Neidio i'r cynnwys

Gwaith Huw Morus/Y Deallwr

Oddi ar Wicidestun
Siriolwych wyt Gwaith Huw Morus

gan Huw Morus (Eos Ceiriog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Myfyrio rwy'n fwyn

Y DEALLWR.
(Edward Morus fel cyfieithydd.)

Y DEALLWR da i wyllys—diysgog,
Di wisgaist yn drefnus
Degan iaith, di-graith i grys,
Da i rad mawr, Edward Morus.

Medaist, bwriedaist, bri awdwr—nithiaist
Wenithau diamhur;
Rhennaist, iawn bennaist yn bur,
Diwiol ofal dy lafur.

Llyfr annerch, llafur enaid,—llawenydd
A lluniaeth ffyddloniaid;
Lluddio'n rhwysg, llaw Duw i'n rhaid,
A all agor ein llygaid.

Am waith dilediaith adeiladwy—cryf
Crefydd ansigliadwy;
Uchel ydwyd, anchwiliadwy,
Ni bu yn fardd neb yn fwy.


Nodiadau

[golygu]