Gwaith Gwilym Marles/Mynwent Cwmwr Du

Oddi ar Wicidestun
Y Fedwen Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bugeiliaid Sir Aberteifi


MYNWENT CWMWR DU.

OS caret gael gorweddfa glyd
Ymhell o ddwndwr byd a'i drin,
Ar lan murmurog afon ferth
A choed yn berth ar ei dwy fin;
Pa le caet lannerch fa'i mor gu
A mynwent fechan Cwmwr Du?

Hwy wedant cwsg y byw yn well
Heb fod ymhell o si rhyw don,
Pan ddeffry miwsig per y llif
Ddi-rif freuddwydion tan y fron;
Nis gwn; ond pwy na charai fedd
Lle chwery'r ffrwd ei salm o hedd?

Fe grwydra haf awelon per
Trwy lathraidd dderw'r allt sy draw,
Pob dalen yn cyd-odli'n fwyn
Ar gainc pob llwyn â'r ffrwd islaw;
Ac weithiau yn y gaeaf trwm
Ysguba'r corwynt trwy y cwm.

Mae masnach ar ei diwyd daith,
A dyfais dyn ar waith o hyd,
Newidia llawer man ei wedd,
Anurddir heddwch bore byd;
Ond yma, pe doi'r hen ar hynt,
Caent bob peth agos megis cynt.

Oedd yma fwci 'stalwm byd,
Pan oedd y rhyd heb bont yn groes,
Dyn yn grogedig wrth ei draed,—
Fe rewai'r gwaed weld y ddwy goes;
Pan godwyd pont ar Gloidach ddu,
Fe aeth y bwci gyda'r lli!

Yn iach fwciod! Dilys yw
Na flinwch chwi mor byw yn hwy;
Dydd eich gwasanaeth ddaeth i ben,
O dan y llen gorffwyswch mwy;
Dyn ni chaiff aros yn ei nyth,—
A roir i chwi deyrnasu byth?

O fewn i'r unig wyrddlas bau,
Yn per fwynhau eu holaf hun,
Mae 'chydig o gyfeillion hoff,
Heb faen i goffa am yr un;
Ond am eu gwâr rinweddol foes
Fe bery'r cof o oes i oes.

Fe orffwys yna'r athraw mad,
Na lechai brad o dan ei fron;
A lle y gweli newydd fedd,
Mewn tawel hedd, yn awr mae'r hon
A fu gydmares yn ei gôl,
A'i henw yn hyfryd ar ei hol.

Heddwch i'w llwch! a doed y pryd
Pan gaffwyf gyda mynwes iach
Ymweled weithiau â'r hen fro.
A rhoddi tro trwy'r fynwent fach,
A chyd-addoli gyda'r llu
Yng nghapel bychan Cwmwr Du.