Gwaith Huw Morus/Bedd Sara
Gwedd
← Y ferch o'r Plas Newydd | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Etifedd y Pant Glas → |
BEDD SARA.
GWELED deced ar dir—oedd Sara,
Loew seren y ddwy-sir,
Gwae oedd fod, gwaew-nod gwir,
Graian mân ar groen meinir.
Melusber dyner oedd dôn—i pharabl,
A'i pheredd fadroddion;
Ond dychryndod, syndod son,
Gau'r min ar i geirie mwynion?