddiaeth? Gall y testyn fod yn dda, tra'r llyfr neu'r cyfansoddiad yn annhraethol o wael. Ac nid llyfrau anllad ac anffyddol, proffesedig felly, yw yr unig rai a wnant niwed. Fel y sylwa Archesgob Whately,—"Mae gweithiau anghysegredig ac anffyddol, a broffesant fod yn gyfryw, y rhai y mae'r oes hon wedi esgor arnynt, yn llawer llai gwenwynllyd na gwaith a broffesa fod yn grefyddol, yr hwn a fo wedi ei ysgrifenu yn y fath fodd ag i gynhyrfu arswvd, a châs, a diystyrrwch, mewn personau o deimlad da ac o chwaeth dda.'

Wedi'r cwbl offerynau yw llyfrau, hyd yn oed y llyfrau goreu; fel os na wyddis y ffordd i'w defnyddio, nid ydynt o un lles. Mae chwaeth a doethineb yn ofynnol wrth ddewis, a dyfal astudrwydd, a gofal, ac ymchwiliad, wrth ddarllen pob math o lyfr. Mae nodiadau Arglwydd Bacon yn ardderchog;—"Mae rhai llyfrau i'w profi, eraill i'w llyncu, a rhyw ychydig i'w cnoi. a'u treulio: hynny yw, mae rhai llyfrau i gael eu darllen yn unig mewn rhan, eraill i'w darllen, ond nid gyda mawr sylw, a rhyw ychydig i'w darllen yn llwyr, a chyda diwydrwydd a sylw. Gellir hefyd ddarllen rhai llyfrau trwy ddirprwywr, a thrwy ddetholion a wnaed gan eraill; ond ni ddylai hyn fod ond gyda rhesymau lleiaf pwysig, a'r fath waelaf o lyfrau. . . Mae darllen yn gwneyd dyn llawn, cyd-ymddiddan yn gwneyd dyn parod, ac ysgrifenu yn gwneyd dyn manwl; ac o ganlyniad, os mai ychydig a ysgrifena dyn, dylai fod ganddo gof mawr; os mai ychydig a gyd—ymddiddana, dylai fod yn berchen ar synwyr parod; ac os mai ychydig a ddarllena, dylai feddu llawer o gyfrwysdra, er mwyn ymddangos fel yn gwybod yr hyn na ŵyr." Un o goeth ddywediadau Bacon yw a ganlyn hefyd;—" Wrth ddarllen, yr ydym yn cymdeithasu â'r doeth; yn nhrafodaeth bywyd, yn gyffredin â'r ffol."

Mae llawer o ragoriaeth i'r lleferydd dynol byw ar y llythyren argraffedig farw tuag at ddysgu dyn. Gwir. Ond ar y llaw arall, mae llawer o ragoriaeth yn perthyn i lyfrau fel athrawon. Fel y dywed hen awdwr;—"Llyfrau ydynt athrawon a ddysgant heb na gwiail, na rheolau, na llid." Os ewch i ymofyn a hwynt nid ydynt fyth yn cysgu; os holwn ofyniadau iddynt, nis rhedant ymaith; os gwnawn gamgymeriadau, ni ddifriant ni; os byddwn anwybodus, ni chwarddant am ein pen. Mae un peth er hynny, yn ol Bacon, nas gall llyfrau ei ddysgu i ni, sef yw hynny, y ffordd i iawn ddefnyddio llyfrau. Mae yn rhaid i'r myfyriwr trwy ymdrafod â dynolryw ddwyn ei ddamcaniaethau i ymarferiad, a chymhwyso ei wybodaeth at amcanion bywyd. "Y mae llyfrau da," medd Bacon, drachefn, "yn ystorfa oludog er gogoniant i'r Creawdwr, ac er ysgafnhad i gyflwr dyn." Pan oedd llyfrau yn brinion mewn cymhariaeth, dywedai Ciceromai "enaid tŷ yw llyfrau." Gan gyfeirio at y cymorth a rydd llyfrau i ni, ac at y parotoad a'r rhagdueddiad a roddant i ddyn i ffurfio barn am bersonau a phethau, dywedai Dryden am danynt mai gwydrau ydynt i ddarllen natur wrthynt. Os bydd y llyfr yn annheg neu aneglur, nis gallwn weled yn eglur; bydd yr effaith yr unrhyw a phe yr edrychem trwy olyg-wydrau lliwiedig. Ond llyfrau da, agorant ein llygaid, cyfarwyddant ein traed, ysprydolant ein calonau. "Dysgant ni," medd Hare, "i ddeall a theimlo yr hyn a welwn, i ddehongli a sillaffa arwydd-luniau y synwyrau." A sylwa Carlyle yn gyffrous:—"Mewn llyfrau y mae yn gorwedd enaid yr holl amser a aeth heibio, llais croew a chlywadwy yr amser a aeth heibio, pan y mae y corff o hono wedi diflanu yn gyfan—gwbl megis breuddwyd." Mae rhai yn hoff o hen lyfrau, eraill yn dotio ar lyfrau newyddion. "Llyfrau ail-law i mi," meddai Charles Lamb, pethau yn perthyn i'r amser a aeth heibio yw llyfrau." Eraill drachefn, nis gwaeth ganddynt ai hen ai newydd y llyfr; os meddyliant y gallant gael adeiladaeth neu bleser, neu bob un o'r ddau, oddiwrtho, darllenant ef yn awyddus. Dyma'r dosparth goreu. Cynwysiad llyfr ac nid ei oedran, ei awdwr, ei iaith, ei bris, na dim o'r fath, sydd i benderfynu ei werth. Ni a ddywedwn wrth derfynu wrth ein darllenwyr ieuainc, "Darllenwch," a chan gofio cyngor Lessing i ddyn ieuanc, "Meddyliwch ar gam os mynnwch, ond meddyliwch drosoch eich hun;" felly y dywedwn ninnau;—Darllenwch lyfrau da hyd y gellwch eu cael, ond yn enw pob peth darllenwch.

Nodiadau[golygu]