Gwaith Huw Morus/Cerddi Tir y Taerion I
← Delwedd: Llaw y Marw | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cerddi Tir y Taerion II → |
CERDDI TIR Y TAERION.
Tôn,—"IANTO O'R COED."
I.
MAE Duw yn danfon rhoddion rhwydd,
Nyni a'u gwelwn yn yn gwydd,
Pob peth sydd iawn, ar lawn wir lwydd,
Ond anial awydd dynion;
Er da, a dŵr, a daear deg,
O flaen trachwant rhwth i geg,
Nid yw i ddyn yr un o ddeg yn ddigon.
Y rhai llwyddiannus yn y byd,
Sy aniwiola, gwaetha i gyd,
Medd geirie Dafydd ddiwiol fryd,
A rhodio ar hyd anrhydedd;
I finder fo oedd i llwyddiant llawn,
Nes mynd i dŷ Dduw da i ddawn,
Ac yno dalltodd ef nad iawn i diwedd.
Cynnydd hylwydd gen Dduw hael,
A gadd Usia, mawrdda a mael,
Ac o fawrhydi gwedi i gael,
I ddiwedd wael a welir;
Derchafu a wnaeth pan aeth yn gry,
A chodi i galon yn anhy,
I'w ddistriwio i hun fel pry fe'i profir.
Y rhain ymddengys fel yr wyn,
Yn araul deg, yn ole ar dwyn,
Ac fel llwynogod yn y llwyn,
Cyd-ddwyn yn fwyn a fynnan;
Taflu a wnan drwy Satan swydd,
I ffwrdd yr union o'u ffordd rwydd,
A'r gwydyn gam ag aden gŵydd a godan.
Er dichell dyn, pob gweithred fraith,
A'i sail ar gamwedd fuchedd faith,
Honno a dyrr. drwy hynod iaith,
I gwddw o'i gwaith i hunan;
A'r sawl a'i gwnel sy'n gwrthed gras,
Drwg y ceidw y diawl i was
Yn yr un modd a Suddas gas i gusan.
Yn nghantref Maelor, cyngor caeth,
Y gwnaed y pechod, syndod saeth
Trwy wenieithus dafod ffraeth,
Ac ysbryd gwaeth yn gweithio;
Nid mawr y synwyr oedd i'w gap,
Er bod mor hwylus ar i hap,
Ar sylwedd drwg y seiliodd drap i'w dripio.
Swydd y Waen, hen orsedd wych,
Sylfaenwch, sefwch ar dir sych,
A chymrwch Faelor i chwi'n ddrych,
A rhybudd clych Rhiabon;[1]
Chwi gewch weled cyn y bo hir,
Os ydi 'r Sgrythyr lân yn wir,
Ryw arwydd tost oherwydd tir y taerion.
Rhai sy'n ceisio ymgadw'n gall,
Gan daflu'r drwg o'r naill i'r llall
Fe pe bydde Dduw yn ddall,
Ne'n ddwl heb ddeall ynddo;
Fo ddaw y rhain gerbron ryw bryd,
Am wneuthur beie i anrheithio'r byd,
Fel Adda ac Efa a'r sarff i ym-gyd-gyhuddo.
Mae rhain yn ail i rheini a wnaeth
Ag uffern geuffos gynghrair ffraeth,
Gan rwymo Ange ag amod caeth
I ddal i saeth a'i ddwylo;
Gan dybio, a'u meddwl mall mewn mwg,
Na wna Duw na da na drwg,
I'r sawl a garo gario gwg i gogio.
Os daw gofidie yn d'rane drwy
Y perthynase a'r plase a'r plwy,
Gwych y gosodasant hwy,
I gadw'n fwy a ymgodant,
Gobeth ar anwiredd trwch,
A than aden ffalsder fllwch,
Lle wrth i llaw, rhag llithro ir llwch, y llechant.
Pan ddel Mab Mair a'r mawrair mwys,
I roi cyfiawnder wrth iawn bwys,
A barn wrth linyn dichlyn dwys,
Bydd anodd gorffwys yno;
Cenllysg digter Duw a'i nerth
A 'sguba noddfa'r celwydd certh
A siwr fydd lloches ffalsder serth o syrthio.
Fo dyrr yr amod cymod caeth
Ceiff Ange 'n rhydd i law a'i saeth,
Ni sai'r cynghrair, hyn sy waeth,
Eiff hoew obeth heibio;
Mae'r fwyall fawr ar fon y pren,
Nhw a ddylen ddiolch yn lle sen,
Am gofio i'r gwŷr eu bod ar ben cribinio.
Chychwi benaethied ddewrblaid ddysg,
Chwynnwch y drwg i ffwrdd o'ch mysg,
Sy'n tyfu megis gwylltion wrysg,
Ni thycia addysg iddynt;
Lle mae taerni, a gwyrni, a gwŷn,
Heb ofni Duw na pherchi dyn
Ni waeth na bydde un henw ar un ohonynt.
Mae Duw yn danfon dial dwys,
Distriw bywyd bennyd bwys,
Ar y mawrion gloewon glwys,
Ysgymun rhyddwys gamwedd;
Am fynd ar ol aniwiol naws,
I ymdurfeisio, i dreisio ar draws;
Er daed yw'r saig, nid ydyw'r saws ond chwerwedd.
Na rowch hyfder cryfder croes
Ar un tywysog, enwog oes,
Nac un mab dyn, gan hwn nid oes,
Am iachus einioes warant,
I anadl eiff o'i ene 'n rhydd,
A'i gorff i'r bedd anfalchedd fydd,
A'i holl amcanion yn 'r un dydd a doddant.
