Neidio i'r cynnwys

Gwaith Huw Morus/Ar Fedd

Oddi ar Wicidestun
Y weddus winwydden Gwaith Huw Morus

gan Huw Morus (Eos Ceiriog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y pendefig penna d'afieth

AR FEDD.

A fydd falch, eurwalch, o arian—nag aur;
Er gorwedd mewn sidan,
Y dyn reiol, dan raian,
Doi fel fi, i'r di-ofal fan.

Er cariad, rhediad mawrhydi—dawnus,
A dynion i'm perchi,
I'r ddaear i ddu oeri,
Yr hen fam, yma rhoen fi.

Na chwerddwch, gwelwch mai gwaeledd—fy lle,
Ar ol llawn anrhydedd;
Chwithau i ogof, chwith agwedd,
Dychryn wae, dewch yr un wedd.


Nodiadau

[golygu]