Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Englyn i'r Drindod

Oddi ar Wicidestun
← Duw Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Cyffes →

XVII. I'R DRINDOD.

Duw Dad, Duw Fab, rhad priodol—dwys braff,
Duw Ysbryd sancteiddiol;
Duw Tri'n Un, nis detry'n ol,
Duw yw hwn, diwahanol.


Nodiadau

[golygu]