Y gŵr synhwyrol yn i fryd,
Y blysiwr balch am bleser byd,
Doeth y dysgest gasglu nghyd
Mewn taer feddylfryd diried;
A bod yn gyfrwys ymhob man,
I borthi 'r corpws, gwplws gwan,
Nid wyt ond ffwl roi llai na'i ran i'r ened.
Mae gennyt enw o fod yn gall,
A chraff ar led yn gweled gwall,
Er nad wyt ond marw a mall,
Ni bu un dall dywyllach;
Ira d' olwg sy'n gwanhau,
Ag eli llygaid i'th wellhau,
Fel y gwelech gario'r iau 'n gywirach.
Er bod dy bechod fel y mel,
O ran dy gorph i'w roi dan gel,
A'i ddwyn yn gudd, heb ddyn a'i gwel,
Dan lechu i'w ddirgel loches;
Nef a daear, bore a hwyr,
A'i dadguddia oll yn llwyr,
Trwy fawredd Duw, yr hwn a ŵyr yr hanes.
Achan chwannog a rôi 'nghudd
Yr aur a'r fantell, werthfawr fudd,
Am hyn digwyddodd diwrnod prudd,
A ch'wilydd grudd a chalon;
Y guddfa gel i'r gole a gaed,
Ac ynte a'i blant, aniwiol waed,
Ynghyda'r diofryd bethe a wnaed yn boethion.
Ni chadd Dafydd fawr i ras
A alwe Duw 'n ddewisol was
Am waed Ureias, hwn a las,
Mo'i giedd gas i'w guddio:
Gwedi i Nathan, lân i liw,
I gondemnio â dameg wiw,
Rhoes farn i hun gyhoeddus i'w gyhuddo.
Ni chadd meibion Jacob chwaith
Ond c'wilydd mawr o'u celwydd maith,
Twyllo u tad a'r siaced fraith
A wnai iddo ganwaith gwyno;
Gwerthu i brawd i'r Aifft a wnaen,
A gorfod gwedi ymgrymu o'i flaen,
Fel caeth weision, cyn y caen i cinio.
Os gwnei di gam â'r gwaela erioed
Er dringo i'r gangen ucha o'r coed.
Gwylia syrthio dan i droed
Ar ddiwedd oed dy ddyddie;
Na fwrw yno fai ar yr un,
Ond ar d'anwiredd di dy hun,
O anfodd Duw, mewn perffeth lun a'th lunie.
Os dynion chwannog, drygiog drais,
A ddont i'th ddenu à thyner lais,
Na chytuna, cilia, cais
O rwyde malais rodio;
Cydwybod glir a chywir law
A wnant lawenydd ddydd a ddaw
I'r galon brudd, heb golyn braw 'n i briwo.
Y call diball, drwy bwyllus fraw,
A wel y drwg aniwiol draw,
Ac a ymguddia i gadw i law,
Yn nerthol daw oddiwrtho;
A phob un ffol, heb rol, heb raid,
Yn ol ni thry, ni ffy, ni phaid,
Nes i gosbi ymhen y naid i neidio.
Coelia Dduw oni choeli fi,
Dy weithredoedd oll dan ri
Fydd eglur yn dy dalcen di,
Drygioni a brynti a breintied;
Mae'r nos yn ole fel y dydd,
A phob peth cuddiedig fydd
I'r Gwr a'u rhoes, a'i gŵyr, yn rhydd agored.
Y diwiol glân, blodeuol glod,
Ac Ysbryd Duw byw ynddo'n bod,
Sydd hawdd i adnabod dan y rhod,
Oherwydd nod i anwyde;
Ni cheir twyll drwy amhwyll droi,
Na ffug, na ffalsedd, gnafedd gnoi,
Nac un gair drwg, anfoesol, o'i wefuse.
Os wyt mewn eisie'n wan dy blaid,
Gen Dduw, bob dydd, trwy ffydd, na phaid,
Cais, ti a gei bob angen rhaid,
I'th gorff a'th enaid hefyd;
Cura'r porth, fe ddaw Mab Mair,
I'th ddwyn i'r wledd wen groew-wedd grair,
Daw Crist i hun ar hanner gairi agoryd.
Mae Duw yn estyn i law gref,
I'n gwahodd olli deyrnas nef,
Y sawl sydd yn i wrthod ef,
A'i fwyn rywioglef eglur;
Am ddirmygu i gyngor da,
I gado 'n ol, a'u gwawdio a wna,
Pan font mewn distryw dwylledd bla, nid ystyr.
Ymendiwch, ac na fernwch fi,
Gwellhewch ych ffyrdd, gwrandewch ar gri
A pheredd lais yn Harglwydd ni,
Gwybyddwch chwi 'ch rhybuddio;
Oblegid mai anfuddiol fydd
Ych diflannu o ddydd i ddydd,
Gweithredoedd y tywyllwch sydd i'ch twyllo.
Cyd-ddychwelwch yr awr hon,
Oddiwrth gamwedde a bryche bron,
Fel na lidio, â phig y ffon
I rwygo'r galon galed;
Edifarhawn, fe drugarha,
Os trefnwn waith yn dwylo'n dda,
Mae i Air yn addo i ni na wna ddim niwed.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Dywedir i ryw rai ym Maelor gymeryd llaw oer gŵr oedd yn farw yn ei arch, a gwneyd iddi arwyddo ewyllys, ac yna tyngu mai ysgrifen y gŵr marw oedd. Credid fod clychau Rhiwabon wedi canu, ohonynt eu hunain, yn nyfnder nos, pan wneid y weithred ysgeler.