Gwaith Gwilym Marles/Ymholiad
Gwedd
← Melus | Gwaith Gwilym Marles gan William Thomas (Gwilym Marles) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Emyn Olaf → |
YMHOLIAD
Nos angau, yw hi'n ddu a hir?
Yw'r bedd arwyddlun gwir ohoni?
A bar hi'n dywyll fel yn awr
Am byth heb siriol wawr i dorri?
Ai dyma eithaf tynged dyn,
Heb ddim tuhwnt ynglyn a'i hanes?
Chawn ni ddim cwrddyd mewn rhyw le,
Fel cynt, ryw fore o wanwyn cynnes?