Gwaith Gwilym Marles/Bugeiliaid Sir Aberteifi

Oddi ar Wicidestun
Mynwent Cwmwr Du Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I Frawd mewn Galar


BUGEILIAID SIR ABERTEIFI.

GWLAD y cloddiau moelion a'r cloddiau cerrig yw rhan fawr o Geredigion. Nid am ei bod na rhy uchel na rhy ddiffrwyth i goed dyfu, ond yn debyg am na chawsant erioed gynnyg. Yr arferiad sydd wedi ffynnu yn gyffredin yw gadael i goed gymeryd eu siawns am dyfu lle y tyfent o honynt eu hunain; neu, a defnyddio geiriau hen Ysgotwr, y rhai a grybwyllir gan Dr. Livingstone, "lle y gosododd y Creawdwr ei hun hwynt ar y cyntaf." Pan oedd y Dr. yn llanc ieuanc yn dechreu astudio daeareg, synnid a blinid ef yn fawr gan y fossils y deuai o hyd iddynt mewn cerrig a chreigiau, a gofynnodd i hen wr o gymydog pa fodd y daethant yno. "Machgen anwyl i," atebai'r hen wr yn dra difrifol, "paid a ffwdanu dy ben ynghylch y fath gwestiynau; Duw ei hun a'u gosododd yna ar y dechreu." Felly, hyd yn ddiweddar, y rhannau o'r sir hon lle y tyfai coed oeddynt y mannau lle y gosodasai'r Creadwr hwynt ar y cyntaf. Mae diwygiad yn hyn, a diwygiad mawr; a gobeithio, ar ragor nag un cyfrif, mai rhagddo yr a.

Mae y diffyg hwn wedi bod yn achlysur i ddosbarth o wasanaeth-ddynion, nas gŵyr llawer rhan o'n gwlad am danynt ond drwy hanes.[1] Tebyg fod cyffelyb ddosbarth i'w gael mewn rhai rhannau o'n siroedd eraill, a dichon fod yr arferion perthynol i'r dosparth yno yn amrywio rhyw gymaint; ond bydd a fynno'r sylwadau hyn â bugeiliaid Sir Aberteifi. Nid y bugeiliaid cyflawn faint ar y mynyddoedd, y rhai a ddilynant eu swydd trwy y flwyddyn, cofier, ond y bugeiliaid bychain ar y ffermydd, neu fel eu gelwir yn fynych, "y bugelydd."

Yn y parth hwnnw o'r sir a ymestyna ar ei hyd o'r ochr isaf i Gapel Cynon i gryn bellder y tu hwnt i Dregaron, mae prinder cloddiau a pherthi, yn enwedig ar y rhannau hynny o'r ffermydd na chawsant hyd yn ddiweddar eu tynnu i mewn, neu ydynt eto yn aros heb eu cauad, yn gorfodi y ffermwyr i gadw bugeiliaid. Dechreuant ar eu gwaith tua mis Ebrill pan y bydd y defaid yn llydnu, a dilynant ef hyd ddiwedd y cynhaeaf neu ganol yr Hydref. Plant crynion fel eu gelwir, ydynt; bechgyn fynychaf, ond weithiau merched. Amrywia eu hoedran o ddeg i dair ar ddeg; ond flynyddau yn ol ceid rhai o bymtheg i ugain wrth y gwaith, ac ym mhellach yn ol na hynny, yr oedd personau na wnaethent nemawr i ddim erioed ond bugeilio. O'r ardal y bydd y plant yn gyffredin, a pherthynant yn fynych i rai o'r tai bach ar y tir. Ond os bydd plant yn y fferm, yn enwedig meibion, caiff pob un o'r rhai hyn yn ei dro, pan yn yr oedran priodol, ymaflyd yn y gorchwyl. Fel hyn y mae y bywyd bugeiliol yn derfyn ar fywyd y bara segur, ac yn ddechreuad y cyfnod pan y gorfydd i bob un gyfansoddi esponiad o'i eiddo ei hun ar yr hen air, "Trwy chwys dy wyneb y bwyttai fara." Mewn amser dyfodol cawn nifer luosog o'n bugeiliaid, cyn priodi, yn wasanaeth-ddynion parchus, ac wedi priodi, yn weithwyr fferm diwyd, yn dwyn i fyny ar eu hennill caled deuluoedd mawrion. Bydd eraill yn dyddynwyr mwy neu lai llwyddianus a chyfrifol, a chanddynt ddeadelloedd lluosog o'r eiddynt eu hunain, pyrsau a choffrau llawnion, a chryn ddylanwad yn yr ardal. Nid bychan ychwaith yw nifer y rhai a fuont unwaith yn bugeilio praidd eu rhieni neu braidd dyeithriaid, ar hyd fryniau Ceredigion, ond a dderchafwyd ar ol hynny, wedi llafur ac ymroad mawr mewn ysgolion a cholegau, a phrif-ysgolion, i fugeiliaeth uwch i borthi praidd Duw, gan fwrw golwg arnynt." Mae llawer o'r cyfryw y dydd hwn yn weinidogion parchus, a rhai o honynt yn enwog am eu dysg, eu doethineb, neu eu hyawdledd, gyda phob enwad o grefyddwyr yn Nghymru.

