Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Marwnad Tudur Fychan

Oddi ar Wicidestun
Moliant Syr Hywel y Fwyall Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Edwart III, Brenin Lloegr
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Tudur Fychan
ar Wicipedia

XXIX. MARWNAD TUDUR FYCHAN.

CLYWAIS ddoe i'm clust ddehau,
Canu corn cyfeiliorn cau;
Ië, Dduw! a'i wedd ddiorn
Pa beth yw y gyfriw gorn?

"Galargyrn mychdeyrn Mon,"—
Gogleisiwyd beirdd gwag loesion.
Pa dwrw yw hwn, gwn gan och?
Pa ymffust i'm clust mal cloch?

"Marw,—y chwedl,—pencenedl doeth
Tudur, arf awchddur wych-ddoeth;
Ni fwrniwn ddim o'i farwnad,
Fychan, marchog midlan mad.
Chwerw iawn yw gennym, a chwyrn,
Cytgerdd rhwng clych ag utcyrn.

Pa weiddi! Pwy a wyddiad,
Yw hwn a glywn i'n gwlad?

"Ubain, a llefain a llid
Am y gwr mwya gerid,—
Calon pawb, nis coeliwn pwy,
Calon doethion Tindaethwy.
Llygrwyd Môn, myn llaw Egryn,
Llygrwyd oll lle goreu dyn;
Llygrwyd Cymru, gwedi gwart,—
Llithriced pobl llwyth Rhicart.
Dwyn llew bryn, byrddau dan llaw,
Dadwreiddiwyd i dy drwyddaw.
Dygn ymchwel, dwyn hoedl hardd,
Dygn waith dwyn brawd-faeth brud-fardd.
Wyr Rhirid Lwyd, euraid lwyth,
Flaidd ddifileindraidd flaendrwyth;

Dyrnod pen, hyd ymenydd,
Ar dlodion gwlad Fôn fydd.
Llywiodd Wynedd, llaw ddi—nag,
Llas pen Mon wen—mae'n wag."

Beth, o daw heibio hebom
I'r Traeth Coch lynges droch drom?
Pwy a ludd gwerin—pwl ym—
Llychlyn a'u bwyeill awchlym?
Pwy a gawn, piau Gwynedd?
Pwy a ddyrchaif glaif neu gledd?
Pwy nid wyl penyd alar?
Pwy mwy uwch Conwy a'ch câr?
Pan fu farw rhygarw rhugl,
Ffyniant hil, naf Bryn Ffanugl;
Ffelaig ysgythrddraig Uthr ddrud,
Ffy Mon o daw ffw a mud;
Ac oesawr oedd fawr iddo fraich,
Yswain waew 1lithfrain llwyth fraich;
Dillyn Mon frêyrion fro,
Deallai bwyll dellt ebilldo;
Gwyrennig câr pwyllig pell
Cartre'r cost, carw Tre'r Castell;
Gwae'r deau, rhaid maddeu'r medd,
Gweddw iawn, gwae ddwy Wynedd;
Gwae'r iyrch mewn llennyrch, mae'n llai,
Gwae'r ceirw am y gŵr a'i carai;
Gwae finnau, heb gyfannedd—
Gweled bod mewn gwaelod bedd,
Anhudded oer iawn heddyw,
O'i roi a phridd ar i ffriw;
Bod yn ddihir yn nhir erw,
Yng nghudd i ddurudd dan dderw.
Nid ydoedd ef gynhefin,
A rhyw wely gwedi gwin;
Gnotach iddo wisgo'n waisg
Yn ymwân frwydr, ion mwyn-waisg;

Helm gribog rudd-faelog-fyth,
A habrsiwn, walch glew hybrsyth.
Ni chollai wan, gwinllan gwyr,
Dref i dad, dra fu Tudur;
Ni phlygid gâr Anarawd,
Odid y doi lid i dlawd.
Na ddalier ych dan wych wedd,
Na ynganer yng Ngwynedd,
Na sonier am a dderyw,
Na lafurier, ofer yw;
Na chwardder am wych heirddion,
Na hauer mwy yn nhir Mon.


Nodiadau

[golygu]