Gwaith Iolo Goch/Barf y bardd
← Barf y bardd a'i rhwystrodd i gusanu | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
I ddiolch am ariangae → |
IV. BARF Y BARDD. (2)
AI dydi, farf, a darfodd
Y ferch a'm cusanai o fodd?
Rhy-dew y fan y'th blannwyd,
Cnwd mawr ar y cnawd im wyd;
Wyddelig arw! ddolem,
Wrth edrych i'm drych am drem.
Aeth fy ngwep a'm wynepryd,
Gol gen, yn geden i gyd.
Er llwyred darffo y llori,
A'r modd yr eillier i mi,
Nid llyfnach, ddianach ddysg,
Na chroen y gwrboen garw-bysg;
Nid oes, gan Wen, i'm genau,
Fawr fodd am y farf fau;
Garw, gan deg i gorhoen,
Fal llysiau "cribau'r croen;"
Garw erioed oedd gwr i rudd,
Gwrych boeni, garwach beunydd;
Mintai o ardiau mantach
Budd o wraidd o bydd i wrach;
Mae ar fy llechwedd, meddan,
Ddeunydd mil o ddannedd mán,
Pais draeniog oediog ydyw,
Pwn ar en, fal pen o'r yw;
Blina col, blaenau celyn,
Symlau dur yn symlu dyn;
Blew hen-hwch, o ble hanwyd,
Cnwd o egin eithin wyd.
Llym a glew yw pob blewyn,
Grug dôl yn gorugaw dyn;
Megis morarw y magan'
Esgyll, mil o ysgall mân.
Yr wyd fal sofi ar rew,
Heb haen yn sythflaen saethflew,-
Dos ymaith rhag dwys amarch,
Do gên, fal bon myngen march;
A gwnai fy ngên yn henaidd,
A dŵr gwres y daw o'r gwraidd.