Mae yr allwedd i ddysg, i barch, a phob rhin,
Yn crogi wrth wregys diwydrwydd di-flin.

Gwaith y bugail yw edrych ar ol y gwartheg, y da hespon— da duon" yr hen fardd o Gastell Hywel—a'r defaid. Bydd weithiau felly dri bugail, ond fynychaf gwneir y tro ar ddau, yn enwedig os bydd godre'r fferm yn gauedig a pherthog: un ar ol y defaid, y llall ar ol y gwartheg neu y da hespon, neu ynte ar ol yr olaf a'r defaid ynghyd. Maent i gadw eu praidd o fewn y terfynau gosodedig, ac i'w gwylied yn neillduol rhag torri i'r caeau ŷd cyfagos. Mae arnynt i ofalu dyfrhau y gwartheg a'r da duon ryw dair neu bedair gwaith y dydd, os na fydd cyfleusderau dwfr ar y tir lle y byddont yn pori. Mae yn debyg nad yw y defaid yn yfwyr mor drwm ag eraill o'r praidd, am eu bod yn llai o faint, ac am y disycheda y gwlith hwynt i raddau mawr; eto, ar dywydd poeth iawn, ceir eu gweled yn rhedeg yn yrroedd mawrion at ryw nant neu ffrwd fechan, ac yno y byddant, druain gwirion, tra yn lluddedu ac yn dyheu gan syched, yn llepian y dwfr yn rhestri hirion gyferbyn â'u gilydd ar bob ochr i'r nant.

Cwyd y bugeiliaid yn awr ychydig cyn pump, ond gynt codent gyda'r haul. Yn union cymerant foreubryd hwylus o sopen caws, wyneb maidd neu laeth glas, gyda bara; gofalant weled eu cwn yn cael eu diwallu; tarewir toc doniol o fara a chaws yn y llogell, a darperir tafell dda i wasanaethu fel anogaeth a gwobrwy i'r cwn hyd hanner dydd; canys ar ol cwrs da, ceir gweled Moss yn dychwelyd at y bugail, ac yn ei iaith yn ceisio tamaid. Y gwaith cyntaf fydd troi'r defaid allan o'r buarth, gynt wedi eu godro, ond yn awr, gan amlaf, heb eu godro, a'u hebrwng i'r banc. Aiff y bugail arall â'r gwartheg i'w porfeldir priodol, neu i hol y da hespon o'r cae nos. Yna erys pob un gyda'i braidd ei hun. Erbyn y bydd yr haul wedi dirwyn ym mhell tua chymydogaeth y de, a phan y mae'r toc eisoes wedi hir ddiflannu o'r golwg, bydd llygad hiraethlawn yn cael ei daflu yn fynych i wylio'r mwg sydd yn awr yn prysur esgyn o simne'r tŷ. Nid oes fymryn o eisiau cloc ar y gwr bach. Nid cloc drwg yw y bola, ac y mae gan Moss gryn amcan am yr amser, a gŵyr y praidd yn lled agos pa bryd y mae adeg canolddydd yn agoshau. Yn awr troir y defaid i'r buarth a'r da i'r cae nos, o leiaf gwneir y blaenaf. Arferid gynt i odro'r defaid a'r gwartheg hanner dydd, ond lled anaml y gwneir hyn yn awr. Wedi ciniaw dechreuir gyda blas ac egni newydd ar ddyledswyddau y prydnawn, a darperir yr un ffunud ag yn y bore ar gyfer angenrheidiau y bugail a'i was ffyddlawn—y ci. Nid yw y defaid yn y prydnawn i gael eu gadael i dramwy a phori yr un ffordd a'r bore. Aiff oriau y prydnawn heibio o un i un, a phan wel y bugail ei gysgod yn hwyhau, a'r haul yn gostwng i fachlud, ymbarotoa i droi ei ddefaid unwaith eto i'r buarth. Hebrynga y llall y gwartheg a'r da hespon i'w gorffwysfa dros y nos.

