Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Barf y bardd a'i rhwystrodd i gusanu

Oddi ar Wicidestun
I Euron, pan oedd glâf o serch Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Barf y bardd

III. BARF Y BARDD.

A'I RHWYSTRODD I GUSANU EI GARIAD.

DOE'R pryd hwn yr oeddwn i
Drwy fedw yn ymdrafodi,
Ag Euron hardd, goroen hoew,
Gorwyr Eigr, gair oreu-groew.

Gafael daer am y gofl deg,
A gefais, gwn i gofeg;
Gafael arddwrn a gefais,
Gaifn hael am gefn ei hais;
Gafael chwith a wnaeth hithau,
Agwedd mwyn, am y gwddw mau;
Ymwasgu fal cwlm ysgwthr,
Am aur coeth ymwyrio cwthr;
Ymgusanu y buam,
Ni bu hir hynny, baham?
Diystyr oedd, diystryw oer,
Gan fun oleulan liw-loer,
Ymysg y coed am was cu,
Am esgyrn cul ymwasgu,
Goglais ganti pan giglau,
Trawswch a blew mor-hwch mau.
Fy marf gneifiedig ddig ddysg,
Crin gorbedw, fal croen garw-bysg;
Rhisglen hea geubren gobraff,
Yn rhisglo'r grudd fel rhasgl graff.

"Wt," eb Gwen, nid ateb gwych,
"Paid ti, poed oer y peidych;
Nesa hwnt, flew danas hen,
Siomgar wyt; a oes amgen?"

Cael serthedd, ciliais wrthi,
Ni chwery'r ferch, ni châr fi;
Diriaid iawn fu'r drudaniaeth.
Pa ddiawl aneddfawl a wnaeth
I gleiriach, bwbach y bobl,
Gusanu'r gwefus sinobl?
Digri oedd weled, ged gu,
Deugorff wen yn ymdagu;-
Aethum a'm bargod eithin,
Em aur, i feingil i min;

Ysglyfiais bacs diwacsa,
Is gwef dyn, bu ysgwfl da;
Darfu i'm dyllu, heb dwyll,
Barbed fy mun syber-bwyll;
Briwais glaer wyneb braisg lamp,
A bochgern merch ddibechgamp;
Gwesgais, digroenais i grudd,
Gwasgrwym tost ar ddyn gwisg-rudd;
Garw yw o beth ar gwrr boch,
I bod fel bargod burgoch;
Bondo fal brig perth bendew,
Byrion yw blaenion y blew;
Tin âb gul, teneu heb gig,
Twyn o for-frwyn ofer-frig;
Cardiau o beithynau bwth,
Neu rawn moelrhawn ymyl-rhwth;
Cloren lom, culor-hesg,
Colion haidd, celyn a hesg;
Draenoges ddiles ddialedd,
I ddigio'r wiw ddwyan wedd;
Gwnawd yn ol medd-dawd i mi
Gneifio 'marf, gnuf mieri;
Ni aill hi, nawell yw hyn,
Eillio hon â min ellyn;
Anrhegion mawr anrhygoll
A gaffwn, ped eilliwn oll;
Diofryd peth diafryw
A roddaf, o byddaf byw.
Cneifio 'marf, cyn i tharfu
Cneifiad oen, cynhaeaf du;
Dros i gadu'n draws geden
I dyfu gaeaf gnu gên,
I guddio'r croen a'r gwddw crych
A'r ddwyfron mor arddifrych—
O mynnaf, serchoccaf son,
Ymgaru, mi ag Euron.


Nodiadau

[golygu]