Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Araeth o Fendith ar Lys Hywel Cyffin

Oddi ar Wicidestun
Moliant Syr Rhosier Mortimer Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Owen ab Gruffydd o Lan Tawy

XLVI. ARAETH O FENDITH

AR LYS HYWEL CYFFIN, DEON LLAN ELWY.

DA yw bendith bardd a Duw bendig,
Ar y maendy a'r plas mau da heb blyg,
Ar baun difai, doeth, ar bendefig,
A'r neb piau hon, nid pwyll llyg,
A'r meistr Hywel hael yn rhoi'n ystig,
A thafarn o win, aur a thefig,
A'r un a'i deil, Basg a Nadolig;
Ag yn lluniaethu gwyr ni thy'gwyg,
A'r cardnal llwyd a'r cardweg;
Ar wern y glasdir wirnef glwys deg;
A'r orddiwes gaer, a'r ardd ddi-wag,
A'r llys i hangwen, a'r llesau-fag,
A'r llew, e fu dda, nid llaw fyddag,
A'r lle y rhennir beirdd, nid llaw rannag,
A'r neuadd fyrdd-fawr, newydd fardd-fag,
A'r gwirodau medd, ior euddwg;
A'r gwrddeiddrwydd y gwrdd diddrwg,
A'i fara, ai gwrw, a'i fêr, a'i gôg
A'r lle amla clêr mal llu amlwg,
Ar llaw Asa lwyd, ior lluosog.
A'r ffiolau aur oruth olwg,
A phob dyn o'r llys, a phawb a'i dwg,
A'r cwrw hyfaidd mal cris hafog.


Nodiadau

[golygu]