Gwaith Huw Morus/I ofyn feiol
← Cynghor i'r Gweithiwr | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y ferch o'r Plas Newydd → |
I OFYN FEIOL.
I William ap Roger, oddiar Mr. Salisbury, o Rug.
Tôn,— "Y GALON DROM."
YR ysgweiar a'r wisg eured,
Salsbri enwog, sail barwnied,
Ni bu, nid oes, un cymar ichwi,
Meister William, yn meistroli;
Ni bydd byth, am bod daioni
O dad i dad, hir i gariad, yn rhagori.
Llyfodraethwr, gwladwr clydwych,
Mwyn caredig, dwyfoledig, da i fil ydych.
Colofn bonedd mawredd Meirion,
A chadernid yn Edeyrnion,
Mae'ch rhyw odieth a'ch mawrhydi,
O flaen erill i flaenori;
Yn anad un, mewn enw dawnus,
Boneddica, o had Adda anrhydeddus,
I chwi, benneth taleth teilwng,
Dewr cariadus, mwya ustus, rwy'n ymostwng.
Canu ar redeg, cwyno 'r ydwy
Tros hen gerddor o Lyndowrdy,
William Robert wrth i henw,
Sydd yn cynnig miwsig masw,
Gore dyn y gweirie danne,
At bob cynhanedd lon arafedd lwysedd leisie,
Yn sir y Mwythig, wlad Sasnigedd,
Pe arhose, aur y fase ar i fysedd.
Ni wnaeth o erioed mo'r anonestrwydd,
Yn dwyllodrus ond anlladrwydd,
Ni bu mo'i fath am wincio llyged
Mewn gwlad a marchnad ar y merched;
Ffeind y medre â'i law a'i dafod,
Borthi natur ofer synwyr ar fursenod;
Gŵr penchwiban er yn blentyn,
Gwyddech arno fod rhyw bendro 'n gwyro i goryn.
Mae fo rwan yn heneiddio,
Fe ddarfu'r grym a'r gwres oedd ynddo,
Fe aeth i ddeupen yn lledfedded,
Drwg y mae fo 'n dal mewn diod;
Ymhen pob twmpath cael codyme,
Syrthio yn glyder ar fol y dyner feiol dene;
Da 'r ymdrawodd, dirym droiad,
Safio i wddw ar ol y cwrw a rheiol cariad.
Torri'r drebel isel leisie,
Gwaith nid llesol, dryllio i 'stlyse,
Sigo i dwyfron, torri i lengig,
Ac anrheithio moese 'r miwsig;
Ceisio meddyg, casa moddion,
Er ys dyddie i drwsio'r tanne a'r esgyrn tynion;
I lliw a'i llun a'i llais anynad
Sydd aflawen, ail hwyaden, wael i hediad.
Er bod y cerddor per leferydd
Yn medru chwalu a chwilio i choludd,
Mae diffyg anadl yn i ffroene,
A dwyn i swn o dan i senne;
Mi gyffelyba fwa i feil
I lais lluddedig gwydd ar farrug, gwedd foreuol;
Llesg iawn ydi, llais ci 'n udo,
Fel llais olwyn, ne lais morwyn ar lesmeirio
Llais hwch ar wynt, llais lli yn hogi,
Llais padell bres yn derbyn defni,
Llais hen gath yn crio am lygod,
Tiwnie diflas tan y daflod;
Oer i pharabl yw'r offeryn,
Yn llefaru, gwycha ganu, i gychod gwenyn;
Ni chlywyd gwraig erioed yn grwgnach,
Ped fae'n gruddlan ne'n ystytian, anwastatach.
Ni wrendy neb mo'i lais anhawddgar,
Ond un feddw ne un fyddar,
Haws nag ennill ceniog wrthi
O fewn y plwy gael dwy am dewi,
Di-ddealltus i ddwy ddellten,
Ar wahanu 'n llusgo canu llais cacynen,
Fo gân mwy difai â phric edafedd,
"Hailwlwian," ne ryw driban ar y drybedd.
Caned ffarwel i'w gymdeithion,
Darfu i goel, fe dyrr i galon,
Ni ddoiff o byth ar feddwl serchog,
Oni ddaw dwy ych llaw alluog;
A geiri William gu, er i waeled,
Drebel newydd, a llawenydd ynddi i llonned?
Fo ddaw i'r llan a'i drwstan dristwch,
Os ceiff o, gelfydd was da i ddeunydd, gist diddanwch.
Mae'ch calon hael am fael i filoedd,
A'ch dwy ddwylo'n llwyddo lluoedd,
Mwyn gorff gwrol, a thrugarog,
I gyd ydych, a godidog;
Rhowch er dyn, blodeuyn Cymru,
Ymwared reiol iddo, feiol i'w ddiofalu,
Ac ynte a haedde i rwymo i heddwch,
Rhag iddo i llethu, mae'n hawdd i gyrru i anhawddgarwch.