Gwaith Huw Morus/Yr Hen Eglwys Loeger
← Ofergoel ac ateb | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Wrth fynd i'r Eglwys → |
YR HEN EGLWYS LOEGER.
Ymddiddan rhwng gwir Brotestant a'r eglwys wedi dienyddu y brenin, Charles I.
Tôn,–"GADEL TIR"
Rhen Eglwys Loeger, mae'n ofid gen lawer
A daed oedd d' arfer, a'th burder, a'th barch,
Fod temel Crist Iesu yn cael i dirmygu
I amcanu i dirymu drwy amarch.
"Rhai gwyr ymhob goror ant allan o ordor,
Ni chymrant hwy gyngor gan ddoctor o ddysg,
Gwell gennyn nhw wrando gwenieithwr, gau athro,
I'w gwyro a'u gogwyddo i goeg addysg."
Ti a fuost gyfannedd, yn cynnal trefn santedd,
Ac athro'r gwirionedd, cysonedd i sain,
Nod camwedd, nid cymwys, amberchu'r brif eglwys,
A thithe'n baradwys i Brydain.
"Mi gefes fy henwi'n deg addas dŷ gweddi,
A phawb yn fy mherchi, trueni ydi 'r tro;
Mae 'rwan gaseion na charan ferch Seion
Yn mynd i dy Rimon i dremio."
C'wilyddus i Gymry fod yn dy ddirmygu,
Mae rhai yn rhyfygu i dynnu dy dop;
Gwell na gwin cynnes ydi sugno dy fynwes,
A thithe'n ben aeres yn Ewrop.
"Mi gefes anrhydedd dros lawer can mlynedd,
Nes torri pen rhinwedd, oedd luniedd i'w le,
Hawdd heddyw fy hebgor, mae ambell ysgubor
Yn gystal am onor a minne."
Nid ydoedd gyfreithlon i grefftwr ne hwsmon
Mo'r bod yn athrawon, fel Aron i'w lu;
Ple cawson awdurdod i'w teie cyfarfod,
Nac esgus yn gysgod i ymgasglu?
"Gwr cymen i dafod, ac ysgafn fyfyrdod,
A gymer awdurdod heb wybod i bawb,
Fo geiff fod yn urddol i'r secte neillduol,
Heb droedio o fewn ysgol un esgawb."
Hwy ffrostian o'u crefydd, a'u ffydd, a'u ffordd newydd,
Gan farnu'r Difeinydd, rheolydd yr hen;
Mae "ysbryd" bwriadus i'w dysgu'n ofalus,
Sy well na rhad iachus Rhydychen.
"Gwylia gamgym'ryd, a choelia fi'n dwedyd,
Mae'n debyg fod ysbryd rhy ynfyd i'w rhan;
A llawer croes lwybyr i falcio'r Ysgrythyr
A gawsan drwy synwyr draws anian."
Y lan eglwys ole, ti a fuost mewn blode,
A ffraeth i ddwyn ffrwythe difryche'n dy fron;
Pa fodd y dae'r efre i blith dy wenithe,
In twyllo ni am lysie melusion?
"Chwynn gw'lltion i dyfu, pan oeddech chwi'n cysgu,
A gawsan gynyddu, am i chwynnu mae'n chwith;
Pan aethan yn amal, heb neb yn i hatal,
Nhw wnaethon ddrwg anial i'r gwenith."
Rhai'n rhith Protestanied a drodd lawer siaced,
Wrth droi gen fynyched y rhwyged yr hedd;
Troi heddyw, troi fory, troi drennydd i ynfydu,
A gwadu, tan grynnu,'r gwirionedd.
Ti a welest, yr henddyn, pan oeddit yn llencyn,
Yr ŵyn yn dwyn newyn ar dyddyn mawr da;
A'r bleiddied, gau ddeilied, yn drech na'r bugeilied,
Yn erlid y defed i'w difa."
Mi weles ddiystyrwch, blin oedd, heb lonyddwch
Na chân o ddiddanwch, anharddwch i ti;
Gen lais adar llwydion, a'u hesgyll yn gryfion,
Yn gyrru y rhai duon i dewi.
"Daeth help gwedi hynny, drachefn i'm derchafu,
Er perffeth bregethu trwy Iesu bob tro,
I gorlan y defed ni ddae un o'r bleiddied,
A enwid y Rowndied, i wrando."
