Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Ail godir muriau Salem befr

Oddi ar Wicidestun
Bydd nos y bydoedd mawr Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Myddfai

AIL GODIR MURIAU SALEM BEFR

AIL godir muriau Salem befr,
A bywyd wefra 'i meini;
Jehova yn ei chanol drig,
A'i engyl myg yn gweini;
A'i wenau siriol fydd ei ser,
A'i wedd ei ther oleuni.

A daw y bobloedd, lu ar lu,
O fagddu gau-addoliaeth,
A gwên Jehovah ar y glob
Wasgara bob hudoliaeth,
A chwydda'r nefoedd uchaf gan
Ddi-geulan fuddugoliaeth.

I AFFRIG bell
Anfonir mwy
Newyddion gwell
Ei farwol glwy.

Torfeydd, torfeydd, o'u rhwymau'n rhydd,
A ddeuant, deuant mewn un dydd.

Hi ddaw o'i bedd ar alwad Duw
Ar newydd wedd i fythol fyw.

ARABIA hefyd,
Gyda hi;
A phell ynysoedd
Dros y lli.

Y ddaear wisg ei newydd nef,
A chariad Duw ei deddf atynnol gref.

Nodiadau[golygu]