Gwaith Gwilym Marles/I Frawd mewn Galar

Oddi ar Wicidestun
Bugeiliaid Sir Aberteifi Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Tro hyd lan y Teifi


I FRAWD MEWN GALAR.

AETHAI blwyddyn heibio, 'mrawd,
Er pan y'th welswn di;
Y pryd hwnnw bychain draed
A wibient gylch y ty;
Clywid llais ariannaidd
O fore hyd brydnawn,
O ystafell i ystafell,
A chwi'ch dau yn ddedwydd iawn.

Y ddoe es at dy annedd
A churais wrth y drws,
Ac nis gallwn lai na chofio
Am dy drysor bychan tlws;
Dy anwyl wraig a ddaeth,
Ond wrth ei hochr neb,
A chrynedig oedd ei llais,
Ac yr oedd ei grudd yn wleb.

Gwelwn yr esgidiau bychain
O'r neilldu wedi eu rhoi,
Gwelwn fod y gader newydd
O'r neilltu wedi ei throi;
Nid oedd tegan yn y gegin,
Nag yn y parlwr un,
Hi nid oedd yno i chwareu,
Megys hithau cawsent hun.

Bodd neu anfodd doi y dagrau,
Trwyddynt gwelwn uwch y tân
Ohoni arlun bychan
Yn ei gwisgoedd gwynion glân;
Gwên ddifachlud ar ei gwyneb,
Ar ei gwyneb hawddgar llon,
Y fath wên a ddywedai 'bod
Yn rhy dda i'r ddaear hon.


Yr oedd yno'i nodwydd fechan,
Ac ynddi'r edau fain,
Yn ymyl ei gwniadur,
Fel gadawsai hi y rhain;
Ni fynnai cariad mam
Adael dim i fynd ar goll,
Cariad tad a fynnai'n gystal
Ar glawr eu cadw oll.

Pan ddychweli adre, 'mrawd,
Ar derfyn gwaith y dydd,
Ar y trothwy'n siriol
I'th roesaw hi ni fydd ;
Ond O! i'w mam sy gartref
O hyd caletach yw,—
Trigo'n y distawrwydd,
Lle bu gynt lawenydd byw.

Pan aethom tua'r fynwent,
Eich dau a minnau 'nghyd,
Ac y safem uwch ei bedd
Oedd yn flodau drosti i gyd,
Gwelais nad allasai neb ddirnad
Maint eich trallod trwm,
Ond y sawl trwy brofiad wyddant
Mor agos yw y clwm.

Ac eto pan y craffwn
Ar eich gwasgedig wedd,
Mi welwn yno ddelw
O ryw dawel hyfryd hedd;
Gobaith, angyles dirion,
A wnaethai yno'i nyth,
A theimlech fod eich plentyn
Yn fyw, i farw byth.


Y da, y pur, y prydferth,
Hwy barant byth mewn bri:
Yr anwyl un o'ch mynwes aeth,
Anfarwol yw i chwi;
Ac O, mae byd tu hwnt,
Lle'r sawl fuont ar y llawr,
Ddisgwyliant am ddyfodiad
Y rhai sydd yma'n awr.


Nodiadau[golygu]