Gwaith Huw Morus/Gwen Parri
Gwedd
← Stifn Parri | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Arglwyddes y Tegwch → |
GWEN PARRI.
GWEN glau, gwen fronnau, gwn fri—Gwen anwyl,
Gwenynen, i'w moli;
Gwin puredd yw Gwen Parri,
Gwyddis hyn, gweddus yw hi.
O fonedd geinwedd y ganwyd—Gwen loer,
Ac yn lwys y magwyd;
A'r ganwyll aur ag enw Llwyd
Yn wenithber a wnaethbwyd.