Gwaith Iolo Goch/Cyffes
← Englyn i'r Drindod | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Gweddi ar Grist → |
XVIII. CYFFES.
CRAIR cred, ced cynnydd
Creawdr llu bedydd,
Crist fab Duw Dofydd,—
Cyn dydd di—hedd.
Gan na wn pa bryd,
Pa awr, pa enyd
Y'm dyci o'r byd—
Diwyd diwedd.
Arglwydd Dad, mad mawr,
Eurglo nef a llawr,
Erglyw fi bob awr,—
Gwawr gwirionedd.
I ti y cyffessaf,
Ag yr addefaf,
Can wyt bennaf Naf,—
Nawdd tangnefedd.
Pechais yn llwyr
O bob rhyw synwyr,
Rhwng llawr ag awyr—
Llwyr argywedd.
Saith priawd pechawd,
Glythni a medd—dawd,
Chwant cnawd, cas ceudawd,—
Cadarn nychwedd.
Methiant, glythineb,
Gwneuthur godineb,
Casineb ceudeb—
Cadw fy salwedd.
Balchder syberwyd,
Torri diofryd,
Cymryd bywyd amryd,—
Am ryw faswedd.
Goganu tybiaw,
Dyscu dymunaw,
Llidiaw a digiaw,
Dygn greulonedd.
Colli pregethau
Ag offerenau,
Maddeu y Suliau—
Moddau salwedd.
Gair meddwl angred,
Cilwg camgerdded,
Gweithred anwared,—
Gwth enwiredd.
Cyhuddaw gwirion,
Cam ddychmygion,
Honni trawsolion—
Hylithr ddeuredd.
Gochel maddeuaint,
Digio rhag hir—haint,
Torri nawdd—dir saint—
Braint brenhinedd.
Tyngu anudonau,
Ar werthfawr greiriau,
Cam gredu ac amau,
Geiriau gwiredd.
Trais, twyll, brad, cynnen,
Mwrn, lladrad, absen,
Llid a chenfigen,
Rhen pob rhinwedd.
Gwag cynnwys glwys glyw,
Gwawr mawr marw a byw,
Gwirion dad rhâd rhyw,—
Llyw llaweredd.
Dy nerth a archaf,
Dy nawdd a alwaf,
Dy ras a geisiaf,—
Naf nefawl wledd.
Rhag cwn dieflig,
Rhag hun gwenwynig,
Rhag cynnen dremig—
Dig digasedd.
Rhag drwg mŵg mign—wern,
Rhag gwaith gaeth gethern,
Drewiant cyrn uffern,—
Diffaith ddygnedd.
Rhag trais tragwyddawl,
Tân trwch callestrawl,
Tanawl uffernawl,
Ffyrnig drwythwedd.
Rhag tanllyd sudd—bwll,
Tanllwyth flam gymwll,
Tinllwn trwch rhwdbwll,—
Trydar llesgedd.
Rhag uffern boenau,
A'i ffeilsiau dyrau,
Cadwynau, rhwymau,—
Dreigiau drygwedd.
Rhag pwll fwrn pillfaf,
A'r gweisiau gwaethaf,
Uffern llid addaf,—
Drymaf dromwedd.
Rhag poen aruthrgar,
Poeth ferw tân llachar,
Pwll byddar daear,
Du-oer fygnedd.
Rhag lith llwythau blin,
Llys uffern fegin,
Llin Adda fyddin,
Gerwyn gyredd.
Brenhinawl Fab Mair,
Brenhinawl oreu—grair,
Brenin nef y'th wnair—
Gair gorfoledd.
Ti a faddeuaist,
Da y meddyliaist,
Y dydd y'n prynaist,
Ar bren crogwedd.
Dy boen a'th alaeth,
A'th ferthyrolaeth,—
Y rhai a'i gwnaeth,—
Eurfaeth orfedd.
Wrth hynny, Arglwydd,
Cadarn di—dramgwydd,
Cedrwydd cyfyngrwydd,—
Cof oferedd.
Gwna, Ddofydd, faddeu,
Fy holl bechodau,
A'm ddwyn i'th ddehau,
Oleu wledd.
Mal y maddeuwyf,
A wnaethbwyd trwy nwyf,
Ar fy nghnawd o nghlwyf,
Glew ddigllonedd.
O gawdd, o godded,
O drais, o golled,
Ag o bob niwed,—
Cured caredd.
I'th ddeheu, ddewin,
I bwyf gynefin,
Cyn rhwym daerin,—
Erwin orwedd.
Lle mae lle difrad,
Ar lawr llathd gwen—wlad,
Lle mae goleuad,—
Rhad anrhydedd.
Lle mae digrifwch,
A phob rhyw degwch,
Lle mae diddanwch,—
Deilwng orsedd.
Lle mae cywirdeb,
Lle mae diweirdeb,
Lle dibechod neb,—
Lle da buchedd.
Lle mae gorffwys,
Yng ngwlad paradwys,
Lle mae mirain—lwys,
Lle mae mawredd.
Lle mae nefolion,
Lle mae urddolion,
Lliaws angylion,—
Gwirion garedd.
Lle mae eglurder,
Lle mae dwyfolder,
Lle mae Ner nifer,—
Nefol orsedd.
Crist cred ced cadair,
Arglwydd pob cyngrair,
Erglyw fi, Mab Mair,—
Berthair borthedd.
Cyd bwyf bechadur,
Corfforawl natur,
Rhag tostur dolur,—
A mawr ddialedd.
Canys wyd Frenin
Ar ddeheu, Ddewin,
Hyd y gorllewin,—
Llywiawdr mawredd.
Canys wyf gyffesawl,
Ag edifeiriawl,
A Mair i'm eiriawl,—
Am oferedd.
Canys wyt freninocaf,
A delidiocaf,
Canys wyt oruchaf,—
Naf, na'm gomedd.
Er dy ddiwedd loes,
Er dy greulon groes,
Er poenau pum—oes,
Bum bustl chwerwedd.
Er y gwaew efydd,
A frathodd yr efrydd,
Tan fron Dofydd,—
Ddwyfawl agwedd.
Er dy weliau,
Clyw fy ngweddiau,
Er dy grau angau,
Ing yn y diwedd.
Er dy farw loesion,
Gan ddurawl hoelion,
Er dy ddrain goron,—
Dy drugaredd.
Er dy bum weli,
Er dy gyfodi,
Crist, Celi, a'th fersi—
Rhwym fi i'th orsedd.
A'th falch ddyrchafiad,
Ar ddeheu dy Dad,
Dod i'm gyfraniad—
O'th wlad a'th wledd.