Gwaith Huw Morus/Cynghor i'r Gweithiwr
Gwedd
← Fy nghariad i | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
I ofyn feiol → |
CYNGOR I'R GWEITHIWR.
WEITHIA waith yr ha i'th ran,—clyw addysg,
Coledda dy hunan;
Nid gwyn i fyd, gwae'n y fan,
Wario i lafur Wyl Ifan.
Yr hwsmon, digllon, nid da—oni wthir
I weithio 'r cynhaua,
Heb fwyd y bydd, mewn dydd da,
I'w gywion erbyn gaua.