Gwaith Huw Morus/Etifedd y Pant Glas
← Bedd Sara | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Liw alarch ar y llyn → |
ETIFEDD Y PANT GLAS
Ymddiddan rhwng y byw a'r marw, sef Elin Prys a'i mab
Thomas Edward, etifedd Pant Glas.
Tôn.—"ANODD YMADEL."
DUW unig daionus, doeth rymus, a thri,
Ti roddest ormodedd o amynedd i mi,
A Duw a ddug ymeth holl obeth fy lles,
Gwae finne o'r cyfnewid a'r gofid y ges.
Er darfod drwy ferthyr dy ddolur dy ddwyn,
I esmwytho ar fy mhennyd un munud, oen mwyn,
Fy anwyl etifedd, oedd fawredd i fam,
Os galla i dy godi, di gerddi di gam?
"Nid canu, nid cynnwr, nid cryfdwr, ond Crist,
Nid swyddog calonnog a'm cyfyd o'm cist,
Pa gwynfan sydd gennych, pa hireth, paham,
Na chymrech yn fwynedd amynedd, y mam?
Amynedd y gymrwn pe gallwn i gael,
Naturieth sy'n peri mawr weddi mor wael,
Gwendid meddylfryd, a breuddwyd heb rol,
I'th aros bob munud, f anwylyd, yn ol.
"Dwys rwyd, nid oes rydid na munud i mi
I gymryd mân gamre i chware atoch chwi,
Mae'n siwr i chwi ddyfod, gŵyn hynod, cyn hir,
Ata i yma i leteua i'r un tir.'
Rhy gaeth yw dy lety, y ddaiar ddu oer,
Heb gynnydd haul gynnyrch, na llewyrch y lloer;
Cei farch i'w farchogeth, yn berffeth i bâs,
A'th garia di 'n hoew, pwynt gloew, i'r Pant Glas.
Mi golles i feddiant a llwyddiant y lle,
Pen golles ni cholles, enilles y ne;
Er claddu had Adda o'r pridd yma, prudd yw,
Ger bron y ffyddlonied mae fened i 'n fyw."
Ond wyt mewn lle nefol, dedwyddol dydi,
Mae'r ddwyfron a'r galon yn oerion gen i,
Dy dad a'th chwiorydd, byw beunydd bob un,
I'th aros di o'th orwedd, di lesgedd dy lun.
"Gwagedd o'r gwagedd, a'r agwedd yr wy,
Yw galw arna i godi, na'm holi ddim hwy,
Bodlonwch, na ddigiwch Dduw'r heddwch a'm rhoes,
Heb oede na meichie i chwithe am ych oes."
Os dyddie'n dedwyddwch ni 'n dristwch a droed,
Pa na waeth i ni feirw fel ceirw'n y coed,
Na byw yn alarus anafus nyni,
A cholli prydferthwch da degwch dydi?
"Pwy sy yn preswylio heb arno ryw bwn,
Yn pwyo tra botho fo byw'n y byd hwn?
A garo Duw nefol anfeidrol yn fawr,
O gystudd i gystudd fe a'i gistwng o i lawr."
Rwy'n ddigon digystudd, heb awydd yn byw,
Ond hireth drom drwbleth, cydymeth cas yw;
Pe base dy einioes di 'n hiroes o hyd,
Mi faswn cysurus a melus y myd.
"Ond eiddo Duw oeddwn pe baswn i byw,
Er bod yn etifedd iach rhyfedd o'ch rhyw;
A'm prynnodd ni'm collodd, ymwelodd â mi,
Ni roes ond y menthyg ryw ychydig i chwi."
Rhy fychan o'th gwmni, di-wegi dy wedd,
Ni gawsom dy garu di a'th fagu i'th fedd;
Ow tyred i'r golwg, ertolwg i ti,
A darllen yn llawen, y machgen, i mi.
"Ar Grist, y Gair union, yn dirion gwrandewch,
Er gofyn, yn erbyn gorchymyn ni chewch;
Na ofynnwch, dychwelwch at heddwch cytun,
A cheisiwch angenrhaid i'ch enaid ych hun."
Rhaid yw bodloni, dan ofni Duw ne,
Er gweled â'm llyged dyloted dy le;
Pe cynhygiwn y feddwn, ni phrynswn i â phris,
Dy hoedel di ar hyder dy fwynder di fis.
"Pe gwyddech ddiddaned a glaned, heb glwy,
Yw'r santedd gyfannedd a'r annedd yr wy,
Chwi ddeudech mai dedwydd, ie purffydd o'ch pen,
Fy magu i, a'm derchafu i fyny i'r nef wen."
Os cefest orchafieth a heleth fawrhad,
Yn gysur, le esmwyth, i'th dylwyth a'th dad,
Y mendith i'th ganlyn, gwiw rosyn y gras,
Mae'n siwr nad oes yna na chyffro na chas.
"Mae yma fodlonrwydd tragywydd i'w gael,
Drwy ymborthi ar berffeithrwydd yr hylwydd Dad hael,
Heb ddim anllyfodreth na hireth na haint,
Na neb a'm gwrthnebo i ymrwyfo am fy mraint."
Daionus fu d'eni at roddi i ni 'r fath radd,
Mewn lle nad oes golled na lladrad na lladd,
Mab Duw, fy Iachawdwr, a'm Rhoddwr, a'm rhan,
A ddelo i'r wledd ole a minne i'r un man.
"Yrwan yr ydech chwi'n edrych yn iawn,
Fel morwyn gall addas, ar deyrnas y dawn,
Yno mae'r iechyd, a'r hawddfyd, a'r hedd,
A Christ a'ch gwahoddo i arlwyo i'r un wledd."