Gwaith Huw Morus/Gwahoddiad i'r eglwys
← Cerdd i ofyn caseg | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Mawl Merch → |
GWAHODDIAD I'R EGLWYS
TYRED, mae trwydded at ras—ein un Duw,
Yn dy wisg briodas';
Odieth gamp, na'd o'th gwmpas,
Draws gamwedd, chwerwedd, a chas.
Ddyn diffaith, unwaith yth anwyd—o wraig
Drwy wegi'th anrheithiwyd;
Dewr a gwaedwyllt, drwg ydwyd,
Drain oll o drueni wyd.
Ti ferni, gweli fai gwan—dyn arall,
Dan yrru gair gogan;
Er nad oes iawn foes un fan
Da ohonot dy hunan.
Na ddisgwyl ddydd rhydd i ddwyn rhad—'fory
I edifeiriol droiad;
Heddyw yw dydd hoew-Dduw Dad,
Diwedd mawl dydd ymweliad.
Cyn loesion dwysion, cyn di-oesi—pwyll,
Cyn pallu dy egni,
Cyn darfod cau d'enau di,
Cysgu mud, cais gymodi.
A fynnych i fyw ennyd—gan undyn
Ag uniondeb glanfryd
Dyro i bawb ar dir y byd,
Dawn hoff onest, un ffunud.
Gwrando di'n ddifri ddi-afrol—growndia
Ar gowreindeb nefol;
Gwir Duw yw'r geiriau duwiol,
Gwin yw'r rhain, gwna ar eu hol.