Gwaith Huw Morus/Fy nghariad i
← Cynhwysiad | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cynghor i'r Gweithiwr → |
HUW MORUS.
FY NGHARIAD I.
Tôn,—"PER OSLEF."
FY nghariad i,
Teg wyt ti,
Gwawr ragori, lili lawen,
Bêr winwydden, fwynedd feinwen,
Y gangen lawen lun;
Blode'r wlad,
Mewn mawrhad,
Hardd i hymddygiad, nofiad nwyfus,
Bun gariadus, haelwen hwylus,
Y weddus foddus fun;
Lloer wiw i gwedd, lliw eira gwyn,
Yn sydyn rhoes fy serch,
Ar f' enaid fain,
Sydd glir fel glain,
Rywiog riain irfain yrfa,
Na chawn ata ddyn ddiana,
I'w meddu, mwyna merch;
Ond, blode rhinwedd croewedd, cred,
Er teced ydwyt ti,
Y galon fach
A gadwa'n iach,
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Dere yn nes,
Lloer y lles,
Iredd aeres gynnes geinwen,
Ail i Elen, feindw, burwen,
Y gangen lawen liw;
Mae gen i
Fryd teg i ti,
Ffyddlon ffansi yleni olynol,
Dan fron freiniol, baunes weddol,
O raddol reiol ryw;
Gwen fel blode, donie dydd,
Anufudd yn dy nerth,
Pe baswn i
Yn coelio i ti,
Gwawr ddiwegi, yleni linon,
Aethe nghalon yn ysgyrion,
Moddion wirion werth;
Er llewyrch bryd lliw aur i byd,
Er tebyg neb i ti,
Y galon fach
A gadwa'n iach,
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a tryinion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Rhois ffansi ffol
Heb droi'n ol,
Arnat, weddol ddon'ol ddynes,
Hyd y galles, liwdeg lodes,
O wres y fynwes fwyn;
Pe rhoiswn i
Serch rhy ffri,
Y fwynlan Bessi, fel y baswn!
I glefyd methiant mi a aethwn,
Rhy hwyr y ceisiwn gwyn;
Tafod o aur yn tyfu'r dydd
Sydd beunydd yn dy ben,
Am hyn, lliw'r od,
Y mynna i mod
Trwy bur aniod hynod heini
I'th fwyn gwmni, y lana yleni,
Y gofled wisgi wen;
Er llwyred clod hyd llawr y glyn
I ti, lliw ewyn lli,
Y galon fach
A gadwa'n iach
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Er maint a fo
Drwy druth ar dro
Draw i'th rwydo drwy athrodion,
Gwen lliw'r hinon, gwylia'th galon
Goelio i ffeilsion ffydd;
Ond rho im hedd,
Teg i gwedd,
Y mun rywiogedd ffraethedd ffrwythlon,
Gwybydd, gwenfron, mor bur ffyddlon
Ydi'r galon gudd;
Os blode'r wlad a'm gad i'm gwydd,
Na throtho'n rhwydd y rhod!
Er teced fon,
Na phoena son,
Cywir galon foddion fydda,
Er i gwaetha, i liw'r eira
Yn bura mynna i mod;
Er bod fy ffansi yleni hyd lawr,
Yn fawr nych awr i chwi,
Y galon fach
A gadwa'n iach
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Cariad mawr
Sydd yn awr
Gen i'n ddirfawr gwyn ddiddarfod,
Nes cael gwybod, trwy bur amod,
Y bennod hynod hon,
Beth a wna,
Blode'r ha;
Ac oni ystyrri hyn o stori,
Fe fydd gen i ddwyfron ddifri,
Yleni, lili lon;
Meingorff gwisgi 'n gloewi gwlad,
Hardd droiad yn y drych,
A hon, pe cawn,
Yn drech ymdrawn,
Gyda gwiwlawn gyflawn gofled,
Blode'r merched, moes gael gweled,
Eured, fwyned fych;
Os rhoi im naca, gwynna i gwedd,
Os chwerwedd fyddwch chwi,
Y galon fach,
A gadwa'n iach,
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Mae gen i ffydd,
Gwen lliw'r dydd,
Beunydd dedwydd fel y dweda
O foddion fydda i Wen lliw'r eira,
O rhodda mwyna maeth;
Ac onid e,
Ni wn i ble
Trwm yw'r modde, y tro i y meddwl,
Daw arna i 'n gwbwl am liw'r wmbwl
Trwbwl cwmwl caeth;
Cofia baenes, ddiwies dda,
Y byrdra o fwyndra a fu,
A mentra, bun,
Oleuwedd lun,
I'r mwyn rwymyn, gorffyn gwirffel,
Feindw dawel, yn lle ymadel,
Dal mewn gafel gu;
Os ateb mwyn a chwyn ni cha,
Ni chlwyfa, brafia i bri,
Mo'm calon fach,
Mi a'i cadwa'n iach,
Pe haet glanach, gwynnach gwenfron
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.