Gwaith Huw Morus/Codi Nant y Cwn
← Delwedd: Cipolwg ar Lyn Ceiriog | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Glanaf, hawddgaraf → |
CODI NANT Y CWN.
Cerdd i ofyn help i wneuthur ty i Roger Huw, o Nant y Cwn, yn Rhiwlas.
AR FESUR TRIBAN.
FI a'm holl gymdeithion,
Os gwir yw gwers y person,
Y droed i ffwrdd o'r nefoedd gu
I'w adeiladu i dlodion.
Drwy gariad a chymdeithas
Dymunwn i gynwynas,
Lle mae coed, a cherrig dwrr,
Yn rhywle 'nghwrr y Rhiwlas.
Lusen i chwi ystyried
Wrth Roger Huw ddiniwed,
Am godi 'r plas yn Nant y Cwn,
Mae hwn mewn cwlwm caled.
Er fod i eirie'n fyrion,
Yn growsdi mae fo'n Gristion,
Gwedi pydru'r croen a'r cig,
Yn cario cerrig geirwon.
Mae'r wraig fel hen gynhilin,
Mae yspryd byw 'mhob ewin,
O ceisio casglu i godi'r plas
Heb gael byd bras un briwsyn.
Cael saith ne wyth un diwrnod,
Cyn pydru y pedwar aelod,
A chyn gorffen crino'r croen
A'i tynn o'i boen a'i nychdod.
A henwa i rwy'n i ddeffol.
O heini seiri siriol,
I godi'r adeilad, na nacewch,
Gwnewch gymorth, cewch ych camol.
Y Meistar Tomas Rogar,
Nid oes mewn down dy feistar
I weithio y ffordd i'r mŵg a'r fflam,
Drwy'r simdde gam mo'i gymar.
Edward Morus dyner,
I'r mitin at y mater,
Y fo fydd y meistar maith
I gynnal gwaith ddydd Gwener.
Tomos ab Tomos Dafydd
Ai lygad maith y genfydd
Morteisio a thyllu a hoelio'n sad,
I wnio'r 'deilad newydd.
Huw Morus fwyn o'r Pentre
A ddysgodd godi cyple,
Da i ri wedd, daw i'r Nant,
Caiff yno gant o swydde.
Humffrey Morus sychgras,
Os byrion yw'r ysbaras,
Nid oes neb well am elio clôg
Ar gaban del og dulas.
Fe a esyd garreg aelwyd,
Gwneiff ar y canol gronglwyd,
Oni chaiff o lond i getyn gwyn,
Fo aiff adre cyn pyrnhawnyd.
Phylip Edward lysti,
Gwrol gâr i gowri,
Mawr i barch ym marn y byd,
A'r gore i gyd am godi.
Mae clochydd Llangydwalad
Yn enw Duw yn dywad,
A chorff a chalon wedi ymroi
A dwylo i doi'r adeilad.
Hwmffre Huw sydd landdyn,
A feder doi'n ddiderfyn,
Gwellt a grug a brwyn yn bro,
A rhidyll o do rhedyn.
Tomos fwyn ab Wmffre,
Mae gin i swydd i chwithe,
Eiste 'n ty ac estyn tân,
A llenwi glân bibelle.
Y seiri difesure,
Mae llyged yn ych penne,
Os medrwch siarad yr un iaith,
Chwi wnaethoch waith o'r gore.
Nid oes ond ffwl rhy ddichlyn
Yn gweithio wrth ffon ne linyn,
Tra botho enw Duw'n ych mysg,
Na dawn na dysg yn disgyn.
Mae'n rhaid cael Hwmphre Owen,
Gyfarwydd gorff, cyn gorffen,
Ni chymre'r un o'r lleill wyth muwch
Er dringo 'n uwch na'r nenbren.
Wel dyma'ch dysg chwi, Wmffre,
Gwnewch gowrain gorn i'r simdde,
Nid ellen furio honno o hyd
Gin wendid pennyd penne.
Pen weloch feie'r seiri,
Ymogelwch i cyhoeddi,
Rhag taflu'r neuadd wych i'r nant
A maint y chwant i'w chodi.
Gwaith heb gel a wneler
I dynnu'r ffrind o'i flinder,
Ufudd harddwch y fydd hyn
I'r llechwedd gwyn ddydd Gwener.
Hin urddol i'ch cymdeithas
Mi gaf gyflawni y mhwrpas,
A Duw a fytho'n llwyddo llawr
Y neuodd fawr newyddfras.