Neidio i'r cynnwys

Gwaith Huw Morus/Ofergoel ac ateb

Oddi ar Wicidestun
Myfyrio rwy'n fwyn Gwaith Huw Morus

gan Huw Morus (Eos Ceiriog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yr Hen Eglwys Loeger

OFERGOEL AC ATEB.

YR OFERGOEL.
RHYW loer a enir ar lân—osodiad,
Ddydd Sadwrn pasg bychan;
Yr ail Iau ar ol Ieuan,
Uwch y tir, gwyliwch y tân.

ATEB.
Dyma'r dyw-Iau clau teg glân—oleudes,
Ail gwedi gwyl Ieuan;
Mae'r gelwyddog ddarogan?
Mae'r famiau dur? Mae'r fflam dân?

Ni wyr dynion son ond y SYDD—neu y FU,
Na wnawn fost o'n gwagffydd;
Duw Ior cun, awdwr cynnydd,
A'i wir Fab, a wyr a FYDD.


Nodiadau

[golygu]