Gwaith Huw Morus/Siriolwych wyt
← Gwel gaethed | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Deallwr → |
SIRIOLWYCH WYT.
Tôn,—"GWLEDD ANGHARAD."
SIRIOL-WYCH wyt, a chlaerwen,
Braf eured bryd,
Bron o hud;
Er hyn ym llwyr ddifethest,
Ti'm bwriest i o'r byd.
Ni chollesi ond hanner
Fy nghalon bur, sy'n cario cur,
Rwy'n madde y mriwie mawrion
Fel dannedd hoelion dur;
Y dlysedd ferch ireidd-deg,
Na ddwg chwaneg, fwyndeg fun,
Rwy'n disgwl hon, yn galon gron,
I'm hanwyl fron fy hun;
Ond gormod sydd o honno
Gwedi gwreiddio 'n dy eiddo di,
Mae'n gysur gwan na cha i, lli a'r can,
Naturiol ran gin ti.
Ac er dy fod yn ifanc,
Fel y nefoedd wawr
I oleuo i lawr,
Dy dafod ffraeth di-ofer
Sy'n arwen mwynder mawr;
Pob gair per o'th ene
Sy'n abal nerth is awyr serth
Er dotio, twyso teirgwlad,
Trwy ymweliad cariad certh,
Dy fagle oll nid allant
Cael mwy o feddiant ynddo fi,
Rhaid i mi drwy anianol nwy
Gael cysur mwy gin ti;
Cydnebydd er dy laned
Nad alla i fyned yn ddioed,
Ac na'd fy rhoi mewn clwy i'm cloi
I hir ymdroi wrth dy droed.
"By credwn, fab cariadus,
Ych geirie i gyd,
Hwyrfrydig fryd,
Mi fyddwn balchach lawer,
Bai ofer gwyr y byd;
Nid ydw i o bryd mor brydferth,
Oliw na llun ail Fenws fun,
Ac a alla i'ch gorchfygu,
Chwi a wyddoch hynny 'ch hun;
Os collodd rhan o'ch calon,
Och i chwi son, o'm hachos i,
A than fy mron mae un lawen lon,
Cewch hanner hon i chwi;
Bydawn i'n chwilio 'ch mynwes
Am galon ffres ar fales bach,
Mi cawn hi draw, a than fy llaw,
Heb ronyn braw,'n bur iach.
"Mae'n hawdd gin lances lithro
Gerddo gefn
Y garreg lefn,
Mae llawer mab twyllodrus,
Madroddus, glân i drefn.
Haul cynnes o flaen cafod
Yw gwenieth gŵr wrth garu'n siwr,
Gair mawr un bwys a phluen
Ar donnen arw'r dŵr;
Anodd yw adnabod dyn,
A diwrnod, derwen las,
Troi wna rhin y pren yn grin,
A'r dyn yn flin ddi-flas;
Y fi nid ydw i chwi
Mewn ffansi na gwan ffydd,
Ond ffol erioed ac ifanc oed,
Mae'n dda gin i 'n nhroed yn rhydd."
Nid fel gŵr di-fetel,
Lle'r el, lliw'r od,
Y mynna i mod,
Fae 'n myned yn y diwedd
Heb wedd, heb gledd, heb glod;
Marw chwaith nid alla
Ne dario'n ol ar ffordd yn ffol,
Fel bustach fai 'n dychrynnu
Pen wele i ddenu i'r ddôl;
A hanner calon hoenus
Ai ffwrdd ar frys i'r ddyrys daith,
I ddeisyf swyn y deca ar dwyn,
Swydd fwyn, sydd faith,
Na ddichon mo'r rhan arall
O'r galon ddiball glau na ddêl
Air hir o hyd at ddisglaer bryd
Sy'n mynd trwy'r byd a'r bel.
"By gwyddwn i, impin gweddus,
Ych bod mor bur
Yn cario cur,
Mi fyddwn inne aurwyn air,
Heb un gair sorrair sur,
Rhag bod yn ddrwg ar f ened
Ni fynnwn ladd y cyfryw radd,
Rwy'n dallt fod cerydd cariad
Fel curfa carreg nadd,
Er dyn, od ydw i luniedd,
Na foliennwch fi fel pab,
Os teg yw ngrudd, mae ynwy 'nghudd,
Ddau fwy o fudd i fab;
Mae gen i ewyllys ffyddlon
Yn fy nwyfron gyda nwy,
Mi a'i cadwa 'n glir, ni eill dyn ar dir
Mo'i bennu'n wir i bwy."