Gwaith Huw Morus/Cerdd i ofyn caseg
← Delwedd:Anwylyd y Bardd | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwahoddiad i'r eglwys → |
CERDD I OFYN CASEG.
Tôn,−"GADEL TIR."
CARW o Lyn Ceiriog, gu lan-wych calonnog,
Grudd wridog, odidog, a brigog mewn braint,
Y weles i'n ole, da i ddysg a da i ddonie,
Yn flode braf, gore brif geraint.
Blode'r ifienctid, oblegid dy lendid,
A'th lon dda galondid, da oeddid bob dydd;
Cydymeth mawledig, cariadus, caredig,
Mwyn diddig mewn di-ddig lawenydd.
Glan ymhob moddion y golwg a'r galon,
Cwmpeini bonddigion, wyr gwychion, y gech,
Y llancie 'n ych moli, a'r merched i'ch hoffi,
Hardd bwysi, fy ngweddi deg oeddech.
Morus Huw dirion, der gariad i'r gwirion,
A doeth ymhlith doethion fel Sol'mon fawl serch,
Mae cariad naturiol yn gweithio'n gynhyddol,
Drwy awen berthynol i'th annerch.
Y'ch twyso wnaeth ffortuni dario i lawr dyffryn
Yng ngwlad sir Dyrfaldwyn mewn tyddyn man teg,
Mi glowa ganmolieth a chlod i'ch llyfodreth,
Bywolieth lew odieth oleudeg.
Marchnatwr ufuddol yn prynnu'n rhinweddol,
A gwerthu'n synhwyrol, wr deddfol air da;
A fedro bothmoneth yr ha mewn rheoleth,
Geil fyw wrth i goweth y gaua.
Chwi gowsoch gywely o'r gwaed gore 'Nghymru,
Oedd lân i'w moliannu a'i chrefu 'n i chrys,
Oherwydd lloer degwch cewch fwynder a heddwch,
A pharch o chymerwch chwi, Morus.
Am wneuthur yn llawen luosog elusen,
Ni thyfodd is wybren winwydden wen well;
I fod yn wybodol drwy haelder rhinweddol,
Ni orfydd mo'i chamol na'i chymell.
Mae'n rhyw i'ch ymgeledd, wiwddoeth fwyn weddedd,
A chadw tangnefedd yn beredd i barn,
Hi heudde i moliannu a'i gwir anrhydeddu,
Oherwydd i thyfu ym Mathafarn.
Mae imi gymydog yn canu fel celiog,
Ych mawl yn rhedegog; ond enfog i don?
Ffasiar Huws henw yr hynod wr hwnnw
Fel carw o bren derw a bron dirion.
Mae fo gin gryfed a march, medd y merched,
A'i dynged yn cerdded i fyned ar feth,
Fo feder beth gweithio, ceibio a bytingo,
Dadwreiddio, siwrneio, a syrnieth.
Fo feder wau sane, gwneuthur tegane,
Porthmoneth ieir weithie, mae i gampie fo'n frys,
Prynnu cywenod, a rhain fel piogod,
Yn prifio 'n geliogod gylfygus.
Ni chadd o erioed ogan o feddwi 'n ufudd-wan
O eisio bod arian, ond trwstan yw'r tro?
Ni feder o ronyn o waith yr oferddyn,
Ond ymlŷn â chetyn, a choetio.
Medelwr o'r gwycha, yn chwysu'r cynhaua,
A mawnwr o'r mwyna i'r mynydd y ddel,
Er cael i gyflogi i ymladd à diogi,
Mewn tylodi mae'n oesi yma'n isel.
Lle byddo trueni, bydd weithie fusgrellni,
Er cimin i egni yleni'n y wlad,
Mae i fawn o 'n y fawnog a'i blant yn anwydog,
A'i briod yn dyllog i dillad.
Mae Ffasiar anghenus yn disgwyl, da i esgus,
O'ch haelder chwi, Morus, air cofus, wr cu,
Gael gynnoch chwi 'n anrheg ryw geffyl ne gaseg,
Y ddeil fel y garreg i gyrru.
Cael caseg oedd ore, yn chwyrn ar i charne,
I gludo'r mawn adre yn dyrre at i dy,
Er bod yn o lybion, gwnan fwg a gwres ddigon,
Ymysg y coed crinion, rhag rhynnu.
A'i chael yn ddi-gloffni, a danredd da i bori,
A chwithe'n bodloni i'w rhoddi hi 'n rhwydd,
Ceiff lond i bol weithie os dringiff hi gaue,
A neidio gwiw furie'n gyfarwydd.
Rheidiol y fydde i chael hi 'n un gefngre,
A ffurfion aelode; di-foethe ydi fo,
A Mari i gymhares mor drymed a chowntes,
A chimint a chowres i'w chario.
A'i chael hi'n dda i chalon, heb arswyd ysbrydion,
A'i llyged didrawsin yn llyfnion i'w lle,
Yn chwimwth heb wingo, yn ystwyth heb dripio,
Pan el yn nos arno 'n i siwrne.
Nid hwyrach i'r gaseg, ond gostwng i bloneg,
Fagu meirch glandeg i redeg yr allt,
A gore cynghorion, pen fo'n yn ebolion,
I gwerthu nhw i Saeson Croesoswallt.
Pawb o'r un geirie a ddywed yn ddie,
Pan ddelo hi adre i chware'n ddi-chwys,
Nid oes, er i glaned, yr un o'r Brytanied
Gin laned i ymwared a Morus.