Gwaith Huw Morus/Dic y Dawns
← Cerddi Tir y Taerion II | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Delwedd: Ffair Llanrhaiadr → |
DIC Y DAWNS.[1]
Tôn,—"ANODD YMADEL."
POB glanddyn cariadus afiaethus yn fwyn,
Gwrandewch ar fy hanes a'm cyffes a'm cwyn;
Rwy'n dangos hysbysrwydd, wych bylwydd, i chwi,
Na welsoch chwi haiach ynfytach na myfi.
Mi fum yn oferedd yn hoewedd yn hir,
Ac weithie'n awyddus, argoeddus yw'r gwir,
Er ennill y geniog mor gefnog a'r gwynt,
Er cynted eillwn, mi a'i gwariwn hi'n gynt.
Llawer celfyddyd, wr ynfyd, erioed,
Yn ufudd fy nyfes, a dreies ar droed;
Pob campie, pob castie, rhag gostwng fy ngradd,
A phob math ar afrad, ond lladrad a lladd.
Pan oeddwn gyweuthog, er gwaethed fy nghwrs,
Ac arian yn gorwedd ym mherfedd fy mhwrs,
Pawb fydde'n fy mostio, yn treio pob tric,
Nid oedd neb ynfytach na doethach na Dic.
Yn nghwmni'r ifienctid ni welid neb well,
Cân fydde yn fy nhafod yn barod o bell;
Llawer cydymeth drwy fawr wenieth draw,
Mewn ufudd lawenydd, a lyne'n fy llaw.
Fo ddeude'r cybyddion mor oerion a'r ia,
Fy mod i'n gymydog godidog o'r da;
Cawn ganddyn fy nghoelio, a rhodio'n wr rhydd,
Tra bum yn gofalu am dalu'n y dydd.
Tra bu gen i geffyl mi gawn fenthyg march,
Tra galles i ganlyn, gan bob dyn cawn barch;
Cawn groeso a chymeriad a chariad a chŵyn,
"Nosdawch," a "Dydawch," a deudyd yn fwyn.
Anwadal fynediad wrth rediad y rhod,
Y golud a giliodd, newidiodd y nod;
Y parch a'r helaethrwydd a lithrodd yn is,
A Dic aeth yn hitin heb ronyn o bris.
Tra bum i'n wr cynnes, a'm lloches yn llawn,
Fy marnu'n synhwyrol ragorol a gawn,
Gan bawb ffwl oedd hitin pen aethum i 'n ol,
Di-ras a di-reswm, a phendrwm a ffol.
Yr anwyl gymdeithion a droison yn ddrych,
Yrwan nis gwelan, ysgogan was gwych,
Heb un gair o gellwer pe gallen, yn rhwydd,
Yng nghysgod rhedynen nhw ymguddien o'm gwydd.
Ni cheir un gymwynas gyweithas fel gynt,
Ni roir imi garre lle gwaries i bunt;
O ganol y gwenith, fy mendith i'w mysg.
Fe am gyrred i'r branar i brynnu fy nysg.
Yn hwyr byrnhawn gynne, nid bore, gwybûm,
Mai di-fudd a diofal, benfeddal, y fum;
Ni orffwys yr iachus ar erchwyn y cla,
Cardigrwydd a ddiffydd o derfydd y da.
Er blined fy ngherdded, a lleied fy lles,
Adnabod rhai dynion yn gyson y ges;
Pen gaffw i gynheddfe a rhinwedd y rhain,
Y fale ga i 'n felus mewn dyrus lwyn drain.
Ni welwn mo'r pethe yn nyddie fy nwy,
Er lledu fy llyged gen lleted a llwy;
Yrwan rwy'n canfod, wrth hynod waith hael,
Nad ydyw cydymeth digoweth ond gwael.
Llawer y heues, ni fedes i fawr,
A heues mi a'i tenes, gollynges i'r llawr;
Os medru wna i gasglu, rhag ail methu mwth,
Ni fynnai roi f' ennill mewn rhidyll mor rhwth.
'Rwy'n dallt wrth gydnabod ar gafod y ges,
Mai oerllyd yw aelwyd heb gronglwyd na gwres,
Gwell imi na chastell gorchestol yr un,
Dŷ bychan ben erw ar fy helw fy hun.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Dywed rhai llawysgrifau mai Richard Abram a ganodd y gerdd hon,