Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Araeth i Ddafydd ab Bleddyn

Oddi ar Wicidestun
Marwnad Syr Rhys Wgan Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Moliant Syr Hywel y Fwyall
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dafydd ap Bleddyn
ar Wicipedia

XXVII. DAFYDD AB BLEDDYN.

ARAETH I DDAFYDD AB BLEDDYN, ESGOB LLANELWY.

DA iawn fu Fordaf, naf nifeiriawg
Da fu Nudd o fudd wrth anfoddawg,
Da fu Run i hun fu heniawg—o serch,
Da fu Rydderch, gwr ardderchawg.

Da fu Ruawn Befr, da fu Efrawg,
Da iawn fu Feiriawn, da fu Fwrawg,
Gwr coedd mwyn oedd Mynyddawg—Eiddin
Da Gynin, dewin gair godidawg.

Da fu Morien, hoew—ner muner manawg.
Da fu Edwin, ddaw i'n frenin freiniawg,
Goruchaf adaf, barnaf Eudaf oediawg,
Da fu heb gelu Goel Goedebawg,
Da fu Eidiol enau eiriau oriawg
Ys gwell går i bell gwr pwyllawg—balchryw,.
Ni bu i gyfryw, llyw galluawg.


Os rhaid mynegi, pwy rhi yr hawg—
Dafydd ap Bleddyn yw'r dyn doniawg,
Gwr perffaith, iawnwaith, enwawg—sancteidd-bryd,
Gwr o lwyth Uchtryd, nid bryd branawg.
Gwr digrif, gwr rhif, nwyf tylwythawg,
Gwr teuluaidd doeth, gwr cyfoethawg,
Gwr digabl roen, chwaen chwannawg—i gerdd-lais,
Gwr a gar priflais prelad baglawg.

Gwr gwiw gwyl ydyw, gwr goludawg,
Gwr gwar, hygar, car coronawg,
Gwr iesin, lladwin letenawg—cydostwng,
Gwr diflwng teilwng, talaidd, gwisgawg.

Gwr cywir a gwir gwaredawg,
Gwr cymen, llawen, lliw cenhedlawg,
Gwr coedd rhwydd, wersoedd addolawg—cydwedd,
Gwr cwbl i gampau, cenau Cynawg.

Gwr dwyfawl i hawl, hwyl anlloeddawg,
Gwr celfydd dedwydd a godidawg,
Gwr ato Mair, gair gorfodawg,
Gwr iawn hoew radlawn'n hirhoedlawg,
Gwr hyborth i borth, aberthawg—gwisga
Gwrda'n lle Asaff, iawn lluosawg.


Nodiadau

[golygu]