Un o anhebgorion bugail yw ei gi. Cystal y gallai gof wneyd heb ei forthwyl ai eingion—y teiliwr heb ei nodwydd—yr ysgolhaig heb ei lyfr —yr hwsmon heb ei aradr—a'r bugail heb ei gi. Cwn braf synwyrol yw y rhan fwyaf o honynt; eto, y mae rhai wedi eu bendithio a gwell talentau, a rhagorach manteision dysgu, ac o ganlyniad wedi graddio yn uwch nag eraill. Ond yn y cyffredin, cwn craffus, diniwed, ac yn gofalu am eu gwaith eu hunain ydynt. Maent o bob lliwiau, er y dichon mai y lliwiau amlaf ydynt y coch-ddu, neu lwyd, gydag ysmotiau duon afreolaidd. Rhyw lwyd-oleu yw llygad llawer o honynt. Weithiau bydd gwahaniaeth lliw rhwng y ddau lygad, yr hyn a ddigwydd i ddynion ar brydiau. Un o'r pethau cyntaf a wna bugail yw ceisio dyfod i delerau o ddealltwriaeth a chyfeillgarwch â'i gi. Seremoni lled bwysig yw dwyn ambell i gi a bugail i adnabyddiaeth â'u gilydd, yn enwedig pan fo'r naill neu'r llall, neu bob un o'r ddau, yn yswil, a phwdlyd efallai yn y fargen. Y mae i bob ci bugail ei enw, ys dywedodd yr hen bregethwr am dano ei hun. Yr oedd hen bregethwr unwaith yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr oedfa, eithr nid wrth ei enw priodol fel y dylesid, ond trwy ddweyd, "Fe fydd y gwr dyeithr o'r gogledd yn llefaru ym Mwlch Cae Draw am chwech heno;" gyda hyn tynnodd y gwr dyeithr" ryw fwrlwm o cchenaid, a rhwchialodd dipyn yn fygythiol, a chan edrych i lawr yn gilwgus ar y cyhoeddwr, dywedodd, "Y mae i minnau fy enw!" Felly y dywedwn ninnau, "y mae i bob ci bugail ei enw." Megys y mae y Jonesiaid yn y wlad hon, felly y mae y Mossiaid ym mhlith cŵn defaid yr enw mwyaf cyffredin o ddigon. Enwau ereill ydynt Keeper, Cupid, Pincher, Tiger, Quito, Dido, Juno, Flora, Pertus, Fury, Markwell, Cwta, Bolwen, Troedwen, Driver, Thames, Fancy, Tango, Captain, Fan, Parrott; neu fel y galwai llanc ychydig yn dafodtew ef unwaith, o dan dipyn o gynhyrfiad nwydau, ac heb allu seinio y llythyren r, Pechod! Pechod!—enwau yn gofyn mwy o philosophi nag a feddwn ni, er egluro yn foddhaol y rheswm o honynt oll.

