Neidio i'r cynnwys

Gwaith Huw Morus/Glanaf, hawddgaraf

Oddi ar Wicidestun
Codi Nant y Cwn Gwaith Huw Morus

gan Huw Morus (Eos Ceiriog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Fy nghangen urddasol

GLANAF, HAWDDGARAF.
(Mrs. Anwyl, o'r Parc.)

GLANAF, hawddgaraf i gyd—o rinwedd,
Yw'r Anwyl wawr hyfryd;
A mwynaf gwraig, bob munud,
O wragedd bonedd y byd.

Trwy'r wlad, clyd fwriad, clodfora—hi byth,
Am ei bod yn rhydda,
Yn nod teg, ac yn waed da,
A llaw aur, a lliw eira.

Poed gras llawn urddas yn llon—i hoewgyrff
Ei hegin boneddigion;
Bywyd hardd yw bod o hon,
Ddifai obaith, ddau feibion.


Nodiadau

[golygu]