Gwaith Iolo Goch/Marwnad Ithel ap Rhotpert
← Owen Glyn Dwr | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Moliant Syr Rhosier Mortimer → |
XLIV. MARWNAD ITHEL AP RHOTPERT,
O GOED Y MYNYDD, ARCHDDIACON YSGEIFIOG.
ERES y torres terra,
Yr awr hon blanhigion bla;
Ac eres y mag oroín,
Arni bellen ddefni ddofn ;
Achreth o oergreth ergryd,
Rhag sies o grynwres y gryd;
Tymmestl a ddoeth, nid duw-Mawrth-
Dydd mawr rhwng diwedd y Mawrth.
A'r Ebrill, digrill dygn in.
Difiau bu dechreu dychryn;
Rhwng y dydd newydd a'r nos;
Bychan a wyr ba achos;
Mawr o wth, marw Ithael
Mab Rhopert, mab pert, mab hael,
A roddes i ni ruddaur
Llydan ac arian ac aur.
Maen rhinweddawl gain a gaid
Mererid glân mawr euraid
Glain gwerthfawr engyl-fawr Eingl,
Glân da teg, gloyn Duw Tegeing];
Car i wlad gwledychiad gwledd,
Croes naid ac enaid Gwynedd;
Brawd engyl bryd ieuengaidd,
Pob drwg a da, pawb a draidd;
Neb arno ef ni barnai,
Am na bu fyw ef, fu'r bai;
Ni bu eto o'r Brytwn,
Un mor hael gan marw hwn;
Gwae hwynt, gler, mewn gwynt a glaw,
A'r ddaear, wedi'r dduaw.
Ni bu ar honno cyd bo byrr,
Dymestl nac un ardymyr,
Hyd heddyw anwiw anwir,
Gyfriw a hyn, gwae fi, Ior hır.
Mae Duw gwyn, amodeg oedd,
O foliant i fil filoedd,
Mal y gwnae'n amlwg o nef,
Da oedd, gwedi dioddef,
Pan darfu dirfawr orwag
Ysbeilio uffern, wern wag,
A chrynu, och o'r anwyd,
O'r ddaear lydan lân lwyd!
Yna y danfones Iesu,
Yn ol i fab, anwyl fu,
A llu engylion, fal llyn,
Ion eurbarch yn i erbyn,
Yn lleisiaw salm llais hoew-lwys
A letania yn dda ddwys.
Yr awrhon, nid llai'r owri
A ddaeth i gyd, cyn bryd bri,
I hebrwng corff teilwng teg
Yr abostol heb osteg.
Ni ddoeth i gyd o ddoethion,
Y sawl, yn yr ynys hon.
Hyn a wnaeth yr hin yn oer,
Cael adlaw o'r caled-loer,
Y ddaear ddu ddyrai ddwst
Yn crynnu, faint fu'r crynwst.
Mam bob cnwd bwrw briw-ffrwyth
Mantell oer rag maint i llwyth.
Pan gychwynnwyd, breuddwyd brau,
I'r Eglwys, lân aroglau,
O Goed y Mynydd, ag ef,
A'i dylwyth oll yn dolef;
Llawer esgweier is gil,
Yn gweiddi fyth,—"Gwae eiddil."
Llawer deigr ar rudd gwreignith,
Llawer nai oer, llawer nith,
Llawer effaith a dderyw;
Och fi, na bai iach fyw!
Aml gwaedd groch, gan gloch gler,
A diaspad hyd osber,
Yng nghylch y corff mewn porffor,
Yn canu, cyfaneddu côr.
Arodion saint ar redeg,
A wnai'r cwfaint termaint teg,
Gwae ddwy fil! Gwae i ddyfod
O fewn yr eglwys glwys glod!
A chlywed, tristed fu'r trwst,
Clych a chledr, cler achrydwst.
A goleuo gwae lawer,
Tri mwy na serlwy y ser,
Tortsiau hoew, ffloyw fflamgwyr,
Fal llugyrn tân, llychwyrn llwyr.
Mwy na dim oedd mewn y deml,
O'r gwyrda beilch, gwiw ar-deml;
Rhai'n gwasgu bysedd, gwedd gwael,
Mawr ofid, fal marw afael.
Rhianedd cymyredd cu,
Rhai'n llwygo, rhai'n llewygu,
Rhai'n tynnu i top boparth,
Gwallt i pen megis gwellt parth;
A'r rheidusion, dynion dig,
Yn udo yn enwedig;
Siglo a wnair groes eglwys,
Gan y godwrdd a'r dwrdd dwys;
Fal llong eang wrth angor,
Crin fydd yn crynnu ar for;
Gwae di, Iolo! Gwae i deulu,
O'r pyllaid aeth i'r pwll du;
Bwrw mân raean neu ro,
Ar i wartha fu'r ortho;
Ac o lawer awr fawr fwriad,
Pawb o'i gylch, fal pe bai gad;
Hysbys ym mhob llys a llan,
Dorri'r ddaear yn deiran;
Drwg y gweddai, dra gweiddi
Am wr fal ef, nef i ni.
Gwedi cael, hael henuriad,
Oes deg gan Dduw ag ystad.
Gwell tewi na gweiddi garw,
Yn rhygollt tost am rhygarw.
Llyma oedd dda, iddo ef,
Addoli Crist heb ddolef.
Gydag Eli, sengi sant,
Ag Enog mewn gogoniant.
Ni ddeuant, y ddau sant ddwys,
Brodyr ynt, o baradwys,
Oni ddêl hoedl i'w law,
Dydd-brawd yn yn diwedd-braw;
Ni ddaw i ben mynydd maith,
Olifer borffer berffaith,
Ion archdiagon degach,
Nag fydd Ithel uchel ach.