Mae i'r bugail ei arfau a'i wisg neillduol. Anaml yr anturia i'w swydd heb gyllell dda, a honno fynychaf wedi ei chlymu â chorden gref wrth un o rwylli neu un o fotymau ei wasgawd. Offeryn defnyddiol yw y gyllell iddo, os digwydd ddyfod o hyd i ryw damaid o bren, pe na fyddai ond bonyn eithinen, i arfer ei scil arno ar funudau segur. Bydd ganddo hefyd bastwn golygus, wedi tyfu dichon gryn filldiroedd o'r man lle y bydd yn bugeilio. Hon yw ei fagl esgob neu ffon gnwpa,—

"Gwae ni cheidw ei gail, ac ef yn fugail,
A'i ffon gnwpa.

Mae iddo hefyd ei wisg offeiriadol—côt y bugail. Côt lwyd drwchus, wedi ei gwneyd o wlan y ddafad yn ei gyflwr naturiol yw, llaes heb fotyman, oddigerth botwm i'w sicrhau o amgylch y gwddf ar dywydd garw, yn cyrraedd i lawr rhwng y groth a'r figwrn. Y meistr yn gyffredin sy'n darparu hon, a disgwylia iddi bara o leiaf dair blynedd. Mae fynychaf heb logell. Ar dywydd gwlawog a thymhestlog, hon yw cyfeilles oreu'r bugail. "Umbrella?" medd rhywun. Umbrella yn wir! Pwy welodd fugail yn ceisio dal y fath beth yn ei law ar fanciau Sir Aberteifi? Gellid yr un mor rhesymol ddisgwyl cwrdd âg arch Noah yno a disgwyl cwrdd â bugail yn cario umbrella. Byddis hefyd weithiau yn codi tŷ bugail—rhyw adeilad drosgl o dyweirch a cherrig yng nghongl cae, yn erbyn dau glawdd, os ceir o hyd i'r fath beth, a thwll yn yr ochr, iddo wthio ei ben a'r rhan uchaf o'i gorff i mewn, gan dybied wedi hyn, fel yr estrys, ei fod yn ddiogel. Gwasanaetha hen gasgen fawr weithiau yn well na'r caban, am ei bod yn symudol. Torrir drws mawr i fyned i mewn iddi, a gyferbyn âg ef yn yr ochr arall torrir drws bychan, yn lle ffenestr, i edrych allan drwyddo. Ond oddieithr mewn amgylchiadau enbyd iawn, ychydig ddefnydd a wneir o un o'r dyfeisiau hyn—eto gwneir weithiau ar dywydd eithaf drwg. A bydd y bugail bach yn ei gaban o dyweirch, pan.

"Mae'r awel yn chwythu uwchben a chwibanu,
Ac acw'r hwrdd torddu yn llechu'n y llwyn" (eithin),

yn llawn mor ddedwydd a didaro, os nad mwy felly, a'r pendefig yn ei balas. Bydd Moss yno yn ysgwyd ei gynffon wleb wrth ei draed, a'i lygad llon gystal a dweyd—tamaid yn awr. Y gwaethaf am dani yw, nad yw y bugeiliaid yn ddigon gofalus am newid, os yn wir y bydd ganddynt ddillad i'w newid, pan elont adref; ac oblegid esgeulusdod o'r fath hyn, dystrywia rhai o honynt eu hiechyd am eu hoes. Ond hwy a fwynhânt eu hunain ar dywydd teg. Ceir hwy yn gorweddach ar bennau y cloddiau moelion, weithiau ar eu cefnau, ac weithiau ar yr ochr arall; a digwydd i'r ddau lygad gau yr un pryd weithiau, a thros yr amser hwnnw Moss fydd yn y gader fugeiliol. Nid yw yn ddiogel er hynny i hepian, gan na ŵyr y bugail "pa bryd y daw ei arglwydd." Peth arferol yw gweled bechgyn wrth fugeilio yn gwau hosanau. Gweuant ryw ddeubar iddynt eu hunain, o leiaf, bob haf, o edafedd a roddir iddynt gan eu meistres. Yr oedd mwy o wau amser yn ol nag sydd yn awr. Y tâl arferol am wau pâr oedd chwecheiniog.

