Gwaith Huw Morus/Mai Gan
← Y pendefig penna d'afieth | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
I ofyn coron → |
MAI-GAN.
Yn amser rhyfel.
Tôn—"LLAFAR HAF."
Y DIWIOL deulu mwynion,
A'r gonest ferched gwynion,
Fe ddarfu'r dyddie blinion,
Cawn dirion hinon Ha;
Daw Clame teg i flode,
Bob dydd a deunydd donie,
Ac iechyd i'r dwyfronne
Lle bu calonne cla.
Agorwch yn drugarog,
Fe ddaeth yr Ha at y rhiniog,
Mae dail ar goedydd brigog,
A'r haul yn wridog wres;
I borthi'r buchod blithion
Ymysg briallu a meillion
Daw Duw a theg fendithion,
Gwlith Hermon, glaw a thes.
BYRDWN.
Duw, cadw Eglwys Loeger
I fyny tan dy faner
Un ffydd a Phaul a Pheder
Ar ddiwiol arfer dda;
A'n Brenin William eglur
I fynd o flaen i filwyr
Yn erbyn i wrthnebwyr
Drwy synwyr Josua.
Y Gaua a'r Gwanwyn caled.
Oedd filen i 'nifeilied,
I'r gweinied 'roedd y carlied
Di-ymwared yr un modd;
Er cymaint fu'r cyfyngdra,
Mae'r Arglwydd di-gybydd-dra
I borthi'r byd â bara
Yn rhannu rhwydda rhodd.
Mae achwyn mawr yleni
Rhag talu teyrnged trethi,
A rhegi'r sawl sy'n peri
Tylodi'n codi cas;
Fe fydde haws i'r brenin
Yn ddigost yn hamddiffyn
Pe ceisie pawb ar ddeulin,
Blanhigyn gwreiddyn gras.
Os barnwn drwy gyfiawnder,
Mae'r byd yn well o lawer
Na'r bobol sydd i'w arfer
Drwy drawster, eger yw;
Mae'n well gen rai ragrithio
A byw drwy wan obeithio,
Na cholli awr o weithio
I bur weddio ar Dduw.
Dychwelwch, ac na phechwch
Mewn gole na dirgelwch,
Gweddiwch, chwi gewch degwch,
Duw'r heddwch a dry'r hin;
I arwen y cenhedloedd
I ofni Brenin nefoedd
Mae'n rhaid, ar dir a moroedd,
Fod rhai blynyddoedd blin.
Y merched dowch i'r dyrfa
A'r meibion oerion ara,
Gwres yr Ha 'ch cynhesa,
A minne a gana gaine;
Diofalach pe dae filoedd
Gyd chware ym min mynyddoedd,
Na 'myrryd ar y moroedd
I ffrwyno lluoedd Ffrainc.
Y gŵr a gâr ddiddigrwydd,
A'r wreigdda'n un gardigrwydd,
Duw ro i chwi flwyddyn ddedwydd
Ar dawel dywydd da;
Yr Arglwydd a'ch bendithio,
Ych ty, a'ch tylwyth ynddo,
Lle cawsom ni barch a chroeso
Cyn heno'n canu Ha.