Gwaith Huw Morus/Delwedd:Pont y Meibion
← Liw alarch ar y llyn | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cân y Weddw → |
LIW ALARCH AR Y LLYN.
Tôn,—"CONSYMSIWN."
LIW alarch ar y llyn,
Lliw eira gwynna gwyn,
Lliw lili, heini hyn,
Yn siwr rwy'n syn o'th serch;
Prydferthol, nerthol nwy
A drodd yn drachwant drwy
Fy nghalon, a mawr yw 'nghlwy,
Ni bu mo'i fwy am ferch.
Gwae fi weled teced yw,
Yn glws dy lun, a glas dy liw,
Yn wych, yn wen winwydden wiw,
I beri briw i'm bron;
Cynnyrch cariad, codiad cais,
Yw dy dyner lwysber lais,
Dyna fiwsig mwyn dan f ais,
Hyfrydlais llednais llen.
Dy lwys baradwys bryd,
A'th ddonie gole i gyd,
Sydd ore o bethe'r byd,
Aur bwysi, 'r hyd y bwy,
Sidanedd iredd ael,
Digonedd im dy gael,
Yn hylwydd gan Dduw hael
Ni fynnwn fael oedd fwy.
Fy niwies wyt, fy newis un,
O chai fy hawl, fachâ fy hun,
Mewn diwyg da di-gla wrth dy glun,
Y mynna i, mun, fy mod;
Bendigedig, bun deg yw,
Dy risian gôl a'th rasol ryw,
Byth heb wad tra bythwy byw,
Pob gwlad a glyw dy glod.
Llawenydd, wenydd wych,
Yw byw a bod lle bych,
Os sefi ar ddaiar sych
Y ffordd y glych y glaw,
Be cawn i y peth nis ces,
Iawn draserch yn dy wres,
Fel perl mewn llestr pres
Y llenwe lles fy llaw;
Rwy yn hiraethus fel yr hydd,
Am fod ger bron y rasol rudd,
Am ddwr y nant i fawr chwant fydd,
Yn gystudd hirddydd ha,
Felly minne, y mine medd,
Mawr flys sydd flin fel glaswr gwedd,
Heb wybod prun ai gwaelod bedd
Ai gole i gwedd a ga.
Fy niwies gynnes gain,
Mor glir a'r gloch ne'r glain,
Bydd bur er cysur cain
I dreinglo 'r drain o'r drws;
Er athrod sorod sydd,
Na sorra, seren ddydd,
Ca weled fwyned fydd
Dy lawen ddwyrudd dlws;
A'th frig a'th fron fel meillion Mai,
Ne wenith gwyn i un a'th gai,
Câr a'th garo, er rhuo rhai,
Di-feth, di-fai dy fyd,
I'w magle drwg 'mogela droi,
Gwel fi yn ffyddlon, gwylia ffoi,
Da dy-di, dywêd y doi,
Rwy wedi ymroi 'n y mryd.
Ni roddir, ac ni roed,
O rinwedd fwy erioed,
I un ferch ifanc oed,
I'm dwylo doed y dawn,
Disgleirder, doethder dysg,
A'i mwynder yn yn mysg,
Fel purion wynwydd wrysg,
O'u cymysg pur y cawn;
Yn anad un mae f' ened i,
Mewn niwya poen am M. a P.
Howddgarach gradd fy lladd â lli
Na'th golli, eneth gain.
Os gwael os gwych, os gwyllt os gwâr,
Pawb a'th gwel ni'th gel a'th går,
Lunieddgar, liwgar, lon.
Fy ngwynfyd yn fy ngwaith
Naturiol ymhob taith,
Cynhyrfu'r meddwl maith
Dy gofio, 'r fwynwaith ferch,
Fy angyles yn fy ngwydd,
Os rhed y rhod yn rhwydd,
I gael yn llinyn llwydd,
Nid ofer swydd fy serch;
Fel am feddyg at y cla',
I'm bron mae brys am d'wyllys da,
Yn gry fy nerth, dy grefu wna,
O gur a gafai 'n gwyn,
Fy newis rosyn yn yr ardd,
Am dy gwmni heini hardd
Trymach wy, tro yma, chwardd,
Na Merddin fardd, un fwyn.