Trinir bugeiliaid yn y cyffredin gyda charedigrwydd mawr, a derbyniant, os yn ofalus, yn ystod, ac ar ddiwedd y tymor, lawer o wobrau mewn ffordd o ddillad neu ddefnyddiau dillad. Amrywia y gyflog am y tymor o chweugain i bunt neu bymtheg ar hugain.


Yn yr hen amser, ac yn nghof rhai eto yn fyw, yr oedd rhialtwch digyffelyb yn cael ei gynnal gyda ffest Awst. Gwledd oedd hon ar ben y banc ar y 12fed o Awst, yn ol y cyfrif newydd; ymgynullai iddi holl fugeiliaid y ffermydd nesaf i'w gilydd, a dygai pob un ei gyfran—picnic bugeiliol oedd. Edrychid ymlaen at hon trwy fisoedd o godi yn fore, a gwres a gwlawogydd, ac ystyrrid hi yn ddigon o dâl am bob trafferth.

O ddamwain, ond yn dra anfynych, gwelir bugeiliaid yn darllen pan fo hamdden ganddynt. Adwaenom hen wr a ddysgodd ddarllen wrth. ymladd â Llyfr Ficer, ac a'i darllenodd drwyddo wrth fugeilio pan tua deuddeg oed. Eto eithriad yn hytrach yw yr arferiad o ddarllen, er fod y nifer luoso.af efallai o'r rhai ydynt dros ddeuddeg oed yn medru, gan y cant fyned i'r ysgol yn y gaeaf. Colled fawr y bugeiliaid yw na chaniateir iddynt, o Ebrill i Fedi neu Hydref o bob blwyddyn, i fyned i na chwrdd nac ysgol. Mae Sul a gwyl yr un peth iddynt hwy. Gormod o gaethiwed yw hyn—camwedd â'r oes sydd yn codi. Yr unig gyfle a gant i dreulio Sabbath gartref yw, pan ddelo tad neu frawd i fugeilio yn eu lle. Rhont dro gartref ar y cyfan unwaith bob wythnos i newid eu dillad, ond yn fynych hwy a orfodir i newid eu crysau bychain ar ben y banciau, yn yr awyr agored.

Bydd rhai o'r bugeiliaid, fel y gellid disgwyl, yn llawer cyflymach nag eraill i adnabod y defaid. Dysg ambell un i adnabod pob llwdn allan o ryw gant neu ddau o ddefaid mewn diwrnod neu ddau. Mae adnabod "nodau " ei ddefaid ei hun, a "nodau" defaid ei gymydogion, yn hanfodol i fugail—pen-lleswch, bwlch temig, cwart, peint, bwlch trithoriad, gyda'r holl amrywiaethau di-ddiwedd o honynt. Un o'r profion goreu o fugail da yw y gŵyr os bydd ond un ddafad ar ddisperod heb rifo, ond gorfydd ar yr hwyrdrwm i rifo. "Parry," ebe meistr unwaith wrth fugail, hytrach pen-feddal, "a rifaist ti y defaid heddyw?" "Pa'm, do meistr, mi rhifes i nhw bob un," atebai Parry, "ond yr hespin gyrnig gnaciog gynllwyn yna, yr hen sprotiast fwya eger yn y pac; 'r o'dd hi yn neid'o yn ol ac yn mla'n, fel 'tasa gyndron ynddi, a 'dalls'wn i yn 'y myw a'i rhifo hi." Ond yr oedd bugail arall, mwy gwirion-ffol fyth, er hynny a thalent odiaeth —er nas gallai rifo rhagor na phump, eto allan o gant neu fwy o ddefaid, adnabyddai yn union os byddai un ar goll. Yr oedd ganddo farc o'i eiddo ei hun ar bob llwdn yn y ddeadell.

