Gwaith Huw Morus/Ysgoldy
Gwedd
← Mawl Merch | Gwaith Huw Morus gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Serchog wr enwog → |
YSGOLDY.
HEOLDAD ysgol dŷ dysgu—costfawr,
Cistfaen ieithoedd Cymru;
Congl y beirdd, cywyddfeirdd cu,
Tŵr y cynnyrch, ty'r canu.
Annedd y Groeg, neuadd gron—cynhwysfawr,
Cynhesfa prydyddion;
Caer dreiddiog, côr derwyddon,
Clydle teg, clod y wlad hon.