Gwaith Gwilym Marles/Emyn Olaf

Oddi ar Wicidestun
Ymholiad Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards


EMYN.

(Ei emyn olaf)

NID gwiw i feidrol ddyn ffaeledig
I herio gallu mawr y nef,
Na rhoddi ffrwyn i wŷn aniddig,
A rhyfyg balch ei ysbryd ef;
Y galon war fo'n ostyngedig,
A'i hanian mewn ufudd—dod gwir,
Bydd hon yn uchel wynfydedig
Dros ddyddiau anfarwoldeb hir.

Os trefnau'r nef yn llwyr nis gallaf
Amgyffred â fy meddwl gwan,
Er hynny yn fy nghalon credaf
Mai iawn yr oll a syrth i'm rhan;
Os chwerw iawn fydd llawer cwpan,
A llawer croes yn drwm i'w dwyn,
Gwn mai Efe sy'n trefnu'r cyfan,
Mewn perffaith gariad er fy mwyn.

Er pan yn blentyn fe'm harweiniodd
Hyd lwybrau dyrus daear lawr,
A'i dyner ofal fe'm dilynodd
Fel llygad mam bob munud awr;

Y rhan sy'n ol o yrfa bywyd,
Mae honno hefyd yn ei law;
Ac Ef, o'i gariad digyfnewid,
A geidw bob rhyw niwed draw.

I dirion freichiau dy drugaredd
Ymollwng imi'n esmwyth gad,
Doed wedyn alar neu orfoledd,
Ni chollaf afael ar fy Nhad;
A phan y bo tywyllwch angau
Yn cau am danaf yn y glyn,
Deheulaw'th ras a'm tywys adre
I wlad y nefol hedd bryd hyn.


Nodiadau[golygu]