Gwaith Huw Morus/Gwel gaethed
Gwedd
← Richard Miltwn | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Siriolwych wyt → |
GWEL GAETHED.
Ar garreg fedd yn Llan Gadwaladr.
WEL gaethed, saled fy seler,—ystyr.
I ostwng dy falchder;
A chofia, ddyn iach ofer,
Nad oes i fab ond oes fer.