Gwaith Gwilym Marles/Y Frongoch

Oddi ar Wicidestun
Brawd a Aned Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Galar y Fwyalchen


Y FRONGOCH.

Willie,,—
DYWED imi, robin bach,
P'odd treuliaist ti y gaea?
I'm golwg mae dy fron mor iach
A chyn y rhew a'r eira.

Y Frongoch,—
Mi welais eitha garw hin,
Yr awel oedd yn arw,
Y rhew yn llym a'r eira'n flin,
A buais bron a marw.

Willie,,—
A gefaist ambell ddrws i droi
I chwilio am amgeledd?
A gefaist ambell law i roi
Briwsionyn o drugaredd?

Y Frongoch,—
O do, yn ateb i fy nghri,
Rhyw eneth fach mor dirion
Agorai'r drws i nghroesaw i,
A llond ei llaw o friwsion;
A thrwy y ffenest mewn yr awn,
A 'nghalon fach yn crynnu,
A dawnsio ar y bwrdd a gawn
Heb elyn i'm dychrynnu.

Willie,,—
 :Ble cysgit ti, fy mrongoch gu,
Ar y nosweithiau oerion,
Pan dros y coed yr eira'n gnu
A ledai'i esgyll gwynion?


Y Frongoch,—
Ym mol rhyw glawdd y cysgwn i,
A mwswm clyd fy ngwely,
A chlywn yr eira ar fy mhlu
Yn disgyn nes i'm gysgu;

A'r bore awn o 'ngwely glân
I maes i hel elusen,—
Rhyw hadau a phryfetach mân
A bylent fin fy angen.

Willie,,—
Mi deimlwn drosot lawer hwyr
Dy weld mor llwyd dy anel,
A'th aden fach mor llipa lwyr
Yn crynnu yn yr awel.

Y Frongoch,—
Mae'r rhod yn troi, mi wn yn dda
Fod Gwanwyn wedi nesu;
Mae gennyf gymar dros yr ha,
Ac arnaf chwant i ganu.

Willie,,—
Rhwydd hynt i chwi eich deuoedd lân
I fagu'ch teulu hawddgar,
Na ddyged neb eich wyau mân
I beri i chwi alar;
Tua'n ty rho eto ambell dro,
Pan allot gan ofalon,
A chân dy ofid oll ar ffo,—
Mae misoedd haf yn hirion.


Nodiadau[golygu]