Swydd anrhydeddus a hen yw swydd bugail. Mae gan fugeiliaid enwogion lawer i ymffrostio ynddynt. Mae mwynderau luaws hefyd yn perthyn i'r gwaith. Bywyd llawen, iachus, ar y cyfan, yw bywyd y bugeiliaid bychain hyn. Melus yw eu chwibaniad ben bore wrth ymlwybro trwy'r gwlith—iach eu hysbryd wrth yfed yr awelon pêr a dramwyant dros erddi a pherllanau, gwinllanoedd a maesydd ŷd, a thros y moroedd llydain a amgylchant ein daear—ysgafn eu calon wrth ddychwelyd yn yr hwyr gyda machludiad haul i gysgu'n ddifraw a difreuddwyd nes i wawr newydd dorri ar y bryniau. Er hyn oll ni a gredwn, ac o obeithiwn, fod oes y bugeiliaid yn ein gwlad ni yn nesu at ei therfyn. Megis ag y mae peiriannau yn awr yn gwneyd gwaith llifwyr a dyrnwyr, ac aradwyr a medelwyr hefyd mewn llawer man; felly gan bwyll, caiff cloddiau wedi eu coroni â drain yspyddaid, cyll a meillion Yspaen, ynghyd â chŵn da, wneyd gwaith ein bugeiliaid presenol. Tuedd yspryd yr oes, yr hwn nis gellir yn hir ei wrthsefyll, yw cael dyn i dir uwch, rhoddi iddo faes rhagorach i lafurio, gwneyd mwy tuag at ddiwyllio ei feddwl, gwneyd llai o beiriant, a mwy o ddyn o hono. Mae rhy fach o wahaniaeth yn awr rhwng y bugail a'i gi. Trueni mawr nad yw y blaenaf gyda ni yn yr Ysgol Sabbothol, ac na chai yn yr oedran tyner hyn dreulio mwy o'i amser yn yr ysgol ddyddiol. Gwyddom am feistri ein bugeiliaid eu bod, fel rheol gyffredin, yn ddynion synwyrol, a llawn o ddymuniadau caredig i'r rhai sydd o dan eu gofal. Ond gwaith anhawdd yw iddynt ymryddhau oddiwrth hen arferion a welsant erioed. Y cwestiwn pwysig yw, Pa fodd i barotoi y ffordd i gyfnod gwell? Pa fodd i roddi cyfle i'n plant hyn i ymgymysgu gyda ni, haf a gaeaf, yn ein haddoliadau cyhoeddus, a'n hysgolion Sabbothol?

Gan fod ein lle yn brin ni chawn wneyd rhagor yn awr na diweddu gydag ychydig linellau o brofiad bugeilaidd un o oreuon bugeilaidd Sir Aberteifi:—

"Ar y banc mewn rhedyn tewon,
Rhwng y defaid a'r da duon,
Syrthiais gyntaf ar fy neulin;
Wedi syrthio, ffaelu erfyn;
Edrych fyny, edrych waered
Am wel'd Duw, a ffaelu'i weled;


Codi fyny mewn cyfyngder
Heb ddilwytho gair o'm blinder:
Drymach, drymach 'r a'i 'nghaledi;
Mynych ostwng, mynych godi,
Hyd nes mentrais lefain allan,
A gweddio mewn modd egwan.
Ar ol 'chydig bach o droion
Agorodd Duw fy ngenau a 'nghalon;
Rhoes hyfrydwch imi alw
'N fynych beunydd ar ei enw."



Nodiadau[golygu]

  1. Erbyn hyn y mae bugeiliaid sir Aberteifi yn adnabyddus trwy'r gwledydd y darllennir Saesneg ynddynt. Trwy ei Welsh Witch a'i nofelau ereill, y mae Allen Raine, un o deulu Dafis o Gastell Hywel, wedi swyno cyhoedd Lloegr â'i darluniadau o fywyd ar fryn ac ar lan môr yn sir Aberteifi.— GOL.