Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Gweddi ar Grist

Oddi ar Wicidestun
Cyffes Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Sant Anna

XIX. GWEDDI AR GRIST.

Criste audi nos,
Cratón cyrios,
Rhag ymaros,
Rus gamwriau.

Agnus dei,
Alpha et Omega,
Deus homo,
Dios ameu.

Rex redemptor
Rhaid it hepcor,
Iawn rhyw gyngor
In rhag angeu.

Ef ni ehed,
Ef ni aned,
Ef ni weled,
Yn iawn oleu.


Ar fro na thir,
Ef ni welir,
Er yn ddyhir,
Ef yn ddiau.

Ef yw'r dial,
Am yr afal,—
Un anwadal
I anwydau.

Ef yn uchel,
Ef yn dawel,
Ef yn isel,
Ef yn asau.

Ef o'i arwydd,
Yn gyfarwydd,
Ef yn ebrwydd,
Ni fyn wobrau.

Yn bwhwman,
Yn tra buan,
Draw ac yman,
Drwy i gamau.

Ef ni bydd hyn,
Yn y flwyddyn,
Ni wybydd dyn,
Ef ni bydd iau.

Ac ef a gryn,
Ac ef ni ryn,
Ac ef a dyn,
Ac ef a dau.

Nid llesg lle dêl,
Nis llysg eufel,
Nis lludd oerfel,
Nis lladd arfau.


Nis baidd llwfr,
Nis ery dilwfr,
Nis bawdd cleuddwfr,
Nis baidd cleddau.

Nis rhed yn ddwys,
Nis gorffwys,
Nis daw cynnwys,
Nis dwg heiniau.

Nid marw, nid byw,
Nis gwn beth yw,
Dyn nis erglyw,
Dan is oer glai.

Nis gwlych cawad,
Nis gwyl llygad,
Yn gwir iawn Dad,
An gwarendai.

Gwir Frenin Nef,
Er dy dangnef,
Er dy oddef
Y dioddau.

Er dy loesion,
Er dyniadon,
Er dy goron—
Wrda gorau.

Er dy gystudd,
Er dy gythrudd,
Iaith oloew-rudd,
A'th ddoluriau.

Er dy unpryd,
Er pobl y byd,
Er dy benyd,
Er dy boenau.


Er dy gynneddf,
A'r deng-air deddf,
Wr diweir greddf,
Er dy wir-grau.

Er dy saint, oll,
Er dy archoll,
Er dy fronfoll,
Er dy freiniau.

Er dy godded,
A'th fron waedled,
Wr diweir-gred,
Er dy wir-grau.

Er dy bryder,
Ar dduw Gwener,
A'th wiw leufer,
A'th weliau.

Er dy ganmawl,
Frenin nefawl,
Athro gyrawl,
Athro gorau.

Moes im ddeall,
Yn wrthladd ball,
Ior diweir-gall,
Er dy wir-grau.

Hyn a fynnaf,
Hyn a gaffaf,
Hyn a geisiaf,
Oes negesau.

Nawdd y wirgroes,
A nawdd Idloes,
A rhoi im oes,
Mi a'r rhai mau.


Nawdd Maria,
A nawdd Anna,
A Seint Assa,
A santesau.

Nawdd seint Enlli,
A nawdd Cybi,
A nawdd Dewi,
Nudd y deheu.

A nawdd Ieuan,
A nawdd Cadfan,
A nawdd Sannan,
Nudd y seiniau.

Nawdd Mihangel,
A nawdd Gabriel,
A nawdd Uriel,
Y nawdd oreu.

Nawdd seint y byd,
I'm cymlegyd,
I ymoglyd
Rhag y maglau.


Nodiadau

[golygu]