Gwaith Gwilym Marles/Galar y Fwyalchen

Oddi ar Wicidestun
Y Frongoch Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Pwy gleddir gyntaf?


GALARGAN Y FWYALCHEN.

MWYALCHEN oedd yn pyncio
Ei chân o alar du
Ar ben yr onnen lathraidd
Gerllaw ei chymar cu,—
"Ni wnaethem ddechreu'r Gwanwyn,
Ag eithaf egni iach,
Mor dlysed nyth a welwyd
Ar lannau'r Cletwr Fach.

'Pob un a ddygai frigyn
Neu gorsen wyw a sych,
A phigaid dda o fwswm.
Ac ambell blufyn gwych;
A dail y coed agorent
Yn brydferth iawn eu bri,
A'r ffrwd gerllaw furmurai
Ei bendith arnom ni.

Rhyw hwyrddydd mwyn ni ganem
Ein deuoedd gân o glod,
Wrth feddwl fod ein llafur
I derfyn wedi dod;
A mi ddechreuais ddeor
Fy wyau spotiog mân,
A 'nghymar yntau'n gwylio,
Gan fynych eilio cân.

"Un bore teg mi glywn
Ryw blantos drwg gerllaw,
A phan yn nes y daethant
Fe grynnai 'mron o fraw;
Hedfanai 'nghymar heibio
Gan amlwg arwydd roi,
Fod peryg yn yr ymyl,—
Mai doethach fyddai ffoi.


"Mi es ychydig bellder
A 'nghalon bron yn ddwy,
I frig hynafol dderwen
I wylio'u neges hwy;
A gwelwn Sal yn dringad
Y clawdd yn union syth,
A Wil y Cwm yn helpu
I dorri'n hanwyl nyth.

"Ar ol i'n braw dangnofi,
A mynd o'r plantos ffol,
Fy nghymar mwyn a minnau
Ddychwelem yn ein hol,
Ond O! yr olwg irad !
Dim wy na nythol clyd,
Yn ofer aethai'n llafur
A'n pryder dwys i gyd.

"Dim ond y man oedd yno,
A hwnnw'n wag a du,
Hoff gryd fy nghywion bychain,
Bedd i'm gobeithion fu;
Ond dere, fanwyl gymar,
Rhed amser ar ei dro,
Ail nyth a godwn eto,
Mewn rhyw hapusach fro.

"Ac O, ti Dad yr adar,
A Thad pob perchen chwyth,
Gwna'p harwain ni i le diogel
I ail gyweirio'n nyth,
Lle na ddaw plantos diriaid
O hyd i beri brad,
A ninnau a'n rhai bychain
A'th folwn di, ein Tad."


Nodiadau[golygu]