Pan oeddwn i'n fachgen mi weles fyd llawen,
Nes codi o'r genfigen flin filen yn fawr,
I ladd yr hen lywydd, a dewis ffydd newydd,
Ac arglwydd aflonydd yn flaenawr.
"Gan ddynion afradlon, un fath a hil Amon,
A garen y goron, a gawson fawr gas;
Fy mhen i a wahanodd, a'm ffydd a ddiflannodd,
Ymrannodd a darniodd y deyrnas."
Mae'n berig fod anras yn digwydd i'r deyrnas,
Llid llydan o'n cwmpas yn ddiras a ddaeth,
Wrth ysgwyd y cledde ti a wyddost y dechre,
A lenwe galonne â gelynieth.
"Awdurdod o Annwn a gafodd ddrwg nasiwn
I gadw, ni a gofiwn, oer sesiwn ar si;
Er claddu'r corff graddol, rwy'n ofni'r gwaed reiol
Na phaid o'n dragwyddol a gweiddi."
Gweiddi mae fo eto, a'r ddaear sy'n cwyno
A'r awyr yn duo, a dial gerllaw;
Er hir gysgu'n esmwyth, ar Ahab a'i dylwyth
Digwyddodd ewymp adwyth cyn peidiaw.
O waith y gwyr gwaedlyd yn Llundain 'r un ffunud
Rhaid ydoedd dwyn pennyd anhyfryd yn hir;
Yn ddialedd na ddelo a fo gwaeth i'n caethiwo,
Mae'n hawdd i ni wylo am y welir.
Fe ddaeth rhyw sur wreiddyn aflesol o Lasfryn [1]
A dyfod yn sydyn mewn blwyddyn yn bla,
I dwyllo golygon rhyw dinerth rhai dynion,
Oedd weinion, mor oerion a'r eira.
"Fe dyfodd tair cangen, siwr felly, o sur 'fallen,
A ffrwythe cenfigen, a chynnen, a chas;
Mae'r sorod aflesol yn lle'r grawn ysbrydol
Trwy'n gwlad yn gynyddol anaddas.
"Morafiad amryfus, a'r Methodist moethus,[2]
A'u llid yn drallodus, rai bregus heb rol,
Disenter anghelfydd, wr tradoeth, yw'r trydydd,
Yn gwadu'r eglwysydd gwiw lesol."
Fe dyfodd ymryson yn awr rhwng athrawon,
A rhai o'u disgyblion. anoethion i nad,
Dan obeth i chwithe gael llonydd yn llanne
Heb wrando mo'u geirie digariad.
"Fe'm rhoed yn briodol i ddynion Cristnogol
Rai taerion naturiol, yn siriol nesau,
Fe ddaeth ordderchadon, fel caeth wragedd Sol'mon,
I'w cael yn gariadon, goeg rwydau."
Dydi fydd fam ufudd i fagu gwir grefydd,
A pher dy leferydd am newydd o'r ne;
Os awn i dai estron, draw heibio i dŷ Aron,
Ple cawn ni'n gofynion, gwae finne?
"Dere i dŷ Aron, mae anwyl ddisgyblion
Ith aros, a thirion athrawon wrth raid;
Daioni gei di yno, digonedd heb gwyno,
Am ddim a berthyno, 'n borth enaid.
Y demel urddedig, i'th alw'n gatholig,
A fo byth bendigedig, i gadarn barhau,
A'th byrth yn agored i bawb o'r ffyddlonied,
Hardd gweled dy lonned ar liniau.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Os oes yma gyfeiriad at yr Anghydffurfiwr William Pritchard, o'r Glasfryn, a anwyd yn 1702, rhaid fod y pennill hwn a'r ddau sy'n dilyn wedi eu hychwanegu gan rywun ar ol dyddiau Huw Morus. Nid ydyw'r pennill hwn, na'r tri dilynol, yn y "Blodeugerdd" nac yn "Eos Ceiriog."
- ↑ Codwyd y penhillion hyn o lawysgrif un yn ysgrifennu tua 1750. Erbyn hynny yr oedd John Wesley wedi bod yng Nghymru, a Howell Harris wedi pregethu, a Williams Pant Celyn wedi canu a chyhoeddi emynnau. Cymerodd y gair "Methodist" le y gair Presbyteriad": gwelais of llaw ddiweddarach yn newid y gair a'i ansoddair mewn amryw ysgriflyfrau. Ond gweler y nodyn blaenorol ar Lasfryn.